Datganiadau i'r Wasg
Lansiad Cymreig Project Coed Ceirios Sakura
Dyddiad:
2020-12-041,000 o goed ceirios i gael eu plannu mewn parciau ac ysgolion dros Gymru
Ymunodd Prif Weinidog Cymru â’r Llysgennad Yasumasa Nagamine heddiw (Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2020) i weld rhai o’r 1,000 o goed ceirios, sydd wedi’u rhoi i barciau cyhoeddus ac ysgolion ar draws y DU er mwyn dathlu’r cyfeillgarwch bythol rhwng y DU a Japan, yn cael eu plannu’n ffurfiol am y tro cyntaf yng Nghymru. Bydd y fenter yn etifeddiaeth hirhoedlog gan Dymor Diwylliant 2019-2020 Japan-DU, sy’n bosib drwy roddion gan fusnesau Japaneaidd.
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi derbyn ugain coeden, rhai o’r coed cyntaf i’w plannu yng Nghymru.
Caiff y Coed Ceirios Sakura eu dosrannu ymysg dros 65 o ysgolion a cholegau dros Gymru ac i’r dinasoedd canlynol: Caerdydd, Bangor, Llanelwy, Abertawe a Chasnewydd.
Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gâr a Chastell Conwy yn y gogledd, sydd wedi gefeillio â Chastell Himeji yn Japan, hefyd yn derbyn coed.
Cynhaliwyd lansiad Cymreig y project heddiw gyda seremoni blannu yn Sain Ffagan ym mhresenoldeb Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg; y Llysgennad Yasumasa Nagamine; Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; Cyd-gadeirydd y Project Coed Ceirios Sakura, Keisaku Sandy Sano; a phlant ysgol lleol o’r Ysgol Sadwrn Japaneaidd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.
Mae pob un o’r coed ceirios a fydd yn cael eu plannu yn rhan o’r project hwn o darddiad Japaneaidd. Bydd y mwyafrif helaeth o’r tri math hyn, ‘Beni-yutaka’, ‘Taihaku’ a ‘Somei-yoshino’, sydd wedi’u dewis oherwydd eu hamrywiaeth mewn lliw, amseru ac arwyddocâd hanesyddol. Er enghraifft, mae ‘Taihaku’ yn isrywogaeth gyda blodau mawr gwyn, a oedd yn ddiflanedig yn Japan ond cafodd ei hailgyflwyno i’w mamwlad gan Collingwood ‘Cherry’ Ingram o Brydain ym 1932.
Caiff y mwyafrif o’r 1,000 o goed eu plannu dros Gymru yn ystod hydref 2020, yn dilyn plannu’r coed yn Sain Ffagan. Noddir y symbol parhaus a hirhoedlog hwn o gyfeillgarwch bythol rhwng Cymru a Japan yn llwyr gan fusnesau ac unigolion o Japan.
Meddai Yasumasa Nagamine, Llysgennad Japan i’r DU, “Gobeithiwn y bydd pobl dros Gymru yn ymuno â ni wrth groesawu’r cyfle hwn i wella cyd-ddealltwriaeth, ac felly helpu i greu etifeddiaeth barhaus.”
Nid dim ond effaith hirdymor Tymor Diwylliant Japan-DU fydd y Project Coed Ceirios Sakura yn ei gynrychioli; bydd hefyd yn ddathliad ehangach o’r cysylltiadau cryf rhwng Japan, y DU a Chymru.
Fel ein perthynas, bydd y coed hyn yn tyfu’n gryfach wrth iddynt aeddfedu, a bob blwyddyn pan fyddant yn blodeuo, gobeithiaf eu bod yn dod â llawenydd i bobl dros Gymru a’u hatgoffa o’r cyfeillgarwch dwfn rhwng ein dwy genedl a’n pobl.”
Meddai Keisaku Sandy Sano, Sylfaenydd a Chyd-gadeirydd Tîm Project Coed Ceirios Sakura, “Mae’r ymateb rydym wedi’i gael dros Gymru wedi bod yn anhygoel. Mae’n dyst i’r berthynas gref rhwng ein gwledydd, a gobeithiwn y bydd y coed yn deyrnged hirhoedlog i’r berthynas honno. Mae nifer o gorfforaethau Japaneaidd wedi penderfynu i gyfrannu’n hael i’r project hwn drwy Gymdeithas Japan-Prydain. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl ymdrechion a chefnogaeth a roddwyd gan bobl a chorfforaethau yn Japan a’r DU i’r project hwn.”
Meddai Keith Dunn, OBE, Conswl Anrhydeddus Japan yng Nghymru, “Mae perthynas gref rhwng Cymru a Japan, sydd wedi’i datblygu dros fwy na 100 mlynedd. Mae dyhead dros gyd-ddealltwriaeth wrth wraidd y berthynas, ac awydd i ddysgu gan ffordd o fyw, diwylliant a hanes y ddwy wlad.
“Mae’r coed hyn yn symbol cryf o’n cyfeillgarwch, a all gael eu cefnogi a’u mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol, a gobeithiaf bydd y coed sy’n cael eu plannu, yn enwedig yn y cyfnod presennol, yn cael eu croesawu gan ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.”
Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o Broject Coed Ceirios Sakura. Roeddem yn falch iawn i gynnal arddangosfa KIZUNA: Japan | Cymru | Dylunio ddwy flynedd yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – yr arddangosfa fwyaf sylweddol ar ddiwylliant Japaneaidd i gael ei chynnal yn un o’r pedair gwlad y tu allan i Lundain. Mae prif amgueddfeydd Japan wedi cynnal arddangosfa deithiol o weithiau celf o’n casgliadau yn ddiweddar, ac rydym yn cynllunio i gydweithio eto yn y dyfodol.
“Mae Project Coed Ceirios Sakura yn dyst i’r berthynas gref rhwng Cymru a Japan, ac yn symbol hirhoedlog o Dymor Diwylliant Japan-DU. Caiff y coed ceirios eu mwynhau gan ymwelwyr i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am flynyddoedd i ddod.”
-Diwedd-
Mae’r llefydd canlynol yng Nghymru wedi’u dewis i’r coed gael eu plannu.
Ysgolion a Cholegau:
Ysgol Gynradd Coed Duon, Ffordd Apollo, Coed Duon, Cymru, NP12 1WA
Ysgol Gynradd Blaengarw, Heol yr Orsaf, Blaengarw, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru CF32 8BA
Ysgol Gynradd Brynbach, Heol Merthyr, Tredegar, Cymru NP22 3RX
Ysgol Gynradd Tregatwg, Heol Parc Fictoria, y Barri, Cymru CF63 2JS
Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd, Cymru
CF14 5NH
Ysgol Gynradd Llangrallo, Ffordd Fawr, Llangrallo, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru
CF35 5HN
Ysgol Gynradd Croesyceiliog, Heol y Gogledd, Croesyceiliog, Cwmbrân, Cymru
NP44 2LL
Ysgol Cas-gwent, Welsh Street, Cas-gwent, Sir Fynwy, Cymru NP16 5LR
Ysgol Gynradd Cwm, Stryd Canning, Cwm Glyn Ebwy, Blaenau Gwent, Cymru NP23 7RD
Ysgol Gynradd Cwmdâr, Y Sgwâr, Cwmdâr, Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, Cymru
CF44 8UA
Ysgol Gynradd Cwmfelinfach, Stryd y Brenin, Cwmfelinfach, Casnewydd, Gwent, Cymru NP11 7HL
Ysgol Gynradd Gymunedol Ewloe Green, Old Mold Road, Ewloe, Sir y Fflint, Cymru CH5 3AU
Ysgol Feithrin Fairoak, Heol yr Eglwys, Casnewydd, Cymru NP19 7EJ
Ysgol Uwchradd Fitzalan, Rhodfa Lawrenny, Lecwydd, Caerdydd, Cymru CF11 8XB
Ysgol Uwchradd y Fflint, Maes Hyfryd, y Fflint, Sir y Fflint, Cymru CH6 5LL
Ysgol Feithrin Kimberley, Cilgant Blaen-y-Pant, Casnewydd, Cymru NP20 5QB
Ysgol Gynradd Kitchener, Heol Kitchener, Treganna, Caerdydd, Cymru CF11 6HT
Ysgol Gynradd Gymunedol Llandrindod, Llandrindod, Powys, Cymru LD1 5WA
Ysgol Gynradd Llanffwyst Fawr, Heol yr Ysgol, Y Fenni, Sir Fynwy, Cymru NP7 9LS
Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Llansannor a Llanhari, Llansannor, Ystradowen, Y Bontfaen, Cymru CF71 7SZ
Ysgol Gynradd Gymunedol Maesyrhandir, Plantation Lane, y Drenewydd, Powys, Cymru, SY16 1LH
Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Malpas, Yewberry Close, Casnewydd, Cymru
NP20 6WJ
Ysgol Gyfun Trefynwy, Old Dixton Road, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru NP25 3YT
Ysgol Trecelyn, Stryd y Bont, Trecelyn, Gwent, Cymru NP11 5FR
Ysgol Gynradd Pantysgallog, Pantysgallog, Merthyr Tudful, Cymru CF48 2AD
Ysgol Gyfun Pencoedtre, Heol Dyfan, Merthyr Tudful, Cymru CF62 9YQ
Ysgol Gyfun Pontypridd, Campws Cymunedol Albion, Cilfynydd, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, Cymru CF37 4SF
Ysgol Gynradd Cwm Radnor, Lôn yr Ysgol, New Radnor, Powys, Cymru LD8 2SS
Ysgol Gynradd Wirfoddol a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan, Sir Fynwy, Cymru NP15 2EP
Ysgol Gynradd Ringland, Heol Dunstable, Ringland, Casnewydd, Gwent, Cymru NP19 9LU
Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant, Heol Pontardawe, Clydach, Abertawe, Cymru SA6 5NX
Ysgol Wirfoddol a gynorthwyir Sant Marc, St Issell’s Avenue, Bont Myrddin, Hwlffordd, Cymru SA61 1JX
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Heol yr Eglwys Newydd, Cathays, Caerdydd, Cymru
CF14 3JL
Ysgol Gynradd Gymunedol Swiss Valley, Heol Beili Glass, Swiss Valley, Llanelli, Cymru SA14 8DS
Ffederasiwn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor, Ysgol Bryn Clwyd, Llandyrnog, Sir Dinbych LL16 4EY
Ysgol Gynradd Trallwn, Heol Glan y Wern, Llansamlet, Abertawe, Cymru SA7 9UJ
Ysgol Gynradd Parc Tredegar, Partridge Way, Dyffryn, Casnewydd, Gwent, Cymru
NP10 8WP
Ysgol Gynradd Gwndy, Pennyfarthing Lane, Gwndy, Cymru NP26 3LZ
Coleg Unedig y Byd - Coleg Iwerydd, Castell Sain Dunwyd, Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, Cymru CF61 1WF
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng, Rhodfa Howell, y Trallwng, Powys, Cymru SY21 7AT
Ysgol Gynradd y Bont Faen, Borough Close, Y Bontfaen, Bro Morgannwg, Cymru CF71 7BN
Ysgol Y Pant, Heol y Bontfaen, Tonysguboriau, Cymru CF72 8YQ
Ysgol Betws Gwerful Goch, Betws Gwerful Goch, Corwen, Cymru LL21 9PY
Ysgol Bro Dinefwr, Heol Myrddin, Ffairfach, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA19 6PE
Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern, Corwen, Cymru LL21 9DF
Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru
LL41 4SE
Ysgol Bro Lleu, Heol y Brenin, Penygroes, Caernarfon, Cymru LL54 6RL
Ysgol Bryn Elian, Rhodfa Windsor, Hen Golwyn, Conwy, Cymru LL29 8HU
Ysgol Brynhyfryd, Mold Road, Ruthun, Sir Dinbych, Cymru LL15 1EG
Ysgol Dyffryn Conwy, Heol Nebo, Llanrwst, Cymru LL26 0SD
Ysgol Gwynedd, Rhodfa Tywysog Cymru, y Fflint, Sir y Fflint, Cymru CH6 5DL
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Heol Pentrebane, y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru
CF5 3PZ
Ysgol Gymraeg Brynsierfel Dwyfor, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA14 9HD
Ysgol Gymraeg Ffwrnes, Rhodfa Denham, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Ysgol Gymraeg Mornant, Ffordd Picton, Treffynnon, Sir y Fflint, Cymru CH8 9JQ
Ysgol Gymuned y Fali, Heol Spencer, y Fali, Ynys Môn, Cymru LL65 3EU
Ysgol Nantgwyn, Stryd Llewellyn, Penygraig, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, Cymru CF40 1HQ
Ysgol Gynradd Pen Rhos, Copperworks Road, Llanelli, Cymru SA15 2EW
Ysgol Pen-y-Bryn, Heol Glasbury, Clase, Abertawe, Cymru SA6 7PA
Ysgol Porth, Y Felin Ffordd, Llanrwst, Conwy, Cymru LL32 8FZ
Ysgol Rhyd-y-Grug, Aberfan, Ynysowen, Merthyr Tudful, Cymru CF48 4NT
Ysgol Wepre, Llwyni Drive, Cei Connah, Sir y Fflint, Cymru CH5 4NE
Ysgol y Moelwyn, Ffordd Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru
LL41 3DW
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Heol Penlline, yr Eglwys Newydd, Cymru CF14 2XJ
Ysgol Dyffryn Aman, Stryd Margaret, Rhydaman, Cymru SA18 2NW
Dinasoedd yng Nghymru:
Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd 100
Cerrig yr Orsedd, Bangor 65
Heol Risga a Heol Cas-gwent, Casnewydd 45
Parc Cwmdoncyn a Pharc Jersey, Abertawe 100
The Roe, Llanelwy 60
Lleoliadau eraill yng Nghymru:
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin 100
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd 20
Castell Conwy, 20