Datganiadau i'r Wasg
Gwisg o Arian: Canfod trysor yn ne-orllewin Cymru
Dyddiad:
2024-03-13Cafodd pedwar canfyddiad, gan gynnwys crogdlws a gwniadur arian Ôl-ganoloesol, eu datgan yn drysor ar dydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Brig Grwner E.F. Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Paul Bennett.
Cafodd crogdlws arian Ôl-ganoloesol (Achos Trysor 20.12) ei ganfod gan Mr Nicholas Davies wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llansteffan, Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2020. Cafodd y Trysor ei drosglwyddo yn ddiogel i Amgueddfa Cymru er mwyn ei adnabod, ac adroddwyd ar y canfyddiad gan Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar.
Ar flaen y medaliwn mae pen Siarl I mewn proffil, yn wynebu i’r dde gyda’r arysgrif Lladin‘CAROLVS. D. G. MAG. B[RI. FR.]ET. HIB. RX’ o gwmpas yr ymyl. Ar y cefn mae pen y Frenhines Henrietta Maria mewn proffil, yn wynebu i’r chwith. O gwmpas yr ymyl mae’r arysgrif ‘HENRIETTA MARIA. D.G. M.A.G. BRITAIN. FRAN. ET. HIB. REG’. Dan y benddelw mae’r enw ‘T. Rawlins’ wedi ei stampio. Mae’r ddau bortread mewn ffrâm blaen, gyda dolen hongian ar y brig a chnepyn syml naill ochr.
Mae crogdlysau coffa Brenhingar fel hwn yn dyddio o’r 17eg ganrif. Mwy na thebyg y bydden nhw’n cael eu rhoi i ffrindiau a chefnogwyr Siarl I yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae esiamplau unfath bron i’w gweld yng nghasgliadau’r British Museum ac Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol, hefyd gyda nod Thomas Rawlins. Engrafwr a gof medalau yn llys Siarl I oedd Thomas Rawlins, a cafodd ei ailbenodi gan Siarl II yn dilyn yr Adferiad.
Dywedodd y canfyddwr, Nick Davies:
“Dyma fi’n ymweld â’r cae ar fore Gorffennaf eithaf sych a chynnes, sy’n aml yn golygu bydd llai i’w ganfod. Ond y tro hwn fe ges i ddarlleniad cryf o’r datgelydd metel. Wrth i fi gloddio twll ble oedd y signal, dyma fi’n graddol ddadorchuddio’r eitem hirgrwn arian gyda phenddelw hynod menyw urddasol.
Wrth sylweddoli pwysigrwydd y foment, dyma fi’n eistedd a dal y canfyddiad gwirioneddol ryfeddol a cheisio dychmygu pa stori fyddai’n ei hadrodd. Pwy fyddai wedi’i gollwng hi? Beth oedd eu perthynas â hi? Sut ddaeth yr eitem i’w meddiant?”
Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar, Amgueddfa Cymru:
“Yng Nghymru yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr roedd yn gyfnod o wrthdaro rhwng teyrngarwch i’r Brenin ac i’r Senedd. Byddai’r medaliwn hwn gyda phen y Brenin Siarl I a’r Frenhines Henrietta wedi cael ei wisgo gan Frenhinwr, fel arwydd o’u teyrngarwch i’r Brenin, ac mae’n dystiolaeth o gefnogaeth i’r Brenin yng Nghymru.”.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – y Cynghorydd Hazel Evans:
“Mae canfod y gwrthrych hwn yn esiampl wych arall o sut gall cymunedau elwa o gydweithio rhwng datgelyddwyr metel, PAS Cymru ac Amgueddfa Cymru. Mae’r crogdlws arian prydferth hwn yn taflu goleuni ar hanes diddorol Sir Gâr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae gweld enw’r engrafwr yn galluogi CofGâr i ddod â straeon yn fyw – nid yn unig hanes brenhinol y Stiwardiaid, ond y bobl gyffredin gyda sgiliau rhagorol fydd yn rhyfeddu cynulleidfaoedd heddiw.”
Mae Amgueddfa Sir Gâr wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Cafodd gwniadur Ôl-ganoloesol (Achos Trysor 22.12) ei ganfod gan Mr Robert Edwards wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Carew, Sir Benfro ym mis Tachwedd 2020. Cafodd y canfyddiad ei drosglwyddo gyntaf i ofal Mark Lodwick, Cydlynydd Canfyddiadau y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), cyn cael ei adael gyda churaduron arbenigol Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i’w hadnabod a’u hadrodd.
Mae’r gwniadur yn dal, tenau a thrwm, ac wedi’i wneud o ddau ddarn, gyda’r pen crwm wedi’i sodro ar y corff. O gwmpas y corff mae chwe band lletraws mewn patrwm igam-ogam, dros batrwm brics neu basgedwaith wedi’i ysgythru. Wedi’i engrafu ar y band ar y gwaelod mae‘ *LYKE STIL AND LOVE EVER ’ mewn priflythrennau serif Rhufeinig.
Mae engrafiadau ‘pwysi’ i’w gweld ‘ar amryw o wniaduron o’r 17eg ganrif ar draws Cymru a Lloegr. Mae esiamplau o Gaerdydd, Caint a Hampshire wedi cael eu cofnodi drwy Ddeddf Trysor 1996. Mae cymalau rhamantus tebyg i’w gweld ar fodrwyau pwysi o’r cyfnod. Efallai bod gwniaduron, fyddai’n cael eu gwisgo ar y bysedd wrth wnïo, yn cael eu cyfri yn eiddo mynweson ac felly’n anrheg rhamantus addas i gariadon.
Dywedodd y canfyddwr, Rob Edwards:
“Roeddwn i wrthi’n chwilio dan gysgod derwen heb fawr o lwc, tan i fi newid y gosodiadau a dechrau cael signal clir fel cloch. I ddechrau roeddwn i’n meddwl taw pishyn chwech oedd yno, ac fe ges i syndod i weld fflach o arian, a taw dim ceiniog oedd hi! Dim ond yn ddiweddarach, pan welais i batrwm tebyg ar gwniadur arall wnes i sylweddoli mod i wedi canfod rhywbeth arbennig. Â bod yn onest roedd fy nghefnder (fy mhartner datgelu metel) braidd yn genfigennus!
Dwi’n hoffi meddwl pwy fyddai wedi’i ddefnyddio. Wnaeth e gael ei ddefnyddio yn y castell dafliad carreg i ffwrdd? Wnaeth rhywun gael stŵr pan aeth e ar goll? Dwi’n hapus iawn ’mod i wedi gallu rhannu hwn gyda phawb ohonoch chi.”
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio'n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Datganwyd hefyd bod y canlynol yn Drysor:
- Celc Oes Efydd o bedwar darn aloi copr, pob un mwy na thebyg o bennau bwyeill (Achos Trysor 22.01). Cafodd y rhain eu canfod gan Mr Tony Narbett a Mr Jake Webster ym mis Ionawr 2022 wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llawhaden, Sir Benfro. Mae Amgueddfa Tref Hwlffordd wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
- Matrics sêl arian Canoloesol (Achos Trysor 22.04) a ganfuwyd gan Mr Jake Webster wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llawhaden, Sir Benfro. Mae Amgueddfa Dinbych-y-pysgod wedi dangos diddordeb mewn caffael y Trysor ar gyfer eu casgliad wedi iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd