Datganiadau i'r Wasg
Canfod Trysor yng Nghasnewydd a Sir Fynwy
Dyddiad:
2023-12-21Mae modrwy fylchgron o ddiwedd yr Oes Efydd a broetsh arian Canoloesol wedi cael eu datgan yn drysor ar ddydd Iau 21 Rhagfyr 2023 gan Uwch Grwner Gwent, Caroline Sanders.
Cafodd y canfyddiadau eu cyfeirio gyntaf at Mark Lodwick drwy gyfrwng Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Fel trysorau, dyma nhw'n cael eu trosglwyddo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd er mwyn i guraduron arbenigol Amgueddfa Cymru eu hadnabod ac adrodd arnynt.
Cafodd modrwy fylchgron o'r Oes Efydd (Achos Trysor 21.44) ei chanfod gyda datgelydd metel gan Mark Hackman dan dir âr yng Nghymuned Llanfihangel-y-Fedw, Casnewydd ar 16 Hydref 2021. Cafodd ei adnabod, a'i adrodd gan Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes, Amgueddfa Cymru a myfyriwr ymchwil, Chris Griffiths. Cadarnhaodd dadansoddi metelegol ei bod wedi'i haddurno â ffoil aur a stribed electrwm troellog wedi'i fewnosod. Mae'r fodrwy 2.3cm o ddiamedr bron yn gyflawn, gyda rhwyg wrth un o'r terfyniadau coll yn dangos y craidd o aloi copr. Erbyn hyn mae ar siâp C, gydag arwynebau wedi'u gwasgu – efallai bod hyn oherwydd gwaith 'datgomisiynu defodol' bwriadol cyn claddu'r fodrwy.
Yr enw cyffredin ar fodrwyon fel hyn yw 'modrwyon gwallt' oherwydd yr awgrym posib eu bod yn addurniadau gwallt (mae'n bosib hefyd eu bod yn addurniadau clust neu drwyn). Byddan nhw'n cael eu canfod weithiau gyda gweddillion dynol, ac yn dyddio bron yn gyfan gwbl o ddiwedd yr Oes Efydd (1150-800CC) ym Mhrydain, Iwerddon a rhannau o Wlad Belg a Ffrainc. Mae'r canfyddiad hwn felly yn gyfraniad archaeolegol gwerthfawr i'n dealltwriaeth o grefft, arddull, a chysylltiadau diwylliannol y cymunedau amaethyddol hyn, ar lefel lleol a chyfandirol.
Dywedodd Chris Griffiths, myfyriwr doethurol sy'n gweithio ym Mhrifysgol Reading ac Amgueddfa Cymru:
"Er ei bod hi'n pwyso llai na phum gram, allwn ni ddim gorbwysleisio crefft a gofal y gwaith o greu'r fodrwy fylchgron fechan hon. Cafodd stribed electrwm ei lapio'n ofalus o'i chwmpas a'i lynu â ffoil aur, gan greu haen o fetel gwerthfawr trwch dalen o bapur. Byddai'r streipiau hyn wedi adlewyrchu golau'r haul neu fflamau'r tân gan hudo'r gwyliwr, ac o bosib yn dangos statws y gwisgwr yn y rhan hon o Gasnewydd rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl."
Dywedodd canfyddwr y fodrwy fylchgron, Mark Hackman:
"Fel datgelyddwr metel amatur, roedd hi'n fraint gallu darganfod y trysor hyfryd hwn. Rydw i'n gobeithio y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau a dysgu mwy am fywydau'r bobl oedd yn byw fan hyn filoedd o flynyddoedd yn ôl."
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd broetsh cylchog arian Canoloesol (Achos Trysor 22.19) ei ganfod gan Joanne Prosser ar 6 Mawrth2022 mewn rali ddatgelu metel yng Nghymuned Caerwent, Sir Fynwy. Mae gan y ffrâm drawstoriad cylchog, gyda hanner un wyneb wedi'i addurno â rhigolau nielo du wedi'i fewnosod. Mae'r pen yn amlapio ac yn gorgyffwrdd ar y brig, ac yn troi'n rhydd ar y ffrâm. Lle fydd pen y pin a'r coesyn yn cyffwrdd, mae'r coler uchel wedi'i addurno â thri rhigol tyllog croes .
Roedd arddull y broetsh yn nodweddiadol o'r 13eg a'r 14eg ganrif yng Nghymru. Mae'r defnydd o nielo yn enwedig yn hysbys o esiamplau o Sir Gaerfyrddin, Powys a Sir Fynwy, sy'n dangos ffasiwn gyffredin ehangach dillad ac addurniadau personol yng Nghymru ar y pryd.
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:
"Diolch i Ddeddf Trysor 1996 rydyn ni'n derbyn adroddiadau am emwaith Canoloesol fel y broetsh cylchog arian o Gymuned Caerwent, sy'n ein galluogi i adeiladu darlun gwell o sut y byddai hunaniaeth bersonol yn cael ei ddangos yng Nghymru’r Oesoedd Canol, drwy wisgo gemwaith ac addurniadau personol arall.’
Dywedodd canfyddwr y broetsh, Joanne Prosser:
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn o ganfod y broetsh hwn yn fy misoedd cyntaf fel datgelyddwr. Mae'n hyfryd meddwl yn ôl am y bobl wnaeth ei greu a'i wisgo, a dod yn rhan o'r stori drwy ei ganfod ganrifoedd wedyn."
Mae Amgueddfa Cas-Gwent wedi dangos diddordeb mewn caffael y trysor, wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 700 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 77 o achosion trysor wedi eu cofnodi mor belled yn 2023. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook. Twitter, Instagram
NODIADAU I OLYGYDDION
- © Amgueddfa Cymru – Museum Wales yw hawlfraint pob delwedd.
- Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn rhaglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.
- Bob blwyddyn, caiff rhwng 50 a 80 o achosion trysor eu hadrodd yng Nghymru, fel canfyddiadau wedi eu gwneud gan aelodau o'r cyhoedd, pobl gyda'u datgelyddion metel fel arfer. Ers 1997, mae dros 700 o ganfyddiadau trysor wedi cael eu gwneud yng Nghymru, gyda swm y canfyddiadau trysor yn cynyddu'n raddol dros amser, gyda 76 o achosion trysor wedi eu cofnodi yn 2022. Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd pwysig am ein gorffennol, adnodd diwylliannol sy'n gynyddol bwysig i Gymru.
- Mae'n rhaid i eitemau trysor gael eu hadrodd yn gyfreithiol a'u trosglwyddo i staff PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru, fel y prif sefydliad treftadaeth sy'n rheoli gwaith trysor yng Nghymru. Mae curaduron Amgueddfa Cymru yn casglu gwybodaeth fanwl gywir ac yn adrodd ar ganfyddiadau trysor, gan wneud argymhellion i'r crwneriaid, y swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau cyfreithiol annibynnol ar drysor a pherchnogaeth.