Datganiadau i'r Wasg
Sioe DYFEISGAR iawn!
Dyddiad:
2020-02-19Gyrru ‘mlaen at ail-lansio digwyddiad poblogaidd!
Mae digwyddiad poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Amgueddfa Lechi Cymru’n cael ail-lansiad y mis yma!
Mae Sioe Trenau Bach yr amgueddfa – sy’n digwydd yn ystod hanner tymor mis Chwefror – yn cael ei ddatblygu a’i ail-lansio fel DYFEISGAR! Bydd yn cadw nifer o weithgareddau poblogaidd y sioe – megis y modelau trenau bach a’r cyfle i gael reid ar injans bychan – ond bydd llawer o weithgareddau newydd yn cael eu hychwanegu i wneud y mwyaf o natur ddiwydiannol y safle – sy’n dathlu’i benblwydd yn 150 eleni – yn ogystal a gwella’r digwyddiad at y dyfodol!
Ymysg y gweithgareddau newydd mae sioe gan Techniquest Glyndwr am rymoedd, cyfle i greu a rasio ceir K’NEX gyda Sbarduno a chreu melinau gwynt LEGO gyda Technocamps. Mae cyfle i fod yn ‘Leidr Trydan’ mewn gweithdy creu cylchedau – ac mae sialensau dyddiol yn cynnwys her yr olwyn ddwr a her yr inclein.
Meddai Lowri Ifor, Swyddog Digwyddiadau’r Amgueddfa:
“Mae’r sioe’n denu cannoedd o ymwelwyr pob blwyddyn ac yn gyfle gwych i bobl o bob oed i fwynhau’r safle, ond roeddem eisiau cyflwyno elfennau newydd i gysylltu a natur ddiwydiannol ein hanes a datgelu rhai o’r ffyrdd anhygoel caiff ein safle ei bweru yn enwedig gan mai dyma benblwydd y safle yn 150!
Roedd rheilffyrdd a phwer stêm yn hanfodol i waith y chwareli llechi ac mae casgliad yr amgueddfa’n cynnwys yr injan stêm chwarel UNA, fydd i’w gweld eto eleni ar hyd a lled yr iard. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i’r olwyn ddŵr enfawr oedd yn pweru peiriannau’r gweithdai, a’r inclein cario llechi anhygoel oedd yn galluogi’r chwarelwyr i ddod a’r llechi o bellafoedd y mynydd i’r trenau.”
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gweithdy ‘Pontydd, Adeiladau a Glasbrintiau Botanegol’ gan Elfennau Gwyllt, tyllwyr mecanyddol a tryciau ‘tonka’ yn ffowndri’r amgueddfa, helfa ddarganfod ar draws yr amgueddfa yn ogystal a’r holl atyniadau arferol yn cynnwys sioeau hollti llechi a thai’r chwarelwyr. Bydd y ‘trac trio’ poblogaidd hefyd yn ei ol, gan roi cyfle i blant ddod a’u injans ‘00’ eu hunain i’w rhedeg ar y trac mawr yma.
Cefnogir y digwyddiad gan Ganolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor, sy’n darparu cyswllt pwysig rhwng y Brifysgol a’i chymuned leol. Ei bwriad yw hyrwyddo gwaith y Brifysgol a ehangu gorwelion unigolion o bob oed, sydd ac ychydig neu ddim profiad o addysg uwch, i ddysgu am waith y Brifysgol a’r budd gallent gael o beth mae’r Brifysgol yn ei gynnig. Mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff academaidd y Brifysgol a rhwydwaith o sefydliadau ym Môn, Gwynedd a Chonwy ar brosiectau a gweithgareddau blasu i gynnig profiadau newydd.
Mae DYFEISGAR! yn cael ei gynnal ar Chwefror 19-21 2020 rhwng 11am a 3pm.
Mae mynediad AM DDIM.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a’r Amgueddfa ar 02920 573700 @amgueddfalechi #dyfeisgar2020
- ENDS -
Am wybodaeth pellach i’r wasg a ffotograffau, cysylltwch gyda Julie Williams ar 02920 573707 julie.williams@museumwales.ac.uk. Mae ffotograffau ar gael o Amgueddfa Lechi Cymru