Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru

Canfod gwrthrychau Oes Efydd, canoloesol ac ôl-ganoloesol yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam

Mae chwech canfyddiad o gyfnodau’r Oes Efydd, canoloesol ac ôl-ganoloesol wedi cael eu cadarnhau yn drysor heddiw (dydd Gwener 4 Chwefror) gan John Gittins, Uwch Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol). Cafodd yr holl wrthrychau eu darganfod gan ddefnyddwyr datgelyddion metel, ac maent yn cynnwys celc o’r Oes Efydd, tri grŵp o geiniogau canoloesol, bwytgyn ôl-ganoloesol, a matrics seliau.

Cafodd matrics seliau arian gyda motiff calon goronog (Trysor 19.30) ei ddarganfod gan Marc Boulton tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanynys, Sir Ddinbych ar 19 Mai 2021. Yn ôl Sian Iles, Curadur Archaeoleg yr Oesoedd Canol a Diweddarach yn Amgueddfa Cymru, mae’r matrics yn dyddio i ddiwedd y 17eg neu ddechrau’r 18fed ganrif.

Roedd matricsau sêl personol, gâi eu defnyddio i selio a dilysu dogfennau, yn boblogaidd yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’r nifer gynyddol o fatricsau sy’n cael eu cofnodi drwy Ddeddf Trysor 1996 yn cyfrannu yn aruthrol at ein dealltwriaeth o gredoau a ffasiynau pobl yn y Gymru ôl-ganoloesol. Roedd motiffau calon-waedlyd coronog yn cynrychioli cariad a ffyddlondeb priodasol, yn ogystal â chredoau crefyddol a gwleidyddol (Brenhinol).” 

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn bwriadu caffael y matrics sêl ar gyfer eu casgliadau, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

Cafodd casgliad o naw ceiniog arian ganoloesol (Achos Trysor 19.26) ei ddarganfod yng Nghymuned Bronington, Wrecsam gan Marc Boulton, Michael Evans a Michael Burt wrth iddynt ddefnyddio datgelyddion metel ar 16 Rhagfyr 2018. Cafodd y ceiniogau a dimeiau hyn eu bathu rhwng 1247 a 1265 yn ystod teyrnasiad Harri III. Mae’r ddwy ddimai yn awgrymu mai cynnwys pwrs oedd y casgliad hwn, wedi’i golli neu ei guddio’n fwriadol. Mae Amgueddfa ac Archifau Wrecsam wedi mynegi diddordeb mewn caffael y ceiniogau ar gyfer ei chasgliadau, yn dilyn gwerthusiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

Dywedodd Alistair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru:

Mae gwerth wyth ceiniog yma, a oedd yn y cyfnod yn rhyw dridiau o waith i grefftwr medrus. Yn y 13eg ganrif câi ceiniogau eu defnyddio’n helaeth ar hyd arfordiroedd y gogledd a’r de, y gororau, ac yn Lloegr. Mae cynnwys pyrsiau fel hyn yn datgelu llawer am gyfoeth unigolion ac yn gwella ein dealltwriaeth o economi leol y cyfnod. Mae hwn yn un o nifer o drysorau canoloesol a gofnodwyd yn Bronington, gan gynnwys celc o geiniogau yn dyddio o’r 15fed ganrif “.

Cafodd celc o arfau ac offer efydd (Achos Trysor 17.07) o ddiwedd yr Oes Efydd ei ganfod gan Colin Rivett wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Abergele, Conwy ar 26 Ebrill 2017. Yn y celc mae dau amgarn (darn o wain cleddyf), saith bwyell socedog efydd, tri phalstaf efydd, a darn o ingot copr. Roedd y gwrthrychau wedi’u claddu gyda’i gilydd rhyw 2,850 o flynyddoedd yn ôl. Aeth Mr Rivett ati yn gyfrifol i adrodd y darganfyddiad cyn tynnu’r gwrthrychau o’r ddaear. Gwnaed archwiliad archaeolegol o’r celc ym mis Mai 2017, dan arweiniad staff y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru, gyda chymorth Mr Rivett.

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn awyddus i gaffael y celc hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

Dywedodd Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru):

“Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Mr Rivett am adael y celc yn y ddaear, gan alluogi tîm PAS Cymru i gloddio yn ofalus a chofnodi’r arteffactau yn eu cyd-destun. Yn y tîm roedd y darganfyddwr, y tirfeddiannwr, staff yr amgueddfa, a gwirfoddolwyr. O ganlyniad i’r gwaith cloddio roedd modd i ni gadarnhau bod y gwrthrychau wedi’u trefnu’n ofalus mewn pydew bach, yng ngolwg y môr. Roedd carreg yn gorwedd wrth ochr y pydew - yn fflat erbyn hyn, ond mae’n debyg y byddai wedi sefyll yn wreiddiol”.

Cafod yr eitemau canlynol hefyd eu datgan yn drysor:

• Pin penwisg arian ôl-ganoloesol (Achos Trysor 19.13), wedi’i ddarganfod gan Mark Lightfoot yng Nghymuned Llanynys, Sir Ddinbych, tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel ar 17 Mawrth 2019.

• Casgliad o geiniogau arian canoloesol (Achos Trysor 19.14), wedi’i ddarganfod gan Michael Evans a Jamie Wright yng Nghymuned Llanynys, Sir Ddinbych wrth iddynt ddefnyddio datgelydd metel ar 17 Mawrth 2019. Mae’r casgliad yn cynnwys deg ceiniog Edward I ac Edward II, wedi’u bathu rhwng 1279 a 1310.

• Casgliad o geiniogau arian canoloesol (Achos Trysor 19.43), wedi’i ddarganfod gan Michael Evans a Jamie Wright yng Nghymuned Llanynys, Sir Ddinbych wrth iddynt ddefnyddio datgelydd metel ar 17 Mawrth 2019. Mae’r casgliad yn cynnwys dwy geiniog Edward IV, wedi’u bathu rhwng 1464 a 1483.

Mae gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ddiddordeb mewn caffael y trysorau hyn ar gyfer eu casgliadau, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

DIWEDD