Datganiadau i'r Wasg
Galwad agored am geisiadau — Cynfas, Rhifyn 5: Cynefin
Dyddiad:
2021-03-26Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer pumed rhifyn Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru. Y thema yw Cynefin ac rydyn ni’n galw ar artistiaid, awduron, a phobl greadigol o bob cwr o Gymru i gynnig testunau Cymraeg, Saesneg a Dwyieithog.
Gall cyfranwyr ddefnyddio un o weithiau celf neu wrthrychau’r Amgueddfa fel man cychwyn, a’i ysgrifennu mewn unrhyw fesur – erthygl, traethawd personol, cerdd, gwaith beirniadol neu ysgolhaig, ffilm neu waith celf digidol – cyhyd a bod modd eu cyflwyno ar-lein. Mae croeso i unrhyw un â diddordeb bori ein Casgliadau Ar-lein am ysbrydoliaeth.
Dyddiad cau’r ceisiadau 200 gair yw 19eg o Ebrill 2021 – mae’r holl wybodaeth ar sut i wneud cais ar waelod y dudalen. Ni ddylai’r cyfraniadau terfynol fod yn fwy na 2,000 o eiriau, ac yn cynnwys delweddau a chyfryngau wedi mewnblannu all gael eu cyflwyno ar blatfform ar-lein. Y golygydd gwadd yw Manon Awst, artist a churadur sy’n gweithio yng Nghaernarfon.
Mae thema’r rhifyn hwn, Cynefin/Habitat, yn destun penagored iawn. Bydd ei ystyr â’i arwyddocâd yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar fagwraeth wledig neu drefol, cefndir cymdeithasol-economaidd, oedran, iaith, treftadaeth a gwleidyddiaeth. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae cynefin yn rhywbeth arferol, cartrefol, cyfarwydd, cyffredin… ond mae’r ymdeimlad o le yn ein cysylltu â’n hamgylchfyd, y naturiol a’r trefol, ac yn ennyn ymdeimlad o naws a gwead materol yn ogystal ag atgofion a pherthynas.
Wedi blwyddyn o gyfyngiadau symud o ganlyniad i’r Coronavirus, rydyn ni i gyd siŵr o fod wedi treulio mwy o amser yn crwydro ein milltir sgwâr. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae ein diffiniad o Gynefin wedi newid.
Er ein bod ni’n croesawu unrhyw waith gwreiddiol ar y pwnc, dyma rai cwestiynau i sbarduno:
- Beth mae Cynefin yn ei olygu i chi fel rhywun sy’n byw yn y Gymru fodern?
- Sut mae eich Cynefin wedi’i siapio’n ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn ecolegol?
- Yw cynefin yn le go iawn? All cynefin fodoli’n ddigidol/ar-lein?
- Beth yw materoldeb a gwead Cynefin?
- Pa rôl sydd gan iaith wrth siapio Cynefin?
- Pa effaith gafodd digwyddiadau diweddar Brexit a/neu Covid ar eich ymdeimlad o Gynefin?
- Pa rôl all y Celfyddydau chwarae wrth siapio Cynefin, a pa ffurfiau newydd allwn ni eu dychmygu yn y dyfodol agos/pell?
Fel gyda phob rhifyn o Cynfas, rydyn ni’n chwilio am gynnwys dewr a deniadol sydd heb ei gyhoeddi’n flaenorol, ac sy’n amlygu ac yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth celf Cymru ddoe a heddiw, gan gyfeirio’n benodol at waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Does dim angen profiad ysgrifennu proffesiynol neu addysg greadigol i ymgeisio. Rydym yn awyddus iawn i glywed profiadau bywyd a lleisiau sy’n edrych ar gelf o bersbectif gwahanol, ac yn eiddgar i glywed ymatebion parchus i ymgyrchu BLM a We Shall Not Be Removed. Mae rhifynnau blaenorol Cynfas wedi trafod Mae Bywydau Du o Bwys (gol. Umulkhayr Mohamed), Celfyddyd mewn Iechyd (gol. Angela Maddock) a Bwyd a Chynaliadwyedd (gol. Selena Caemawr) a Golwg Queer (ar y gweill, gol. Dylan Huw).
Y broses gyflwyno:
- E-bostio crynodeb 200 gair o’r erthygl neu’r project at sara.treble-parry@museumwales.ac.uk
- Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a pharagraff byr yn cyflwyno eich hun
- Bydd panel cymysg yn adolygu’r crynodebau o fewn 10 diwrnod ac yn penderfynu pa rai i’w datblygu
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl (£250) am eu cyfraniad