Datganiadau i'r Wasg
Cyrraedd carreg filltir nawdd o £3 miliwn
Dyddiad:
2023-04-05Mae Amgueddfa Cymru yn diolch i chwaraewyr y People's Postcode Lottery am eu cefnogaeth barhaus.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Amgueddfa Cymru, sy'n elusen gofrestredig, wedi derbyn dros £3 miliwn o nawdd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.
Cefnogir saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery ers 2013, sydd wedi galluogi'r Amgueddfa i greu rhaglenni sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru a chyrraedd dros 7 miliwn o bobl hyd yn hyn.
Mae nawdd a godwyd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery wedi cael effaith fawr ar draws Amgueddfa Cymru, yn cefnogi rhaglen amrywiol o arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus, a rhaglen addysg ddigidol sy'n cynnig profiadau ymweld a gweithdai rhithwir i blant o bob cwr o Gymru.
O ddigwyddiadau i blant oed derbyn, i aros dros nos gyda'r dinos ac arddangosfeydd cyffrous fel Bwyd Lleol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Deinosoriaid yn Deor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Wriggle – un o'n arddangosfeydd mwyaf poblogaidd erioed a deithiodd ar draws Cymru – mae'r nawdd wedi helpu i ysbrydoli a chyffroi amrywiaeth eang o ymwelwyr.
Diolch i chwaraewyr y People's Postcode Lottery, mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi gallu cefnogi dros 6,000 o ymwelwyr ar draws ein saith amgueddfa genedlaethol i gyfrannu at amrywiaeth o weithgareddau, o deithiau celf, i waith maes archaeoleg a gwaith cynnal a chadw'r gerddi. Mae chwaraewyr y People's Postcode Lottery hefyd wedi ein galluogi i gynnal rhaglenni prentisiaeth, gan gynnwys dau brentis saer maen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r prentisiaethau hyn yn sicrhau bod crefftau yn cael eu meithrin a'u trosglwyddo, a sgiliau a phrofiad proffesiynol yn cael ei ddatblygu.
Dywedodd Nia Elias, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Amgueddfa Cymru: Diolch o galon i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yma yng Nghymru. Dros y blynyddoedd mae'r People's Postcode Lottery wedi bod yn rhan allweddol o'n gweledigaeth i ysbrydoli pobl a newid bywydau. Mae'r nawdd yn ein galluogi i gefnogi pobl ledled Cymru i gael bywyd diwylliannol gwell a mwy cyfoethog, a sicrhau bod ein teulu o saith amgueddfa a'n casgliadau yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i'r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar ein bywydau, ac wrth i ni chwarae ein rhan yn ateb yr heriau sydd gan Gymru i'w hwynebu yn y dyfodol.
Dywedodd Laura Chow, Pennaeth Elusennau People’s Postcode Lottery, “Mae pobl Cymru yn falch iawn o’u hanes a’u diwylliant a rydyn ni’n falch iawn bod Amgueddfa Cymru wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Mae tim Postcode Lottery yn ymweld a Chymru yn gyson – fel arfer i ddosbarthu sieciau i’n ennillwyr lwcus – a ry’ ni’n edrych mlaen i ddathlu y llwyddiant yma yn fuan.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk