Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Dyddiad:
2023-03-21Mae wyth canfyddiad, gan gynnwys addurn aur o’r Oes Efydd, modrwyon canoloesol a darnau o arian a modrwyau ôl-ganoloesol, wedi cael eu cadarnhau yn drysor ddydd Mawrth 21 Mawrth 2023 gan Kate Sutherland, Crwner Cynorthwyol Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol).
Cafodd modrwy fede aur ganoloesol (Achos Trysor 21.14) ei darganfod gan Paul Davis ar 12fed Ebrill 2021 tra’n defnyddio datgelydd metel mewn cae dan borfa yng Nghymuned Bronington, Wrecsam. Mae gan y fodrwy, sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif, ddwy grib belennog uchel gyda chynllun o flodau a dail rhyngddynt, gydag olion o addurn enamel gwyn wedi goroesi. Mae’r arysgrif ar yr ochr allanol yn dweud ‘de bôn cuer’ sef ‘o galon dda’. Mae’r fodrwy yn rhan o gasgliad o ddarnau arian a modrwyau sydd eisoes wedi’u galw’n drysor, o’r enw Casgliad Bronington. Cafodd ei adael ar ôl 1465 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi mynegi diddordeb mewn caffael y darganfyddiad hwn ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd pedwar darn arian Siarl I (Achos Trysor 21.28) eu darganfod gan Eric Faulkner, David Molyneux, Chris Jones a Gordania Mitchell ar 20 Mehefin 2021 mewn cae yng Nghymuned Esclusham, Wrecsam yn ystod rali datgelu metel. Cafodd y darnau arian, dau swllt a dau ddarn chwe cheiniog, eu claddu ar ôl 1641 yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Mae Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi mynegi diddordeb mewn caffael y darganfyddiad hwn ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd modrwy gudyn aur (Achos Trysor 19.38) ei darganfod gan Chris Wood ym mis Medi 2018 tra’n defnyddio datgelydd metel ar gae âr yng Nghymuned Holt, Wrecsam. Y person cyntaf i gael gwybod am y darganfyddiad oedd Susie White, Swyddog Darganfyddiadau y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy (PAS Cymru) ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Ar un adeg, defnyddiwyd y darn hwn o’r gwrthrych fel addurn statws uchel, o bosib yn y gwallt, ac mae wedi’i addurno gyda llinellau cylchol consentrig cywrain. Mae’n dyddio i ddiwedd yr Oes Efydd a chafodd ei wneud bron i dair mil o flynyddoedd yn ôl (1000-800 CC). Mae modrwyau cudyn tebyg wedi’u darganfod ar Ynys Môn ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru, ac mae nifer ohonynt wedi'u darganfod hefyd ar draws de-orllewin Iwerddon, gogledd Prydain ac yn ne-ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Dr Susie White, Swyddog Darganfyddiadau PAS Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, a dderbyniodd y gwrthrych gan y person wnaeth ei ddarganfod, fel achos trysor posib:
“Cyn gynted ag y cysylltodd y darganfyddwr â fi ynglŷn â’r gwrthrych hwn, ro’n i’n gwybod ei fod yn rhywbeth arbennig. Dydy gwrthrychau fel hyn ddim yn dod i’r fei yn aml iawn, a dyma’r tro cyntaf i fi brofi hyn. Ro’dd yn braf iawn gallu cofnodi rhywbeth mor brydferth, hyd yn oed yn ei gyflwr crychlyd”.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru, wrth sôn wrth y Crwner am y darganfyddiad:-
“Mae ansawdd yr addurn ar yr arteffact hwn yn drawiadol ac yn gwneud i chi feddwl ‘sut wnaeth y gwneuthurwr, eurof arbenigol, lwyddo i sgrifellu saith deg naw o gylchoedd consentrig â llaw ar ddalen o aur pedwar centimetr o led?’. Mae’r effaith weledol, a grëwyd ar draws wyneb yr addurn aur, yn awgrymu bod hwn unwaith yn ddarn o eiddo gwerthfawr iawn. Byddai wedi sicrhau bod y person a’i wisgai, yn ddyn neu’n fenyw, yn sefyll allan ac yn berson â chysylltiadau da ac o statws uchel o fewn eu cymuned.”
Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegi diddordeb mewn caffael y darganfyddiad hwn, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd plât bwcl arian canoloesol a darn arian (Achos Trysor 20.09) eu darganfod ar 16 Mehefin 2020 gan Ian Cox, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir pori garw yng Nghymuned Henryd, Conwy. Roedd y plât bwcl arian, a addurnwyd yn gywrain gyda chynllun rhwyllog o ddelltwaith Gothig, yn arfer bod yn sownd wrth linyn neu wregys sidan a oedd ym meddiant person o statws uwch. Byddai’r darn arian treuliedig, ceiniog arian Rhisiart II (1377-1399), yn cael ei osod ar ben agored y plât bwcl ac mae’n awgrymu bod y ddau wrthrych wedi mynd ar goll ddechrau’r 15fed ganrif. Mae Canolfan Diwylliant Conwy wedi mynegi diddordeb mewn caffael y darganfyddiad hwn ar gyfer eu casgliad, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Dywedodd Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru, wrth sôn wrth y Crwner am y darganfyddiad:-
“Roedd llinynnau a gwregysau o ledr neu ddefnydd o’r ansawdd hyn wedi’u cyfyngu i’r bobl gyfoethocach a byddent yn cael eu hystyried fel addurn personol gweladwy. Caiff ei adlewyrchu yma gan y deunyddiau a ddefnyddiwyd a'r addurniadau cain. Mae'r darganfyddiad newydd hwn yn arwyddocaol gan ei fod yn dod o safle o fewn y Gymru ganoloesol a’i gladdu gyda darnau arian anarferol”.
Dywedodd Dr David Howell, Swyddog Ymgysylltu PAS Cymru:-
“Mae’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu treftadaeth Cymru. Drwy rwydwaith o Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau penodol ar draws Cymru a chymorth Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, mae PAS Cymru yn darparu gwasanaeth lle mae’r bobl sy’n darganfod deunyddiau archaeolegol yn gallu rhoi gwybod am y gwrthrychau yn ffurfiol. Oherwydd gwaith PAS Cymru, mae gwybodaeth am filoedd o wrthrychau archaeolegol wedi’u cofnodi, gan wella ein dealltwriaeth o archaeoleg a hanes Cymru yn sylweddol. Heb PAS Cymru, mae’n debygol y byddai pobl Cymru wedi colli’r wybodaeth hon. Heddiw, gellir gweld gwybodaeth am arteffactau a gofnodwyd drwy'r cynllun ar gronfa ddata ar-lein ganolog cynllun PAS <https://finds.org.uk>.”
Cafodd yr eitemau canlynol hefyd eu datgan yn drysor:
⚫ Darn o derfynell arian ganoloesol (Achos Trysor 20.13), wedi’i darganfod gan Paul Hughes ar 23 Medi 2020, tra’n defnyddio datgelydd metel mewn cae dan borfa yng Nghymuned Trefriw, Conwy. Mae gan yr eitem addurnol hon gynllun o blanhigion a dail rhwyllog yn dyddio nôl i’r 15eg ganrif. Mae Canolfan Diwylliant Conwy wedi mynegi diddordeb mewn caffael yr arteffact hwn ar gyfer ei chasgliad.
⚫ Dau ddarn arian tociedig James I a Siarl I o’r ail ganrif ar bymtheg (Achos Trysor 20.20), wedi’u darganfod gan Mick Brady ar 17 Hydref 2020, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir yng Nghymuned Aberchwiler, Sir Ddinbych.
⚫ Modrwy arysgrif aur o ddiwedd y 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif (Achos Trysor 21.26), wedi’i darganfod gan Norman Clacher ar 13g Mehefin 2021 mewn cae dan borfa yng Nghymuned Esclusham, Wrecsam, yn ystod rali datgelu metel. Mae gan y fodrwy arysgrif ar yr wyneb mewnol â’r geiriau ‘Gods providence is our inheritance’.
⚫ Darn o fodrwy arian ganoloesol (Achos Trysor 22.39), wedi’i darganfod gan Jamie Larkin ar 10 Awst 2022 mewn cae o dir âr yng Nghymuned Llandegla, Sir Ddinbych, yn ystod rali canfod metel. Fwy na thebyg, mae’r fodrwy, gydag addurn endorri ailadroddus a chynllun panelog, yn dyddio nôl i’r 15fed ganrif. Mae Gwasanaethau Amgueddfeydd Sir Ddinbych wedi mynegi diddordeb mewn caffael y fodrwy ar gyfer eu casgliad.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
1. © Amgueddfa Cymru yw hawlfraint pob delwedd.
2. Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, bu dros 600 o ganfyddiadau trysor yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, a 76 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, ac yn adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
4. Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn unol â’r gyfraith a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.