Cyfarfodydd

Rhesi o gwpanau te a soseri gwyn gyda llwyau wedi’u trefnu’n daclus ar fwrdd; goleuni meddal a chefndir aneglur.

Wedi'i lleoli'n gyfleus ar ddoc hanesyddol Abertawe, dafliad carreg o ganol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnig lleoliad cyfarfod heb ei ail yn y ddinas.

Mae ein hystafelloedd cyfarfod modern, Ystafell y Glannau ac Ystafell y Ddinas, yn cynnwys taflunwyr, gyda lle i 20–40 o bobl yn dibynnu sut y trefnir yr ystafell. Mae Ystafell y Glannau’n cynnig golygfeydd heb eu hail o ardal forwrol Abertawe.

Os ydych chi am gynnal cyfarfod mwy o faint, mae gan Ystafell Ocean ar y llawr gwaelod le i rhwng 80 a 150 o bobl ac mae'n gweithio'n dda fel ystafell bwrdd, arddull theatr neu arddull cabaret. Mae ganddi daflunyddion, sgriniau a system PA hefyd.

Ar gyfer cyfarfodydd diwrnod llawn, beth am gymryd hoe ac archwilio arddangosfeydd treftadaeth ddiwydiannol a morwrol helaeth yr amgueddfa trwy gyfrwng technoleg ryngweithiol arloesol ochr yn ochr ag arddangosfeydd traddodiadol.

Siaradwch â'n tîm i drafod gofynion eich cyfarfod, boed yn alwadau hybrid, siartiau troi neu sgriniau symudol, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo a phrisiau llogi.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cysylltwch â ni i drafod ymhellach, i logi ystafell neu drefnu ymweliad

Cysylltwch â ni

  • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau du yn wynebu sgrin fawr; llenni coch a phlanhigion mewn potiau wrth y ffenestri.
  • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau glas yn wynebu sgrin a baner '#ENDSEWAGEPOLLUTION'; posteri ar y waliau.
  • Mynedfa i Ystafell Ocean gyda drysau gwydr a waliau brics, yn adlewyrchu coed a’r awyr o’r tu allan.