Dathliad Fron Haul yn 21
Yn 1999 agorwyd tai Fron Haul yn Amgueddfa Lechi Cymru, wedi iddynt gael eu symud garreg fesul carreg o'u cartref gwreiddiol yn Nhanygrisiau. Wrth i ni ddathlu'r tai'n dod i oed yn yr amgueddfa, dyma gyfle i gymryd golwg agosach ar hanes y tai a'r gwaith o'u gwarchod er mwyn i bobl gael gweld a dysgu am fywyd chwarelwyr gogledd Cymru a'u teuluoedd.
Cefndir Fron Haul
Dyma Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru a Cadi Iolen, Curadur, yn son am gefndir Fron Haul a'u pwysicrwydd yn dehongli bywyd teuluol y chwarelwyr. (I droi isdeitlau ymlaen ewch i'r symbol 'cog' i'w troi ymlaen)
Blog: 1 - 4 Fron Haul, gan Mared McAleavey
Mae Mared McAleavey yn gweithio fel curadur yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, ond ei swydd gyntaf i Amgueddfa Cymru oedd ymchwilio a dodrefnu tai Fron Haul. Dyma grynodeb o'i hymchwil o'r cyfnod hwnnw dros 21 mlynedd yn ol.
Tai Fron Haul – Darlunio Hanes
Mae Lleucu Gwenllian yn artist llawrydd o Ffestiniog – cafodd ei chomisiynu i greu cyfres o ddarluniau i gofnodi penblwydd21ain tai Fron Haul yn yr Amgueddfa Lechi. Dyma ychydig o eiriau ganddi’n disgrifio’r broses a’r profiad. Gallwch weld mwy o waith Lleucu ar ei chyfrif instagram @lleucu_illustration.
Glanhau Fron Haul
Dychmygwch gael dros 140,000 o ymwelwyr i'ch ty chi bob blwyddyn! Mae glanhau a gofalu am dai Fron Haul yn waith ofalus ac arbenigol - dyma gyfle i chi ddysgu mwy am y broses.
Cenhedlaeth newydd yn dysgu am Fron Haul
Mae Mirain Rhisiart yn gydlynydd cynhyrchu o Flaenau Ffestiniog wnaeth raddio mewn Theatr y llynedd. Ysgrifennodd Mirain gerdd am Fron Haul fel rhan o’r dathliadau Fron Haul 21. Dyma ychydigo’r cefndir i’r broses o ysgrifennu – gellir gweld y gerdd ar ddiwedd y post.
Atgofion Melys
Dewch efo ni draw i dai Fron Haul i ddysgu mwy am be oedd gwragedd y chwarelwyr yn ei goginio ar droad yr ugeinfed ganrif
Cadi Iolen: Fy Hoff Grair
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am hoff grair ein curadur Cadi Iolen
Blog Straeon yn y Meini – Prosiect Ffilm.
Y cwmni a fu’n gyfrifol am y project ffilm oedd Llun y Felin, sef cwmni Angela a Dyfan Roberts a oedd yn byw yn Llanrug. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw greu’r ffilm hyfryd o’r enw ‘Straeon yn y Meini’. Fel y tai, mae’r ffilm yn un oesol ac yn dal i gael ei dangos yn ddyddiol yn yr amgueddfa – ac erbynhyn, am y tro cyntaf, ar-lein! Yma mae Angela Roberts yn edrych yn ôl ar rai o’i hatgofion o’r broses o greu’r ffilm.
Prosiect Ysgol Tanygrisiau
Prosiect Ysgol Tanygrisiau - Mae disgyblion Ysgol Tanygrisiau wedi bod wrthi'n brysur yn dysgu mwy am hanes tai Fron Haul a'r pentref yn ddiweddar. Dyma ffilm fer wedi'i chreu ar y cyd efo Gai Toms i ddangos ffrwyth eu llafur.
Sgwrs Fyr am Fron Haul i Ddysgwyr
Dach chi'n dysgu Cymraeg? Dyma sgwrs fer yn cyflwyno hanes tai Fron Haul. Mae'r sgwrs yn addas i ddysgwyr lefel Uwch.
Ffilm Straeon yn y Meini
Ffilm Straeon yn y Meini - Crewyd y ffilm arbennig yma ar gyfer agoriad swyddogol tai Fron Haul, ac mae wedi bod ar ddangos yn y tai ers hynny. Dyma'r cyfle cyntaf i fwynhau'r ffilm yn ddigidol, 21 mlynedd yn ddiweddarach.