Datganiadau i'r Wasg
Noson wyllt gartref gydag Amgueddfa Cymru
Dyddiad:
2021-04-12Sach gysgu? Tic. Fflachlamp? Tic. Rhywbeth i fwyta? Tic! Mae popeth yn barod ar gyfer 'Amgueddfa dros Nos' newydd Amgueddfa Cymru sy'n lansio heddiw (12 Ebrill).
Cynhelir Amgueddfa Dros Nos: Y Byd Naturiol o Gartref ar 22-23 Mai 2021. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 1pm ac yn gorffen am 10am y diwrnod canlynol.
Bydd y digwyddiad, sydd yn cael ei gefnogi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, yn mynd â theuluoedd ar daith o gwmpas y byd, dros dir, môr ac awyr, drwy gyfrwng cymysgedd o ddeunydd byw a deunydd wedi eu recordio ymlaen llaw yn dangos eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Bydd y cyflwynwyr teledu Iolo Williams a Lizzie Daly yn gwneud ymddangosiadau arbennig mewn eitemau wedi eu recordio ymlaen llaw.
Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio gyda Folly Farm, fferm a sŵ yn Sir Benfro, a Jabulani Safari, saffari yn Ne Affrica sy'n achub eliffantod amddifad, i gyflwyno elfennau o'r digwyddiad newydd cyffrous hwn.
Mae Amgueddfa Dros Nos: Y Byd Naturiol o Gartref yn addas ar gyfer plant rhwng 6-12 oed, a bydd tocyn Iaith Arwyddo Prydain ar gael yn ogystal â’r opsiwn i gymryd rhan yn Gymaeg neu Saesneg. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd a chreu atgofion i'w trysori.
Helpodd Jennifer Galichan, Curadur yn Amgueddfa Cymru, i siapio'r digwyddiad ac meddai:
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi amser i nifer ohonom ystyried yr hyn sy'n bwysig, fel treulio amser gyda'n teuluoedd. Mae astudiaethau wedi dangos fod treulio amser ynghanol byd natur yn llesol i ni, ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli pobl i fynd allan i fyd natur a dod a natur yn fyw yn eu cartrefi."
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn £5 (+ ffi archebu drwy Eventbrite) ar gyfer y teulu cyfan ac ar gael i'w prynu o 11am ar 16 Ebrill o wefan yr Amgueddfa.