Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yn Ne-Ddwyrain Cymru
Dyddiad:
2023-01-25Ar ddydd Mercher 25 Ionawr 2023 cafodd pum canfyddiad, gan gynnwys dwy fodrwy addurniadol o'r Oesoedd Canol, eu datgan yn drysor gan Sarah Le Fevre, Crwner Cynorthwyol Gwent.
Canfuwyd modrwy eiconograffig aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol (Achos Trysor 21.48) gan Mr Ron Ford wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Bishton, Casnewydd, ar 25 Medi 2021. Mae gan y fodrwy gantel hirgrwn, gyda ffigwr canolog o Sant Cristoffer yn cario Crist y Plentyn ar ei ysgwydd wrth ffrydio drwy ddŵr. Ar ysgwyddau'r fodrwy mae addurn ar ffurf dyluniad deiliach arddulliedig a chasgliad o linellau tali wedi eu hysgythru'n fras tu fewn I gylch y fodrwy.
Dywedodd Sian Iles, Amgueddfa Cymru:
“Roedd darluniau o Sant Cristoffer yn cario Iesu'r Plentyn yn boblogaidd ar ddyluniadau eiconograffig a gemwaith defosiwn yn yr Oesoedd Canol, pan oedd seintiau yn cael eu dyrchafu am eu daioni, a'u hanes yn cael ei ddathlu. Canfuwyd modrwy enamlog gilt arian gydag engrafiad tebyg o Sant Cristoffer yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg yn 2005, a'i chaffael drwy Ddeddf Trysor 1996 ar gyfer y casgliadau cenedlaethol.”
Mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ddiddordeb mewn caffael y gwrthrych hwn ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Canfuwyd modrwy eiconograffig aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol (Achos Trysor 21.37) gan Mr Paul Tourle wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm âr yng Nghymuned Dyfawden, Sir Fynwy, ar 10 Medi 2021. Mae ganddi gantel gyda delweddau defosiwn wedi eu hengrafu ar y ddau wyneb. Ar yr wyneb chwith mae menyw mewn gŵn gyda chwfl yn dysgu merch mewn gwisg lawn gydag eurgylch i ddarllen o lyfr agored (o bosib y Santes Ann yn dysgu'r Forwyn i ddarllen). Ar yr wyneb dde mae darlun o Sant Siôr gyda tharian a gwaywffon uwchlaw draig gyda chorff tyllog. Tu fewn i gylch y fodrwy mae'r arysgrif ‘en bon an’ (Blwyddyn dda).
Dywedodd Dr Mark Redknap, Amgueddfa Cymru:
“Mae'r fath fodrwyau gydag ysgythriadau o un neu fwy o ffigurau neu olygfeydd Cristnogol yn dystiolaeth real o ffydd a phoblogrwydd delweddau o bobl ddwyfol a seintiau. Mae'r arysgrif yn awgrymu taw anrheg Blwyddyn Newydd oedd y fodrwy (mae'r un arysgrif i'w weld ar fodrwy eiconograffig o ddiwedd yr Oesoedd Canol a ganfuwyd ger Brynbuga, Sir Fynwy).”
Mae gan Amgueddfa Cymru ddiddordeb caffael yr eitem hon ar gyfer y casgliad cenedlaethol, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Gwrthrychau eraill a ddatganwyd eu bod yn drysorau:
⚫ Broets anelog bach arian o'r bedwaredd ganrif ar ddeg gydag addurn corniog (Achos Trysor 21.46), a ganfwyd gan Mr Mark Watson wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel, Sir Fynwy, ar 26 Medi 2021. Mae gan Amgueddfa Mynwy ddiddordeb mewn caffael yr eitem hon.
⚫ Modrwy aur o'r ddeunawfed ganrif, gyda dau bar o briflythrennau wedi'u harysgrifio a'r dyddiad 1712 (Achos Trysor 19.41), a ganfuwyd gan Dr Terrence Shapcott wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Llanbradach a Pwll y Pant ar 22 Medi 2019. Mae gan Amgueddfa'r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd ddiddordeb mewn caffael yr eitem hon.
⚫ Modrwy sêl memento mori seal o'r Oesoedd Canol gyda motiff penglog a phriflythrennau'r perchennog (Achos Trysor 21.05) a ganfuwyd gan Mr Abdulla Taleb wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir pori garw yng Nghymuned Langstone, Casnewydd ym mis Tachwedd 2020. Mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ddiddordeb mewn caffael y gwrthrych hwn.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
1. © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn raglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.<
3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 600 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 58 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2021. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.