Datganiadau i'r Wasg

DAVID ANDERSON YN RHOI’R GORAU I’W RÔL FEL CYFARWYDDWR CYFFREDINOL AMGUEDDFA CYMRU

David Anderson - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

Bydd David Anderson yn rhoi’r gorau i’w rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill eleni, ac yntau wedi arwain y corff ers 2010. Ei weledigaeth ddemocrataidd ar gyfer cyfiawnder diwylliannol a chymdeithasol lywiodd yr ailddatblygiad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gan ennill Gwobr Amgueddfa Gelf y Flwyddyn Art Fund UK yn 2019. Ei weledigaeth hefyd yw sail Strategaeth 2030 newydd yr Amgueddfa a gyhoeddwyd yn 2022. 

Dan Gyfarwyddiaeth David Anderson, mae’r Amgueddfa yn gefnogwr cadarn o gydraddoldeb hiliol a chydraddoldebau eraill; ac mae wedi ehangu’r rhaglen addysg, arddangosfeydd ac ymgysylltiad cymunedol yn radical gan gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r saith amgueddfa genedlaethol i bron i 2 filiwn o bobl y flwyddyn. Yn ystod pandemig COVID, safodd Amgueddfa Cymru ochr yn ochr â chymunedau ar draws Cymru gan ddatblygu adnoddau i gefnogi ysbytai maes lleol, cartrefi gofal a chyrff cymunedol. 

Ailsefydlodd David Anderson raglen arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd arddangosfa KIZUNA yn 2018 gyda chasgliadau o Amgueddfeydd Cenedlaethol Japan yn serennu, ac arddangosfa Bywyd Richard Burton yn 2021. Ef wnaeth greu’r Adran Ymchwil, a datblygu partneriaethau rhyngwladol â sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd democrataidd Amgueddfa Cymru yng Ngogledd a De America, y gwledydd Celtaidd a chenhedloedd eraill yn Ewrop.

O fis Ebrill ymlaen, bydd David yn Gymrawd Emeritws yn Amgueddfa Cymruac yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Lywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru: 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i David Anderson am ei gyfraniad sylweddol i Amgueddfa Cymru yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn yr Amgueddfa. Mae wedi goruchwylio gweddnewid Sain Ffagan yn amgueddfa hanes genedlaethol i Gymru yn ogystal â datblygu rhaglenni a gwaith ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ehangu rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas. Mae hefyd wedi cyfrannu at roi cyfeiriad strategol clir i Amgueddfa Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gyda strategaeth 2030 a'i chwe addewid yn creu sylfeini cadarn i’r Amgueddfa wasanaethu cymunedau Cymru a datblygu ei rôl ar y llwyfan rhyngwladol.” 

 

Meddai Dr Carol Bell, Is-lywydd Amgueddfa Cymru:

“Ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, dyma ddiolch yn fawr i David am ei wasanaeth ymroddedig. Mae Amgueddfa Cymru heddiw yn sefydliad tra gwahanol i’r un yr ymunodd David ag ef ddeuddeg mlynedd yn ôl. Dan ei arweiniad, daeth yr amgueddfa yn ddarparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru a bydd ei angerdd amlwg dros ddemocratiaeth ddiwylliannol yn sylfaen gadarn i Gymru am nifer o flynyddoedd i ddod. Bellach, ystyrir Amgueddfa Cymru yn arweinydd meddwl yn y maes hwn, diolch i berthynas wych David ag arweinwyr rhyngwladol yn y maes.

Edrychwn ymlaen at weld gwaddol David yn datblygu ymhellach gan barhau i ysbrydoli a bod o fudd i bobl Cymru. Dymunwn yn dda iddo yn ei rôl fel Cymrawd Emeritws gyda’r amgueddfa.”

 

Meddai David Anderson:

“Fy neuddeg mlynedd yn Gyfarwyddwyr Cyffredinol yn Amgueddfa Cymru fu’r mwyaf gwerth chweil o fy ngyrfa broffesiynol. Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i weithio gyda chynifer o staff creadigol, ymroddedig ac ysbrydoledig yn yr Amgueddfa, y mae eu hymroddiad i’r sefydliad yn amlwg i bawb sy’n ymweld â’n hamgueddfeydd. Mawr yw fy niolch hefyd i’r Ymddiriedolwyr hynny sydd wedi rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn anhunanol a heb ystyriaeth i’w budd personol i’n Bwrdd, er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn parhau yn sefydliad cenedlaethol cadarn ac annibynnol.

Ein Strategaeth 2030 newydd, sy’n seiliedig ar waith ymgynghori â bron i 1,000 o bobl ar draws Cymru, ac a lywiwyd gan ein gwaith yn ystod pandemig COVID pandemic, yw ein datganiad o ymroddiad i’r genedl. Yn hynny o beth, rydym yn ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, trwy ein staff, arddangosfeydd ac orielau; i gynnig cyfleoedd i bawb ddysgu a bod yn greadigol; ac i ofalu am fyd natur ac amgylchedd Cymru. Ar draws Cymru, bydd ein hamgueddfeydd yn llefydd fydd yn cynnig croeso, noddfa a lles i bawb. Byddwn yn defnyddio ein technolegau digidol i ddatblygu ein gwasanaethau mewn partneriaeth â’r rheini sydd ddim yn gallu ymweld â ni wyneb yn wyneb. Byddwn yn adeiladu ar ein rhwydweithiau rhyngwladol i gysylltu Cymru â’r byd. 

Edrychaf ymlaen yn fawr at gefnogi’r Amgueddfa, sefydliad cenedlaethol tra hoff a drysorir, i wireddu’r uchelgeisiau hyn dros y blynyddoedd nesaf.”