Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae pump chanfyddiad wedi eu dyfarnu'n drysor heddiw, ar ddydd Gwener 17 Mehefin, gan Mr Paul Bennett, Uwch Grwner Gweithredol Sir Benfro.
Yn eu plith mae tair modrwy, un broetsh a gwniadur o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cafodd yr eitemau i gyd eu canfod gan ddatelyddion metel.
Dyfarnwyd bod broetsh cylchog arian o'r drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn drysor (Achos Trysor 21.20). Cafodd ei ganfod gan Lee Evans wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori yng Nghymuned Cilgerran, Sir Benfro, ar ddydd Sadwrn 16 Mai 2021. Mae ffrâm y broetsh wedi'i addurno â phatrymau saethben a rhigolau ardraws, gyda niello wedi'i fewnosod (deunydd du, tebyg i enamel yn creu cyferbyniad ag arian naturiol y broets).
Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Archaeoleg Amgueddfa Cymru:
'Diolch i gyflwyno Deddf Trysor 1996, mae mwy a mwy o emwaith o'r canoloesoedd fel y broetsh cylchog hwn o Gymuned Cilgerran yn cael eu hadrodd o Gymru. Mae'r adroddiad prydlon gan y canfyddwr wedi ychwanegu tystiolaeth ffres bod pobl yn y Gymru ganoloesol yn mynegi eu hunaniaeth bersonol drwy gyfrwng broetsh arian a niello ffasiynol – math o dystiolaeth ddiwylliannol sy'n ddibynnol ar arteffactau archaeolegol, a gwybod lle maen nhw'n cael eu canfod.'
Mae Amgueddfa Scolton Manor ger Hwlffordd wedi dangos diddordeb caffael y broetsh ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Canfuwyd modrwy arian ganoloesol (Achos Trysor 20.30) gan Vaughan Thomas wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, Sir Benfro, ar 5 Hydref 2018. Mae gan y fodrwy fand llydan wedi'i wasgu', a chantel ar ffurf blodyn arddulliedig, gyda dyluniad wedi'i arysgrifio. Mwy na thebyg fod y fodrwy yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r unfed ganrif ar bymtheg.
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:
'Mae adrodd am ganfod gemwaith canoloesol fel y fodrwy arian addurniedig hon drwy'r Cynllun Henebion Cludadwy a Deddf Trysor 1996 yn cyfrannu’n fawr at ein dealltwriaeth o ffasiwn a mynegiant o hunaniaeth bersonol yng Nghymru'r Canoloesoedd.
Mae Amgueddfa Scolton Manor wedi dangos diddordeb caffael y fodrwy, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
Gwrthrychau eraill a ddatganwyd eu bod yn drysorau:
Mae gan Amgueddfa Arberth ddiddordeb mewn caffael y gwrthrychau hyn ar gyfer eu casgliad, wedi iddynt gael eu prisio yn annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.
DIWEDD