Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae gwaith adeiladu Gwesty’r Vulcan yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi symud i gam newydd. Mae’r sgaffaldiau newydd gael eu tynnu i lawr o’r to, a bydd gwaith yn dechrau tu mewn i’r adeilad cyn bo hir.
Dechreuodd tîm adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa ailadeiladu’r dafarn Fictoraidd eiconig o Gaerdydd yn 2020, a disgwylir i’r gwaith gael ei orffen erbyn diwedd 2023. Bydd y dafarn ar agor i’r cyhoedd yn 2024.
Ym 1853 codwyd tafarn newydd ar Adam Street yng Nghaerdydd i wasanaethu cymuned New Town, cymuned Wyddelig yn bennaf. Bu’n dyst i newid mawr dros y blynyddoedd wrth i Gaerdydd dyfu yn ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl, cyn cau ei drysau am y tro olaf yn 2012.
Yna, cafodd yr adeilad enwog ei ddymchwel fesul bricsen gan dîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru a'i symud i Sain Ffagan yn 2012.
Bydd y Vulcan wedi'i haddurno fel y byddai ym 1915, blwyddyn bwysig yn ei hanes. Roedd gwaith adnewyddu helaeth newydd orffen, pan aildrefnwyd yr ystafelloedd ac ychwanegu'r teils gwyrdd a brown trawiadol ar y blaen. Mae'r Amgueddfa yn ystyried sut fydd Gwesty'r Vulcan yn cael ei rhedeg ac rydym yn gobeithio gallu gwerthu cwrw yn y dafarn yn y dyfodol.
Mae'r project wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Swire tuag at y gwaith adeiladu, hyfforddiant a'r elfennau cyfranogol.
DIWEDD