Gweithdai ac Adeiladau
Cafodd y gweithdai eu hadeiladu ym 1870 ar batrwm tebyg i gaer o gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig.
Mae’r cwrt canolog, tŵr y cloc a'r ffenestri cywrain yn rhoi iddynt gymeriad unigryw sydd i'w weld o hyd.
Mae'r Amgueddfa fel capsiwl amser. Mae fel petai'r chwarelwyr a'r peirianwyr newydd roi eu hoffer ar y bar a chychwyn am adref.
Gall plant ac oedolion ddeall a mwynhau ein dehongliad llawn dychymyg o olion hynod y diwydiant llechi.
Ymwelwch â thŷ'r prif beiriannydd sydd wedi eu hailddodrefnu yn arddull 1911 a chymerwch daith afaelgar o gwmpas y gweithdai, y gefeiliau a'r ffowndri haearn a phres.
Ewch i'r sied drenau i gyfarfod ag Una, injan stêm 0-4-0 61 centimetr o led a adeiladwyd ym 1905. Mae'n hollol weithredol ac yn codi stêm yn gyson. Mae'n creu argraff wych wrth stemio ar hyd y cledrau yn ei gwisg eurwerdd.
Dewch i weld y peirianwaith ynni dŵr a ddefnyddiwyd i wneud offer i gloddio llechi a'r rhod ddŵr ysblennydd sy'n ei yrru. Hon yw'r rhod ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain.