Gwobrwyo

Siaradwr mewn siaced goch yn annerch cynulleidfa’n eistedd wrth fyrddau o flaen arddangosfa o fodelau llongau.

P’un ai’ch bod yn bwriadu cynnal noson wobrwyo, digwyddiad lansio neu achlysur untro arbennig, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnig lleoliad unigryw sy’n llawn treftadaeth ddiwydiannol a morwrol.

Mae lle i hyd at 200 o westeion yn ein Horiel Warws ar lawr cyntaf yr adeilad Fictoraidd hanesyddol ar gyfer cinio eistedd i lawr neu 250 ar ffurf theatr ar gyfer cyflwyniadau. Mae’r nodweddion diwydiannol gwreiddiol yn cynnwys nenfydau pren, trawstiau haearn, drysau warws a ffenestri portwll. Mae'r oriel amlbwrpas ac unigryw hon yn edrych dros y marina ac mae ganddi system PA, taflunydd a sgrin bwrpasol.

Mae Ystafell Ocean yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau mwy agos-atoch hefyd, gyda chyfarpar clyweledol a lle i hyd at 150 o westeion.

Mae'r holl leoedd yn gwbl hygyrch, gyda lifftiau i bob lefel a thoiledau hygyrch ar hyd a lled yr amgueddfa.

Siaradwch â'n tîm am greu noson hollol unigryw i chi, boed yn oleuadau yr un lliw â’ch brand chi, cymorth technegol neu addurno'r ystafell mewn modd arbennig, a holwch fwy am ddewisiadau arlwyo.

Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,200 + TAW yn dibynnu ar y lle. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â ni am ddyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

  • Rhesi o wydrau gwin yn llawn gwin gwyn wedi'u trefnu ar liain bwrdd du, gan ffurfio patrwm taclus a thrawiadol.
  • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau du yn wynebu sgrin fawr; llenni coch a phlanhigion mewn potiau wrth y ffenestri.
  • Lleoliad eang gyda byrddau crwn wedi’u gosod ar gyfer digwyddiad, gyda lliain gwyn, poteli gwin, blodau a rheiliau gwydr.
  • Ystafell eang gyda byrddau crwn wedi’u gosod ar gyfer digwyddiad ffurfiol, gyda chanolbwyntiau blodau a gosodiadau cain.