Datganiadau i'r Wasg
Gwaith ailadeiladu Gwesty'r Vulcan wedi dechrau yn Sain Ffagan
Dyddiad:
2020-01-21Yr Amgueddfa'n chwilio am straeon o'r dafarn
O'r diwedd gall ymwelwyr â Sain Ffagan, Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, weld y gwaith o ail-adeiladu un o dafarndai Fictoraidd mwyaf adnabyddus Caerdydd – Gwesty'r Vulcan. Y bwriad yw cwblhau'r gwaith dros y tair blynedd nesaf.
Ar hyn o bryd mae'r tîm adeiladau hanesyddol yn gweithio ar seler a waliau allanol yr adeilad.
Adeiladwyd y Vulcan ar Adam Street yng Nghaerdydd ym 1853, yng nghalon cymuned Wyddelig ‘New Town’. Dros ei hanes hir bu'n dyst i newidiadau mawr yng Nghaerdydd wrth i'r ddinas dyfu'n rym diwydiannol ac yn brifddinas. Wedi i'r dafarn gau ei drysau am y tro olaf yn 2012, cafodd yr adeilad enwog ei ddymchwel fesul bricsen a'i symud i Sain Ffagan.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae Sain Ffagan wedi cwblhau project ailddatblygu gwerth £30 miliwn a dod yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol i Gymru. Rydym wedi agor orielau a gweithdai newydd a gweddnewid profiad yr ymwelydd wrth agor adeiladau fel Bryn Eryr a Llys Llywelyn. Gyda'r gwaith ailddatblygu ar ben, mae'r tîm adeiladau hanesyddol wedi troi at ail-adeiladu Gwesty'r Vulcan ar y safle.
Derbyniodd y project gefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Swire tuag at y gwaith adeiladu, hyfforddiant a'r elfennau cyfranogol.
Fel elusen gofrestredig, bydd Amgueddfa Cymru yn chwilio am gefnogaeth bellach i gwblhau'r project. I gyfrannu ewch i www.amgueddfa.cymru/cyfrannu/.
Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:
'Mae'n wych gweld y gwaith adeiladu yn dechrau ar y Vulcan. Bydd y dafarn yn ychwanegiad unigryw i gasgliad yr Amgueddfa o adeiladau hanesyddol. Mae'n rhan bwysig o dreftadaeth Caerdydd ac yn gyfle i ni adrodd peth o hanes cyfoethog yr ardal.'
Dywedodd Jennifer Protheroe-Jones, Prif Guradur – Diwydiant, Amgueddfa Cymru: ‘Bydd y Vulcan wedi'i haddurno fel y byddai ym 1915, blwyddyn bwysig yn ei hanes. Roedd gwaith adnewyddu helaeth newydd orffen, pan aildrefnwyd yr ystafelloedd ac ychwanegu'r teils gwyrdd a brown trawiadol ar y blaen.
Mae ein curaduron wedi bod wrthi'n barod yn casglu hanesion llafar gan gyn-berchnogion a chwsmeriaid y dafarn yn Adamsdown, gan gofnodi a ffilmio eu hatgofion.
Ond gorau po fwyaf o straeon sydd gyda ni. Os oes gennych chi unrhyw hanesion, ffotograffau neu wrthrychau yn ymwneud â'r Vulcan, cysylltwch â ni.'
Gall ymwelwyr glywed y diweddaraf am ddatblygiad y Vulcan ar ein gwefan www.amgueddfa.cymru a drwy ddilyn @stfagans_museum .
Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.
Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf. .
Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.