Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiad balch a beiddgar gyda'r nos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Byddwn ni'n dechrau 2023 gyda bang yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Chwefror, wrth i ni ddathlu bywydau a llwyddiannau LHDTQ+ fel rhan o'n rhaglen o ddigwyddiadau gyda'r nos, Hwyrnos (Lates).

 

Bydd Hwyrnos: QUEER yn meddiannu’r Amgueddfa ar 17 Chwefror fel rhan o Fis Hanes LHDTQ+. Bydd hi'n noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd, gyda chyfraniadau gan un o sêr TikTok, Ellis Jones a'r DJs lleol, Welsh Chicks.

 

Thema Mis Hanes LHDTQ+ eleni yw 'Tu ôl i'r lens'. Bydd Hwyrnos: QUEER yn cefnu ar yr ystrydebau am bobl LHDTQ+ ac yn edrych am ffyrdd newydd o ddathlu'r gymuned gyda noson o weithdai, straeon, perfformiadau a sgyrsiau.

 

Er mwyn llenwi'r Amgueddfa â cherddoriaeth a hwyl, byddwn ni hefyd yn gweld perfformiadau dawns gan The Welsh Ballroom a Qwerin.

 

Bydd y brif neuadd yn llawn stondinau gan grefftwyr lleol yn gwerthu eu celf ac yn cynnig gweithdai a gwybodaeth. Bydd y caffi a'r bar ar agor hefyd, yn gwerthu bwyd a diod nes 11pm.

 

Dywedodd Ruth Oliver, Rheolwr Digwyddiadau Amgueddfa Cymru, "Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau 2023 gyda bang, ac rydyn ni'n edrych ymlaen i agor drysau'r Amgueddfa eto i groesawu Hwyrnos arall – un o ddigwyddiadau mwyaf a mwyaf deinamig Caerdydd.

 

"Mae Hwyrnos: QUEER yn gyfle i oedolion o bob oed ymlacio, ymfalchio yn eu hunaniaeth, a mwynhau'r holl weithgareddau llawn hwyl.  Mae’r Amgueddfa’n lle diogel i bob cymuned yng Nghaerdydd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda busnesau LHDTQ+ yn y digwyddiad cyffrous hwn."

 

Mae tocynnau ar gyfer Hwyrnos: QUEER yn £10 ac ar gael i'w prynu nawr o www.amgueddfa.cymru/Hwyrnos