Datganiadau i'r Wasg
Diogelu Gwlân Cymru - Amgueddfa Cymru yn caffael Melin Teifi
Dyddiad:
2022-08-17Mae Amgueddfa Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn caffael casgliad gwych o beiriannau wrth i Felin Teifi gau ei drysau ar ôl 40 mlynedd o wehyddu traddodiadol.
Sefydlwyd Melin Teifi ym 1982 gan Raymond a Diane Jones ar ôl i Felin Cambrian, lle buont yn gweithio am 18 mlynedd, gau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd Melin Teifi i safle’r hen felin Cambrian yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, sydd yn gartref i Amgueddfa Wlân Cymru. Mae Melin Teifi wedi bod yn rhan annatod o brofiad ymwelwyr â’r Amgueddfa fyth ers hynny.
Ar un adeg, y diwydiant gwlân oedd y pwysicaf a’r mwyaf helaeth o ddiwydiannau Cymru, ac mae Amgueddfa Wlân Cymru yn chwarae rôl allweddol wrth gadw traddodiad gwehyddu â gwlân yn fyw, drwy gynnal a chadw a defnyddio’r hen beiriannau, a thrwy waith y crefftwyr.
Ychydig iawn o felinau gwlân sydd ar ôl yng Nghymru, ac mae Amgueddfa Cymru yn caffael Melin Teifi yn golygu y bydd y peiriannau yn aros yn eu lle ac yn cael eu gwarchod a’u defnyddio i barhau â thraddodiad gwehyddu gwlân yng Nghymru.
Dywedodd Raymond Jones, Melin Teifi:
“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, beth mae’r Amgueddfa’n ei wneud; maen nhw’n mynd i symud y diwydiant yn ei flaen, dod â phobl mewn i ddysgu ac i redeg y ffatri, a chadw’r diwydiant yn fyw. Mae Dre-fach Felindre wedi bod yn rhan o’r diwydiant gwlân ers canrifoedd. Mae’r ffaith bod yr Amgueddfa yma yn dangos fod y pentref yn ganolog i’r diwydiant gwlân, ac mae’n bwysig iawn bod hynny’n parhau.”
Dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru:
“Mae caffael y peiriannau a’r gwyddiau hanesyddol yn sicrhau y bydd Amgueddfa Cymru yn gallu cynnal traddodiad gwehyddu gwlân yng Nghymru i genedlaethau’r dyfodol. Bydd yn galluogi ein crefftwyr i barhau â’u hyfforddiant a datblygu eu sgiliau wrth iddynt gynhyrchu carthenni gwlân o safon. Bydd gweld y peiriannau hyn wrth eu gwaith yn gwella profiad ymwelwyr, ac yn dod â hanes yn fyw iddynt. Byddant yn gallu dysgu wrth wylio ein crefftwyr, a bydd hyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wehyddion.”
Dywedodd Daniel Harris o’r London Cloth Company, sydd wedi bod yn cefnogi hyfforddiant crefftwyr yn Amgueddfa Wlân Cymru:
“Mae arwyddocâd cenedlaethol i’r ffaith bod Amgueddfa Cymru wedi prynu Melin Teifi. Wrth i felinau gau dros y blynyddoedd diwethaf, does dim olyniaeth fel arfer - mae’r casgliad yn mynd ar wasgar a’r rhan fwyaf yn cael ei sgrapio.”
Wrth i Felin Teifi ymddeol yn 2023, bydd pennod newydd yn agor yn hanes y felin, ac yn sicrhau parhad hanes a thraddodiad y diwydiant gwlân yng Nghymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau sydd wedi'u lleoli ar draws y wlad. Ein nod yw ysbrydoli pawb gyda stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, yn y gymuned ac yn ddigidol.
Rydyn ni'n croesawu pawb am ddim, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r croeso cynnes hwnnw'n estyn i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru trwy wirfoddoli, ymuno â ni neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru