Datganiadau i'r Wasg
Sugar Creative wedi'i ddewis i ail-feddwl y profiad amgueddfa
Dyddiad:
2022-02-08Dyfarnwyd Cronfa Her Amgueddfa Cymru i Sugar Creative i ymchwilio a datblygu ffyrdd arloesol o brofi a rhyngweithio â chasgliadau'r amgueddfa ar raddfa leol a byd-eang.
Mae'r gronfa yn deillio o bartneriaeth Clwstwr ac Amgueddfa Cymru i sbarduno arloesedd creadigol a thechnolegol yn y sector treftadaeth.
Mae Clwstwr yn rhan o Raglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol. Caiff ei hariannu gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’i chyflwyno gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar ran UKRI.
Mae Sugar Creative, sy'n stiwdio arloesi digidol yng Nghaerdydd, yn arbenigo mewn technoleg drochol ar gyfer adrodd stori a datblygu symudol, a bydd yn defnyddio realiti estynedig i wthio ffiniau'r ffyrdd y caiff amgueddfeydd eu profi.
Nod eu prosiect, Arall, yw galluogi defnyddwyr ac ymwelwyr i archwilio a dehongli straeon Cymru o ble bynnag y byddwch chi, yn ddigidol ac yn gorfforol. Bydd yn cyfuno cynnwys creadigol â realiti estynedig trochol arloesol i alluogi ymwelwyr i weld ac ymgysylltu ag amrywiol ddehongliadau ac ymatebion personol i wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Jason Veal, Rheolwr Gyfarwyddwr Sugar Creative: "Rydym ni'n hynod o falch i fod yn gweithio gyda'r tîm anhygoel yn Amgueddfa Cymru i archwilio potensial cyfuno creadigrwydd a thechnoleg ar gyfer profiadau amgueddfa yn y dyfodol, dyfodol sy'n cofleidio ac yn enghraifft o agwedd at hanes sydd wedi'i gwreiddio mewn diwylliant."
Bydd Sugar Creative yn gallu manteisio ar yr adnoddau diwylliannol diguro yn Amgueddfa Cymru ac arbenigedd ymchwil a datblygu Clwstwr a’i bartneriaid i gynorthwyo eu proses.
Dywedodd Adam Partridge, Cynhyrchydd ac arweinydd partneriaethau Clwstwr: "Rydym ni wrth ein bodd yn cefnogi'r cydweithio hwn rhwng Amgueddfa Cymru a Sugar Creative. Mae'n gyfle gwych i Sugar Creative brofi technolegau a syniadau newydd gyda thîm yr amgueddfa. Mae potensial enfawr i gael datblygiadau arloesol fydd yn cyfoethogi profiad amgueddfa ymwelwyr y dyfodol ymhellach."
Bydd gwaith cyfoethogi Sugar Creative ar gasgliad Amgueddfa Cymru'n tynnu ar yr amrywiaeth o brofiadau byw sy'n ffurfio Cymru amrywiol fodern, gan ymgorffori a chofleidio ystyron newidiol sy'n sail i wrthrychau hanesyddol a diwylliannol er mwyn creu empathi.
Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:
“Rydym yn falch iawn fod Sugar Creative wedi ennill Cronfa Her Amgueddfa Cymru. Mae’n bleser cydweithio â thîm Clwstwr ar y fenter hon, ac rydym yn elwa o’u harbenigedd helaeth a’u harloesedd creadigol. Mae project Sugar Creative yn rhoi cyfle gwych i brofi ffyrdd newydd o ddefnyddio technolegau a chreu profiadau cyffrous mewn amgueddfeydd.”
DIWEDD