Datganiadau i'r Wasg

Darganfod Trysor Rhufeinig yn Nyffryn Conwy

Celc mawr o geiniogau Rhufeinig

Ceiniogau arian o'r celc bach

Cyhoeddwyd ddydd Llun 9 Hydref gan Grwner Cynorthwyol Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Kate Robertson, bod dau gelc o ddarnau arian Rhufeinig yn drysor.

 

Cafodd y ddau gelc Rhufeinig eu darganfod gan y datgelyddwyr metel David Moss a Tom Taylor yng Nghymuned Caerhun, Conwy, yn ystod gaeaf 2018-2019. Cafwyd hyd i’r celc mwyaf (Trysor 19.01) mewn llestr cerameg. Roedd 2,733 o ddarnau arian yma, sef cymysgedd o denarii arian a fathwyd rhwng 32 CC ac OC 235, yn ogystal â rheiddiolion (a elwir hefyd yn antoniniani) o arian ac aloi copr, a fathwyd rhwng OC 215 a 270. Mae’n ymddangos bod y darnau aloi copr wedi’u rhoi yn rhydd yn y pot, ond bod y rhan fwyaf o’r darnau arian wedi’u cadw mewn dau fag lledr a osodwyd ar ben y celc. Yn y celc llai (Trysor 19.03) cafwyd 37 denarius arian, yn dyddio o 32 CC i OC 221, a ddarganfuwyd ar wasgar dros ardal fach yn agos iawn i’r celc mwy.

 

Pan ddaeth y chwilotwyr Tom a Dave o hyd i’r celc mwy, fe gofion nhw’r hyn roeddent wedi’i weld ar Time Team a chodi’r pot yn ofalus o’r ddaear, cyn ei lapio mewn rhwymynnau a hysbysu Dr Susie White, Swyddog Darganfyddiadau’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam, am y ddau gelc.

 

 

Meddai David Moss, un o ddarganfyddwyr y celciau darnau arian:

 

“Roedden ni newydd ddechrau chwilota am fetel pan wnaethon ni’r darganfyddiadau cwbl annisgwyl yma. Ar ddiwrnod y darganfyddiad, ychydig cyn Nadolig 2018, roedd hi’n glawio’n drwm, felly mi edrychais ar Tom a gwneud fy ffordd ar draws y cae tuag ato i ddweud wrtho am roi’r gorau i’r chwilota, pan ddigwyddais i glipio yn sydyn ar rywbeth yn ddwfn yn y ddaear yn gwneud signal. Syndod enfawr ar ôl cloddio i lawr oedd gweld pen y llestr oedd yn dal y darnau arian.”

 

“Dydy pobl ddim yn sylweddoli faint o waith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn yr amgueddfa genedlaethol, o gloddio’r darnau arian, i edrych ar eu holau a’u hadnabod fel bod modd eu cyhoeddi fel trysor... mae’n broses enfawr i allu gweld y gwaith yn datblygu... mae cael cymryd rhan yn uniongyrchol fel darganfyddwyr yn brofiad anhygoel.”

 

 

Aethpwyd â’r celciau wedyn i Amgueddfa Cymru i wneud gwaith meicro-gloddio ac i enwi’r darnau. Meddai Louise Mumford (Prif Gadwraethydd Archaeoleg yn Amgueddfa Cymru):

“Yn y labordy cadwraeth, o archwilio rhan uchaf y pot gwelwyd yn syth fod rhai o’r darnau arian wedi bod mewn bagiau o ledr tenau iawn, a’u holion yn parhau. Mae’n beth prin iawn i ddeunyddiau organig fel hyn oroesi yn y pridd. Cafodd y tameidiau oedd wedi goroesi, yn cynnwys dau damaid o sêm wedi’i phwytho, eu cadw a byddant yn rhoi gwybodaeth inni am y math o ledr a ddefnyddiwyd a sut y cafodd y bagiau eu gwneud.”

 

 

Cynigiodd Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru) ym Mhort Talbot yn garedig wneud sgan CT o’r celc mwyaf yn y llestr ceramig, i weld a ellid cael mwy o wybodaeth cyn dechrau tynnu’r darnau arian allan.

 

Meddai peiriannydd ymgynghorol yn TWI, Ian Nicholson:

 

“Darparu ein gwasanaethau ar gyfer diwydiant yw’n prif ffocws ni, ond rydyn ni hefyd yn hoffi cefnogi prosiectau sydd ddim yn ymwneud â diwydiant ac sy’n cynnig budd ehangach. Radiograffeg oedd yr unig dechneg archwilio â’r potensial i ddatgelu a mesur cyfaint mewnol y celc darnau arian heb ei niweidio. Mae ein cyfarpar archwilio Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT) diweddaraf yn defnyddio ynni pelydr-X cryf i dreiddio metelau trwchus, sydd fel arfer bedair gwaith yn gryfach na’r egni pelydr-X y mae deintyddion ac ysbytai’n ei ddefnyddio. Pan ddaeth Amgueddfa Cymru atom cawsom her ddiddorol a gwerthfawr - a newid braf o arolygu rhannau awyrennau. Gan ddefnyddio ein hoffer, fe lwyddon ni i weld bod yna ddarnau arian mewn gwahanol leoliadau yn y bag. Roedden nhw wedi’u pacio mor dynn yng nghanol y pot fel nad oedd ein hegni ymbelydrol cryf ni, hyd yn oed, yn gallu treiddio trwy’r pot cyfan. Serch hynny, fe lwyddon ni i ddatgelu rhywfaint o batrwm y darnau arian a chadarnhau nad dim ond yng ngenau’r pot roedd darnau arian wedi’u storio.”

 

 

Wnaeth y sgan o’r celc mawr ddim canfod unrhyw dystiolaeth o fagiau pellach yn y pot o dan y ddau oedd yn weladwy ar y brig, a gwelwyd bod hyn yn gywir wrth i’r pot gael ei wagio. Ynghyd â’r sganiau CT, crëwyd cyfres o ffotograffau a modelau 3D yn ystod proses meicro-gloddio’r celc. Caiff y rhain eu defnyddio mewn gwaith ymchwil, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd pellach.

 

 

Wrth dynnu’r darnau arian allan fesul haen datgelwyd fod y darnau hŷn yn gyffredinol yn nes at y gwaelod tra bod darnau arian diweddaraf y celc i’w cael yn yr haenau uchaf. Mae’n debyg i’r celc gael ei gladdu yn OC 270 ar adeg pan oedd yr Ymerodraeth Rufeinig wedi’i rhannu rhwng yr Ymerodraeth Ganolog a’r Ymerodraeth Galaidd, oedd yn cynnwys Prydain. Cyhoeddwyd y darnau arian olaf yn y celc hwn yn ystod teyrnasiad Quintillus (OC 270) a Victorinus (OC 269-271).

 

Meddai Alastair Willis (Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru):

“Mae’n ymddangos bod y darnau arian yn y celc hwn wedi’u casglu dros gyfnod hir. Yn ôl pob tebyg cafodd y rhan fwyaf eu rhoi yn y pot yn ystod teyrnasiad Postumus (OC 260-269) a Victorinus (OC 269-271), ond bod y ddau fag o ddarnau arian wedi’u casglu’n llawer cynharach yn ystod degawdau cynnar y drydedd ganrif OC.”

 

 

Mae’n debyg bod y celc llai wedi’i gladdu yn y 220au OC. Daethpwyd o hyd i’r ddau gelc yn agos at olion adeilad Rhufeinig gafodd ei gloddio yn 2013 ac a nodwyd fel teml bosibl yn dyddio o’r drydedd ganrif OC. Mae darganfod y celciau hyn yn cefnogi’r awgrym hwn. Mae’n debygol iawn bod y celciau wedi’u cadw yma oherwydd arwyddocâd crefyddol y safle, efallai fel offrymau adduned, neu er mwyn eu cadw’n ddiogel dan warchodaeth duw’r deml. Mae’n bosibl mai eiddo milwyr yng nghaer Rufeinig gyfagos Canovium (ger Caerhun) oedd y darnau arian.

 

 

Mae gan Amgueddfa Llandudno gasgliadau o gaer Canovium ac maen nhw’n awyddus i brynu’r ddau gelc pwysig yma gyda chefnogaeth Canolfan Ddiwylliant Conwy ac Amgueddfa Cymru.

 

Meddai Dawn Lancaster, Cyfarwyddwr Amgueddfa Llandudno:

 

“Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Amgueddfa Llandudno. Bydd y cyfle i brynu’r celciau arian pwysig hyn sy’n gysylltiedig â Chaer Rufeinig Canovium yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol weld a phrofi casgliad sylweddol o ddarnau arian hynafol sy’n dyddio o 32CC ac yn cynrychioli 50 o lywodraethwyr.”

 

“Amgueddfa Llandudno yw cartref pob darganfyddiad blaenorol o waith cloddio Caer Rufeinig Canovium sydd wedi’i lleoli yng Nghaerhun yn nyffryn Conwy, felly mae’n addas bod y celc yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destun ynghyd â gweddill yr arteffactau. Gan weithio gydag Amgueddfa Cymru, gallwn rannu hanes eu darganfyddiad a chyfleu mor bwysig yw’r darganfyddiadau anhygoel hyn i dreftadaeth ddiwylliannol Gymreig ein hardal.”

 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.

 

Mae ein croeso yn rhad ac am ddim, diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

 

www.amgueddfa.cymru  

 

 

Diwedd

 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lleucu Cooke

Rheolwr Cyfathrebu

Lleucu.Cooke@museumwales.ac.uk

 

Dilynwch saith canolfan Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram neu Facebook.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

             

1. TWI yw un o sefydliadau ymchwil a thechnoleg annibynnol mwyaf blaenllaw’r byd, gydag arbenigedd mewn prosesau uno deunyddiau a pheirianneg. Mae TWI yn darparu gwasanaeth ymgynghori peirianyddol i’w Aelodau a’i randdeiliaid, gan gynnig cyngor arbenigol awdurdodol a diduedd a sicrwydd diogelwch ym maes technolegau peirianneg. Mae TWI Ltd Cymru, sef swyddfa ranbarthol TWI ym Mhort Talbot, yn arbenigo mewn datblygu a chymhwyso dulliau profi annistrywiol (NDT) o’r radd flaenaf (gan gynnwys profion uwchsain uwch a radiograffeg ddigidol). Trwy ymchwil a datblygu mewn ymateb i geisiadau am gymorth gan aelod-gwmnïau, mae TWI Ltd Cymru yn darparu atebion ymarferol i heriau arolygu ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

 

2. Mecanwaith yw’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) ar gyfer cofnodi a chyhoeddi darganfyddiadau archaeolegol a wneir gan aelodau o’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ffordd hynod effeithiol o gasglu gwybodaeth archaeolegol hanfodol, tra’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau ehangach na selogion traddodiadol amgueddfeydd.

 

3. Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 ac 80 o achosion trysor eu cofnodi yng Nghymru, yn ddarganfyddiadau gan aelodau o’r cyhoedd, chwilotwyr metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 600 o ddarganfyddiadau trysor wedi’u gwneud yng Nghymru, ac mae’r nifer wedi cynyddu’n raddol dros amser, a 76 o achosion trysor wedi’u cofnodi yn 2022. Mae’r darganfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd bwysig am ein gorffennol, ac yn adnodd diwylliannol o bwysigrwydd cynyddol i Gymru.

 

4. Rhaid rhoi gwybod yn gyfreithiol am eitemau trysor a’u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, sef y prif sefydliad treftadaeth sy’n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Bydd curaduron yr amgueddfa genedlaethol yn casglu gwybodaeth gywir ac yn adrodd ar ddarganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i grwneriaid, sef y swyddogion sy’n gwneud dyfarniadau cyfreithiol annibynnol ynghylch trysor a pherchnogaeth.