Datganiadau i'r Wasg
Clirio'r bwrdd troelli a dathlu'r gorau o hip hop Cymru
Dyddiad:
2022-08-25Mae Amgueddfa Cymru eisiau eich gwrthrychau hip hop ar gyfer arddangosfa newydd
Oes gyda chi gylchgronau, taflenni neu luniau o fyd hip hop Cymru?
Yn 2023 bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal arddangosfa yn nwy o'i hamgueddfeydd i ddathlu'r gorau o hip hop Cymru. Bydd yr arddangosfa yn edrych ar hanes cyfoethog hip hop yng Nghymru – o'r gwreiddiau dan ddaear i fod yn rhan o brif ffrwd sîn gelfyddydol a diwylliannol Cymru.
Bydd y brif arddangosfa yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod haf 2023, a bydd arddangosfa lai hefyd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ystod hydref 2023.
Meddai Kieron Barrett, Cydlynydd Casglu Hip Hop Amgueddfa Cymru:
"Ar gyfer yr arddangosfa yma, rydyn ni angen eich help. Rydyn ni eisiau clywed gan bawb sydd wedi bod yn rhan o'r sîn hip hop yng Nghymru, hyd yn oed y dilynwyr brwd. Oeddech chi yna reit ar y dechrau? Rydyn ni'n chwilio am berson daflenni, lluniau, ffasiwn, casetiau cartref, cylchgronau a memorabilia o'r sîn hip hop, ar gyfer graffiti, dawnsio b-boy, bît bocsio, DJ neu rap. Rydyn ni hefyd eisiau clywed am eich atgofion.
"Mae gyda ni ddiddordeb ym mhob cenhedlaeth ond yn enwedig beth mae pobl wedi eu cadw o'r 80au a 90au cynnar, a hyd yn oed y 70au! Cysylltwch â ni ac anfonwch ffotograffau, ffilmiau ac atgofion naill ai drwy e-bost at hiphop@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol."
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydyn ni yma i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd