Datganiadau i'r Wasg
Datganiad gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru
Dyddiad:
2020-07-08"Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth £1.57 biliwn ar gyfer y celfyddydau, gyda £59m yn dod i Gymru.
"Rydym yn croesawu'r newyddion hyn yn fawr ar adeg pan fo'r sector amgueddfeydd yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd effaith COVID-19.
"Rydym yn credu bod hwn yn gyfle i Gymru roi blaenoriaeth i amgueddfeydd a sefydliadau celfyddydol sydd wedi ymrwymo'n wirioneddol i gynhwysiant a rhoi anghenion pobl a chymunedau yn gyntaf.
"Mae Amgueddfa Cymru, amgueddfeydd lleol a rhanbarthol i gyd yn rhan hanfodol o'r celfyddydau yng Nghymru yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ymwneud â diwylliant.
"Cyn COVID-19, denodd Amgueddfa Cymru bron 2 filiwn o ymwelwyr, gan gynnwys 200,000 o ddisgyblion ysgol, drwy ei drysau bob blwyddyn. Fel un o atyniadau ymwelwyr pennaf Cymru, byddwn yn chwarae ran allweddol yn adferiad economaidd a chymdeithasol Cymru a phob un o'i chymunedau.
"Gadewch i ni sicrhau nad yw hyn yn ymrwymiad tymor byr i gefnogi amgueddfeydd a'r celfyddydau, ond yn arwydd o'r flaenoriaeth a roddir i ddiwylliant yng Nghymru."