Datganiadau i'r Wasg

Drama newydd wedi ei ffilmio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus. Bydd drama newydd wreiddiol Yr Amgueddfa yn cychwyn ar S4C ar nos Sul, 30 Mai sydd yn cynnig genre newydd sbon i wylwyr S4C wrth iddynt gael y cyfle i fwynhau thriller trosedd celf am y tro cyntaf ar y sianel.

Mae Yr Amgueddfa wedi ei ffilmio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - ac mae’r ddrama hon yn mynd â ni i mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.

Mae DELA HOWELLS (Nia Roberts) yn ddynes lwyddiannus, gwraig ffyddlon i ALUN (Steffan Rhodri) a mam gariadus i ddau o blant DANIEL (Samuel Morgan-Davies) a MAGS (Mared Jarman). Mae hi newydd dderbyn swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa ac mae bywyd yn dda.

Ar yr un noson mae’n dathlu ei swydd newydd mewn parti yn yr amgueddfa, mae hi’n cwrdd â dyn ifanc CALEB (Steffan Cennydd) sydd wedi dod fel gwestai i’w mab hoyw Daniel. Mae Dela'n cael ei swyno'n llwyr gan Caleb ac yn syrthio mewn i berthynas nwydus gydag e. Ond mae Dela'n darganfod fod gan Caleb fwriadau ychydig yn fwy sinistr wrth ddechrau perthynas â hi.

Boom Cymru (35 Diwrnod - Parti Plu, Parch) sy’n cynhyrchu’r ddrama sy’n serennu rhai o actorion mwyaf disglair Cymru sef Nia Roberts (Y Gwyll/Hinterland, Bang, The Crown, Craith/Hidden), Steffan Rhodri (Gavin and Stacey, A Very English Scandal), Sharon Morgan (Pobol y Cwm, Martha, Jac a Sianco) a Delyth Wyn (35 Diwrnod).

Mae hefyd sawl wyneb newydd ymysg y cast, gyda Steffan Cennydd (Craith/Hidden, Enid a Lucy), yn y brif ran fel Caleb, a Samuel Morgan-Davies a Mared Jarman yn chwarae plant Dela, Dan a Marged.

Roedd Nia Roberts wrth ei bodd i gael  cynnig rôl Dela: “Pan ti’n cyrraedd dy 40au fel actores mae’n rili anarferol i rywun anfon sgript lle mae menyw yn ei chanol oed yn chwarae’r brif ran. Fel arfer mae’n  sefyllfa lle mae’n chwarae’r fam, neu’r wraig, neu’r chwaer. Dwi jysd yn meddwl bod bywydau pobl ganol oed yn rili diddorol! Mae’n mor braf i weld menyw yn ei 40au hwyr - menyw gref a chymhleth a hefyd menyw sy’n dal yn teimlo bod rhyw yn rhan bwysig o’i bywyd hi.”

Mae Steffan Cennydd yn anfodlon i ddweud gormod am ei gymeriad Caleb gan mai ei benderfyniadau ef a’i orffennol dirgel sy’n gyrru’r ddrama i rannau helaeth. Meddai: “Pan ni’n cwrdd â Caleb yn y golygfeydd cynta’ mae i’w weld yn eitha’ normal ond dwi’n meddwl bod y dirgelwch sydd rownd y crwt ‘ma a beth ry’n ni’n darganfod yn ystod y gyfres am ei hanes e - hwnna yw drama go iawn y gyfres rili.”

Mae trydedd rhan o bob un o’r chwe phennod  awr o hyd yn ymwneud â stori Caleb. Mae Steffan yn esbonio: “Pan ddarllenais i’r sgript dyna beth oni’n rili mwynhau oedd y peth od ma oedd yn digwydd yn rhan tri ble ti’n gweld beth sydd wedi digwydd i Caleb rhwng y golygfeydd yn y ddwy bennod gyntaf. A dyna beth wnaeth dynnu fi at y sgript.”

Yr awdur Fflur Dafydd, enillydd sawl gwobr Bafta am ei dramâu, sydd wedi creu a sgriptio Yr Amgueddfa ac mae’n gweithio unwaith eto gyda’r cynhyrchydd profiadol Paul Jones, sydd wedi cynhyrchu nifer o ddramâu gan gynnwys 35 Awr, Con Passionate, Martha, Jac a Sianco a Parch.

Mae Fflur yn cyfaddef bod ganddi obsesiwn gyda sefydliadau Cymru - hi ysgrifennodd Y Llyfrgell a’i droi mewn i ffilm o’r un enw wedi ei seilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Meddai Fflur: “Mae’n braf gallu dod â sefydliadau Cymru i sylw mewn ffordd mwy creadigol. Mae’n rhyw fath o genhadaeth yn fy ngwaith i - mynd ar ôl y pethau sydd yn teimlo tipyn bach yn anweledig er eu bod nhw’n enfawr ac yn bwysig. Trwy greu genre fel  thriller trosedd celf, mae’n teimlo fel ‘mod i’n creu rhywbeth sy’n reit unigryw i Gymru, a gan fod y thrillers confensiynol ychydig yn dreuliedig erbyn hyn, mae’n eitha’ neis i fynd ar ôl trosedd yn y byd celf, lle mae ‘na gyffro a chyfrinachau o fath gwahanol.”

Meddai Paul Jones o gwmni gynhyrchu Boom: “Cof plentyn bychan sydd gen i, yn cael fy nhywys gerfydd fy llaw ar hyd orielau mawreddog rhodresgar yr Amgueddfa Genedlaethol, yna yn fy arddegau yr orielau yn guddfan ar aml bnawn Sadwrn rhag y glaw. Yn awr gyda Yr Amgueddfa, cael cyfle i ymweld unwaith yn rhagor â hi, a chreu drama llawn twyll a chynllwynio ar hyd ei horielau!”

Dilynodd Boom Cymru'r holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod wrth ffilmio Yr Amgueddfa er mwyn sicrhau fod y gwaith wedi cael ei gyflawni mewn ffordd ddiogel.

Y CAST:

Caleb - Steffan Cennydd
Dela - Nia Roberts
Alun - Steffan Rhodri
Daniel - Samuel Morgan- Davies
Mags – Mared Jarman
Elinor (Mam Dela) - Sharon Morgan
Fioled - Delyth Wyn
Sadie - Hanna Jarman
Elfin - Simon Watts
Sulien - Geraint Todd
Lisa - Mali Tudno 

Yr Amgueddfa
Nos Sul 30 Mai 9.00, S4C
Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C