Datganiadau i'r Wasg
Datganiad Amgueddfa Cymru: Argyfwng yn Israel a Phalestina
Dyddiad:
2023-11-23Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cael ei gynrychioli, ac yn parchu gwahanol safbwyntiau ein hymwelwyr, staff a’r cymunedau a gynrychiolwn.
Mae Amgueddfa Cymru yn gwrthwynebu pob gweithred o drais, ac wedi ein tristáu yn fawr gan y marwolaethau trasig yn Israel ac yn Gaza. Gobeithiwn y bydd yr holl grwpiau yn ymroi i ddatrysiad heddychlon cyn gynted â phosibl.
Mae protestiadau heb eu cynllunio wedi eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn ymateb i’r argyfwng. Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi hawl pobl i brotestio’n heddychlon, ond yn gofyn i bob protest gael eu cynnal gyda pharch, heb beryglu diogelwch ein hymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a’r casgliad cenedlaethol.