Fron Haul – Tai’r Chwarelwyr
Teithiwch drwy amser wrth ymweld a'n rhes o bedwar o dai chwarelwyr sy'n ail-greu gwahanol gyfnodau yn hanes diwydiant llechi.
Cychwynwch eich ymweliad a’r tai yn Rhif 4 Fron Haul. Yma gallwch weld ffilm ‘Straeon yn y Meini’ sy’n adrodd hanes y tai, y bobl fu’n byw ynddynt, a’r gwaith o’u datgymalu a’u hail-godi yma yn yr amgueddfa.
Mae'r pedwerydd ty hefyd yn cael ei ddefnyddio fel adnodd dysgu rhyngweithiol iysgolion a theuluoedd ar wahanol adegau y flwyddyn.
Mae rhif 3 Fron Haul yn ail-greu Tanygrisiau ym 1861 - yr ‘Oes Aur’ - pentref adyfodd yn sgìl datblygiad y chwareli. Byddai’r plant yn aml yn gorfod rhannu ystafell neu wely â’u rhieni. Câi blanced ei chrogi o’r nenfwd yn ystod y nos er mwyn rhannu’r ystafell a cheisio creu ychydig o breifatrwydd!
Ym 1901, dychwelodd tua 500 o ddynion i’r gwaith gan greu drwgdeimlad mawr. Credai gweddill y gymuned eu bod yn ‘Fradwyr’. Gosodwyd cardiau yn y ffenestri i ddatgan yn glir nad oedd bradwr yn byw yn y tŷ.
Mae Rhif 2 Fron Haul yn ail-greu Bethesda ym 1901 yn ystod amser Streic Fawr y Penrhyn(1900-1903) - un o’r anghydfodau hiraf yn hanes diwydiannol Prydain.
Ar 22 Tachwedd 1900, oherwydd anghydfod ynghylch tâl, cerddodd 2,800 o chwarelwyrallan o Chwarel y Penrhyn. Ni aeth 1,000 o’r chwarelwyr byth yn ôl. Nid oedd gan deuluoedd y streicwyr ddigon o arian i brynu bwyd - sylwch ar y dorthar y bwrdd. Ym 1901, dychwelodd tua 500 o ddynion i’r gwaith gan greu drwgdeimlad mawr. Credai gweddill y gymuned eu bod yn ‘Fradwyr’. Gosodwyd cardiau yn y ffenestri – fel yr un yn y tŷ hwn - i ddatgan yn glir nad oedd bradwr yn byw yn y tŷ.
Dewch i gael blas o Lanberis ym 1969 yn Rhif 1 Fron Haul – diwedd cyfnod.
Yn ei hanterth (1850-1910) roedd chwarel Dinorwig yn cyflogi dros 3,000 o ddynion,ac yn dosbarthu llechi i bob cwr o’r byd. Ond dirywiodd y diwydiant yn ystod y 1950au a’r 1960au. Ym mis Gorffennaf 1969, arwisgwyd y Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru ar lwyfan o lechfaen Dinorwig yng Nghastell Caernarfon. Fis yn ddiweddarach, caewyd ChwarelDinorwig.
Mae trydan wedi cyraedd y tŷ hwn – sylwch ar y teledu, y tân, y golau a’r chwareuwrrecordio! Mae pethau eraill wedi gwella hefyd - mae bath a toiled yn y tŷ erbyn hyn!