Datganiadau i'r Wasg
Hanner Canrif o Hanes - Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant oed!
Dyddiad:
2022-05-23Ar Fai 25ain eleni fydd yr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn dathlu ei phenblwydd yn 50oed a mae nifer o weithgareddau ar droed i ddathlu’r achlysur arbennig!
Caewyd y gweithdai Fictoraidd gwreiddiol – sy’n gartref erbyn hyn i’r Amgueddfa Lechi – yn mis Awst 1969 ynghŷd â chwarel lechi Dinorwig. Roedd y chwarel wedi cau yn ddirybudd ar y pryd ac roedd popeth oedd ynghlwm â’r gwaith i fynd ar werth. Roedd gweld popeth wedi ei rifo – yr injans, y peiriannau, hyd yn oed yr olwyn ddŵr - yn loes calon i’r diweddar Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd y chwarel, fel soniodd ar yr adeg:
‘…beth oedd yn nychryn i fwya oedd…gweld nhw i fyny ar yr olwyn fawr. O nw’n mynd i losgi honno, fel scrap. Mi ges i gyfle i stopio nhw neud hynny, a siarad efo’r ocsiwniar a’r derbynnydd, ac fe neuthon nhw gau’r cwbwl i fyny a gyrru’r ‘vultures’ o na i gyd.’
Yn dilyn y cau bu cyfnod prysur o drafod a llythyru rhwng unigolion brwdfrydig, sefydliadau cenedlaethol, y cyngor sir a’r Swyddfa Gymreig. Penderfynwyd y byddai’r cyngor yn prynu’r adeiladau, yr Adran Amgylchedd yn edrych ar ei ôl a’r Amgueddfa Genedlaethol yn datblygu’r lle fel amgueddfa, ac ail-agorwyd y safle ar 25ain Mai 1972.
Wrth ei ddatblygu’n amgueddfa, roedd yna awydd i gadw cymeriad a naws yr hen weithdai ac mae hynny’n hollbwysig hyd heddiw. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl o bob oed, o bob cwr o’r byd, yn cael cyfle i ryfeddu at grefft y chwarelwyr a’r gofaint, yn mwynhau hel atgofion yn Fron Haul ac yn cael eu hysbrydoli gan ddyfeisgarwch a dycnwch eu cyndeidiau.
Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu i ddathlu’r penblwydd yn cynnwys arddangosfa o ffotograffau a chreiriau a gwaith celf gan blant ysgolion lleol. Bydd hefyd cyfres o sgyrsiau am yr amgueddfa gan staff presennol a chyn-staff, a gweithgareddau arbennig yn dathlu crefftau traddodiadol y safle. Ar ddydd Sadwrn 28 Mai bydd diwrnod o ‘daro tanllyd’ wrth i 3 gof lleol ymuno â gof yr amgueddfa i gyd weithio yno fel fysa’r gofaint wedi gwneud an oedd y gweithdai ar waith!
Bydd yr amgueddfa hefyd yn cyflwyno cymeriad newydd i ymwelwyr i geisio dehongli bwrlwm yr ail-agor nôl yn ’72 – sef Wil Ffitar! Bydd Wil yn adrodd hanes y safle pan oeddynt yn weithdai a’i waith yno wrth baratoi ar gyfer yr ymwelwyr cyntaf ar y diwrnod agoriadol ar 25ain o Fai, 1972!
Eglurodd Elen Roberts, Pennaeth yr Amgueddfa:“Ers y diwrnod hwnnw’n 1972, mae cryn dipyn wedi newid yma yn yr Amgueddfa – yr enw yn un ohonynt – agorwyd hi fel Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru pryd hynny. Erbyn hyn mae dros tair miliwn o bobl wedi camu trwy’r porth mawr a wedi profi hanes y diwydiant llechi!
Rydyn ni am i’r penblwydd yma yn 50 oed adlewyrchu a dathlu yr holl weithgaredd mae’r lle arbennig yma wedi’i weld dros y degawdau diwethaf, o’r dyddiau agoriadol yn y saithdegau i’r ail-ddatblygu mawr fu yn niwedd y nawdegau i gyflwyno Mynediad am Ddim yn mileniwm newydd – a nawr ei rhan fel Statws Treftadaeth y Byd yn sgil y dynodiad diweddar y llynedd – a hyn i gyd wrth gwrs wrth gofio am ei phwrpas gwreiddiol fel gweithdai peirianyddol i gefnogi Chwarel Dinorwig”.
Bydd y digwyddiadau penblwydd yn cael eu cynnal rhwng 25 - 31 Mai 2022.
25 Mai: Agor addangosfa Hanes yr Hanner Cant / Perfformiadau gan WIL FFITAR
26 Mai: Sgwrs ArLein gan Cadi Iolen, Curadur yr Amgueddfa
27 Mai: Taith a sgwrs am yr olwyn ddwr enfawr a’r inclein
28 Mai: Diwrnod Dathlu Crefftau Traddodiadol
- Cyfle i wneud crefft modern yn seiliedig ar grefftau traddodiadol yn cynnwys Celf Llechen a brwyn
- Taro Tanllyd yn yr Efail: Gof yr amgueddfa, Liam Evans a 4 gof arall yn cyd-weithio yn yr Efail
- Crefftau a diwgyddiadau i blant
- Perfformiadau gan Wil Ffitar
29 Mai:
- 50 mlynedd o gasglu: Sgwrs gan Cadi Iolen (Yn yr Amgueddfa)
- Crefftau a digwyddiadau i deuluoedd
- Perfformiadau gan Wil Ffitar
30 Mai: HWYRNOS AMGUEDDFA: digwyddiad arbennig i bobl ifanc 12-15 oed fwynhau’r amgueddfa 6pm
31 Mai: Sesiwn sgwrsio rhwng Dr Dafydd Roberts, cyn geidwad yr amgueddfa a Cadi Iolen, Curadur 2pm
Mae angen bwcio ar gyfer rhai gweithgareddau a mae tâl ar gyfer rhai.
Am fwy o wybodaeth am y dathliadau ewch i: ww.amgueddfa.cymru/llechi
DIWEDD
Am rhagor o wybodaeth a ffotograffau, cysylltwch â julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk / 02920 573707
Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am bob cefnogaeth.