Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru yn datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd byd-eang
Dyddiad:
2019-09-18Heddiw (18 Medi 2019), mae Amgueddfa Cymru yn datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd byd-eang ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon.
Rydym hefyd yn cefnogi’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y Streic Hinsawdd Fyd-Eang yn ddiweddarach yr wythnos hon (20-27 Medi) yn ogystal â datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
"Mae cefnogi bioamrywiaeth Cymru – drwy ein hymchwil gwyddonol, ein harddangosfeydd a'n rhaglenni addysg – wrth wraidd ein gwaith, ac yn rhan annatod o'n gweledigaeth sef Ysbrydoli pobl, newid bywydau.
"Rydym yn cydnabod y gallwn wneud mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn manylu ar hyn yng nghynllun strategol deng mlynedd newydd Amgueddfa Cymru, fydd yn cael ei ddatblygu dros y flwyddyn nesaf.
"Byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth wyddonol gywir am yr argyfwng, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer trafod â'n cymunedau ynghylch sut mae'n effeithio ar bob un ohonom yng Nghymru, a'r newidiadau sydd eu hangen.
"Drwy ddatgan argyfwng, rydym yn cydnabod yr hyn sy'n digwydd i'n byd, ac yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau i ddod o hyd i atebion."