Datganiadau i'r Wasg

Gwesty’r Vulcan yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Mai 2024

Bydd Gwesty’r Vulcan Hotel yn agor i ymwelwyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 11 Mai 2024.

Hir yw pob ymaros, a bydd y dafarn yn croesawu ei chwsmeriaid cyntaf mewn degawd a mwy pan fydd hi’n agor yn yr Amgueddfa fis nesaf.
Agorodd Gwesty’r Vulcan yn 1853 ar Adam Street, Newtown, canolbwynt cymuned Wyddelig Caerdydd. Yn ystod ei hanes hir fe welodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu’n  ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl. Caeodd drysau’r dafarn am y tro olaf yn 2012.  

Ar ôl ymgyrch daer i arbed y dafarn, cafodd yr adeilad ei gynnig yn ffurfiol i Amgueddfa Cymru gan y perchnogion yn 2012. Dyma tîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru wedyn yn dymchwel yr adeilad eiconig fesul bricsen a’i symud i Sain Ffagan.  

Bydd y Vulcan yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr pan ychwanegwyd y teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad, ac ailddylunio’r ystafelloedd.

Pan fydd hi’n agor i’r cyhoedd bydd y Vulcan yn gwerthu cwrw wedi’i fragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co. Gall ymwelwyr archebu bwrdd ymlaen llaw ar gyfer yr agoriad, yn ogystal â detholiad o dri sgwner o gwrw, gan gynnwys Cwrw Vulcan a Cwrw Golau sydd wedi’u bragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co. ar y cyd ag Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Amgueddfa Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:

“Rydyn ni’n edrych mlaen i agor Gwesty’r Vulcan ym mis Mai 2024. Rydyn ni’n gwybod cymaint mae pobl wedi bod yn edrych ymlaen at weld y dafarn yn agor yn Sain Ffagan, a bydd hi’n ychwanegiad gwych i’r casgliad o adeiladau hanesyddol.

Mae ein tîm o arbenigwyr adeiladau hanesyddol a churaduron wedi bod yn gweithio’n galed i ail-greu’r dafarn yn 1915, a bydd hi’n bleser gweld ymwelwyr yn cael blas ar adeilad arbennig yn hanes Caerdydd.”

Y Vulcan yw’r adeilad diweddaraf o’r deugain a mwy sydd wedi cael eu hailgodi yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r ystâd gan erw yn gartref i adeiladau o bob cwr o Gymru, yn dangos sut fyddai pobl wedi byw, gweithio a mwynhau eu hamser hamdden dros y canrifoedd. Enillodd Sain Ffagan Wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019, a pleidleisiodd aelodau Which? Hi yn amgueddfa’r flwyddyn yn 2023.

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:

“Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn sefydliad gwobrwyog sy’n croesawu 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Gwesty’r Vulcan yn ychwanegiad sylweddol i’r casgliad ac yn rhoi cyfle i ni adrodd hanes Newtown a’r gymuned Wyddelig oedd yn byw yno.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i flasu bywyd yn 1915, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu’r cwsmeriaid cyntaf ym mis Mai. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at godi gwydraid i ddathlu agoriad y dafarn a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau diod o’n cwrw Vulcan ar y safle.”

Hoffai Amgueddfa Cymru ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, Ymddiriedolaeth Elusennol Swire ac Ymddiriedolaeth Radcliffe, yn ogystal ag unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu’n hael i wneud y gwaith o ail-godi’r Vulcan yn bosib.

Gallwch chi fod yn rhan o stori’r Vulcan hefyd drwy gyfrannu at y project.

DIWEDD