Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru yn ennill gwobr Arian Buddsoddwyr mewn Pobl
Dyddiad:
2023-10-27Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod wedi ennill 'Gwobr Arian, Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl' Buddsoddwyr mewn Pobl – llwyddiant mae tua 23% yn unig o'r sefydliadau sy'n cael eu hasesu gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn ei gael. Mae'r sefydliad yn cynrychioli'r teulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, gyda dros 800 o aelodau staff ledled Cymru.
Roedd Amgueddfa Cymru wedi ennill yr achrediad 'Safon' yn flaenorol yn 2020. Mae'r achrediad 'Arian' yn dangos fod Amgueddfa Cymru yn ymgorffori ei gwerthoedd ei hun ar bob lefel drwyddi draw a bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar staff. Er mwyn ennill yr achrediad 'Arian', roedd yn rhaid i Amgueddfa Cymru ddangos ei bod wedi bodloni meini prawf cadarn yn erbyn 9 dangosydd:
- Arwain ac ysbrydoli pobl
- Arddel gwerthoedd ac ymddygiad y sefydliad
- Grymuso a chynnwys pobl
- Rheoli perfformiad
- Cydnabod a gwobrwyo perfformiad uchel
- Strwythuro gwaith
- Meithrin gallu
- Sicrhau gwelliant parhaus
- Creu llwyddiant cynaliadwy
Nodwyd yn yr adroddiad fod llawer i fod yn falch ohono, gan gynnwys fod “pobl wir yn mwynhau eu gwaith yn Amgueddfa Cymru ac yn ystyried y sefydliad yn lle da i weithio.” Bydd Amgueddfa Cymru yn cael ei hasesu eto yn 2026.
Dywedodd Phil Bushby, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Amgueddfa Cymru:
"Rydyn ni wrth ein boddau i gael ein hachredu unwaith eto gan Buddsoddwyr mewn Pobl, ac mae llwyddo i symud un cam i fyny i achrediad 'Arian' yn goron ar y cyfan. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi proses achredu Buddsoddwyr mewn Pobl yn Amgueddfa Cymru gan ei bod yn ein caniatáu i weld lle mae'r bylchau yn ein strategaeth gorfforaethol, i wella ein perfformiad, ond hefyd mae'n gyfle i ni hyrwyddo anghenion ein staff anhygoel. Fyddai'r llwyddiant hwn heb fod yn bosibl oni bai am eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i'w gwaith – felly diolch yn fawr a llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.”