Cynadleddau
Wedi’i lleoli’n gyfleus yn nociau hanesyddol Abertawe ac o fewn pellter cerdded hwylus i ganol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnig lleoliad cynadledda unigryw, sy’n llawn treftadaeth ddiwydiannol a morwrol.
Fel darparwr dysgu mwyaf Cymru y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae gennym amrywiaeth eang o fannau parod ar gyfer gweithdai, cyflwyniadau a sesiynau meithrin tîm. Ar gyfer sesiynau ymneilltuo neu gynadleddau llai, mae Ystafell Ocean sy’n arwain o’r golofnfa, yn llawn golau naturiol ac yn cynnwys nodweddion diwydiannol Fictoraidd fel y drysau llithro. Mae'r gofod yn cynnwys taflunyddion, sgriniau, system PA a gall ddarparu ar gyfer hyd at 150 o gynrychiolwyr mewn sawl trefniant gwahanol.
Hefyd, mae dwy ystafell gyfarfod arall, Ystafell y Glannau ac Ystafell y Ddinas, ar gael fel mannau ymneilltuo pellach. Mae gan y naill a’r llall daflunydd a sgriniau, ac mae ganddynt le i hyd at 40 o gynrychiolwyr.
Mae'r holl leoedd yn gwbl hygyrch, gyda lifftiau i bob lefel a thoiledau hygyrch ledled yr amgueddfa.
Mae rhagor o offer a chymorth technegol ar gael, o lwyfannu, darllenfeydd a meicroffonau i staffio technegol a chynadledda hybrid.
Mae modd cynnal arddangosfeydd mewn sawl ffordd wahanol, yn dibynnu ar eich anghenion. Byddwn yn gweithio gyda chi i gael yr ateb perffaith ar gyfer eich holl anghenion ar gyfer arddangoswyr a chynrychiolwyr
Mae pecynnau arlwyo a chyfraddau dyddiol i gynrychiolwyr ar gael a gellir eu gweini mewn llefydd amrywiol ledled yr amgueddfa i weddu orau i’ch cynadleddwyr.
Hefyd, mae’r amgueddfa’n agos at sawl gwesty mawr, meysydd parcio, ac o fewn pellter cerdded hwylus i orsaf drenau’r ddinas. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynadleddau sy'n denu cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Ymhlith y cynadleddau rydym wedi’u croesawu yn y gorffennol mae Dŵr Cymru, Crwsibl Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer eich anghenion cynhadledd.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, i drafod gofynion cyfarfod neu i logi ystafell gyfarfod.