Datganiadau i'r Wasg
Arddangosiad newydd i nodi trychineb Aberfan yn Sain Ffagan
Dyddiad:
2022-10-19Mae casgliad o eitemau sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan nawr i’w gweld yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Mae’r eitemau sy’n rhan o’r arddangosiad yn cynnwys cist ddroriau o Ysgol Gynradd Pantglas, lamp glöwr gafodd ei chanfod yn y rwbel, a rhaglenni gemau pêl-droed a gasglwyd gan rieni Gareth Jones, a oroesodd y drychineb yn chwech oed. Mae’r arddangosiad hefyd yn cynnwys dyddiadur Gaynor Madgwick, a gafodd ei hachub o’r rwbel, a hithau’n wyth oed.
Mae’r eitemau hyn yn ymuno â’r cloc eiconig a stopiodd am 9.13am, sef moment trychineb Aberfan. Cafodd y cloc ei roi i’r casgliad cenedlaethol yn gynharach eleni, ac mae wedi bod yn cael ei arddangos yn oriel Cymru... ers mis Chwefror.
Roedd y cloc wedi’i gadw’n ddiogel am flynyddoedd yng nghartref Mike Flynn, mab Mike Flynn (yr hynaf) a aeth i Aberfan i helpu ar 21 Hydref 1966. Roedd Mike yn bostman ac yn baramedig gyda’r Fyddin Diriogaethol ar y pryd.
Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:
“Mae trychineb Aberfan yn ddigwyddiad allweddol yn hanes Cymru, ac rydym yn falch o allu cynrychioli’r hanes yn yr Amgueddfa. Rydyn ni’n ychwanegu at gasgliad Aberfan er mwyn sicrhau na chaiff y stori hon fyth ei hanghofio."
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydym yma i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
DIWEDD