Datganiadau i'r Wasg
Dathlu Hanes Pobl Dduon Cymru yn Sain Ffagan
Dyddiad:
2022-09-22Bydd dathliadau lansio Hanes Pobl Dduon Cymru yn cael eu cynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Sadwrn 1 Hydref 2022 rhwng 11.15am a 5pm.
I ddathlu'r achlysur, bydd Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Race Council Cymru yn cynnal diwrnod o ddigwyddiadau ar y thema 'Bobl Ifanc, Nawr yw'r Amser!'
Byddwn yn dathlu hanes, diwylliant a chyfraniad pobl o dras Du Affricanaidd a Charibïaidd, trwy gerddoriaeth, perfformiadau a chelf.
Bydd marchnad arbennig Hanes Pobl Dduon Cymru yn gwerthu cynnyrch a bydd cyfle i flasu bwyd Affrica a'r Caribî yn ein fflach-stondinau.
Ymhlith perfformiadau'r dydd fydd Lucas Rowe, Blank Face, Wahda, Xenith, RoseGold Choir a Miss Faithee.
Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru, "Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru yn Sain Ffagan.
Meddai'r Athro Uzo Iwobi OBE FLSW, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru:
"Mae thema eleni, 'Bobl Ifanc, Nawr yw'r Amser!' yn galw ar bobl ifanc i godi eu lleisiau am gyfraniadau pobl Ddu at y gymuned, i ddweud pan fyddan nhw'n gweld neu’n profi hiliaeth, a herio rhieni ac oedolion o'u cwmpas i fod yn fwy cynhwysol.
"Dyma'r flwyddyn i annog cymdeithas i wrando ar leisiau pobl ifanc a chydnabod mai dyma arweinwyr y dyfodol. Nawr yw'r amser i wrando ar eu lleisiau, nawr yw'r amser i weithio gyda phobl ifanc ac i wreiddio hanes pobl Dduon yn ein hysgolion ac yn ein cymdeithas. Nawr yw'r amser i sefyll dros gyfiawnder, cynhwysiant a thegwch."
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae'n ymestyn i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd