Datganiadau i'r Wasg

Ar Frig y Don – Dathlu 200 mlynedd o’r RNLI

Bydd dwy arddangosfa newydd gyffrous yn agor y mis hwn i nodi carreg filltir arbennig yn hanes yr RNLI. Bydd Ar Frig y Don yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 22 Mehefin a Calon a Chymuned yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi ar 29 Mehefin. 

I ddathlu daucanmlwyddiant Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, mae’r arddangosfeydd yn canolbwyntio ar waith gwirfoddolwyr yr elusen yn achub bywydau ar hyd arfordir Cymru. 

O drychinebau llongau i bobl yn cael eu twyllo gan y llanw, mae’r mathau o achubiadau wedi newid llawer ers 1824, a gyda hynny mae’r offer sydd ei angen i’w cyflawni wedi newid hefyd. 

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys cwch RIB wedi’i adeiladu o fowld prototeip y cwch RIB gwreiddiol a ddatblygwyd yng Ngholeg yr Iwerydd, ynghyd â bad achub dosbarth D, tra bydd bad achub dosbarth Arancia i’w weld yn Oriel y Parc. Bydd ymwelwyr yn gallu mynd ar fwrdd y cychod, gwisgo rhywfaint o offer yr RNLI a chael blas ar sut beth yw bod ar fad achub yn y ddwy arddangosfa.

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at agor yr arddangosfa newydd hon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae cydweithio â’n partneriaid yn yr RNLI ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ein galluogi i rannu eitemau a straeon o gymunedau ledled Cymru ac i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn cynnig y cyfle i’n hymwelwyr drin a thrafod eitemau o’r casgliad cenedlaethol a dysgu mwy am gyfraniad anhygoel y gwirfoddolwyr a’r arloeswyr sydd tu ôl i waith ysbrydoledig yr RNLI.”

Mae achubwyr bywydau a chriwiau bad achub gwirfoddol yr RNLI wedi achub 13,195 o fywydau mewn 200 mlynedd yng Nghymru, sy’n golygu eu bod wedi achub mwy nag un bywyd yr wythnos yn eu hanes balch.

Dywedodd Josh Stewart, Llywiwr yng Ngorsaf RNLI y Mwmbwls

“Rydyn ni wedi bod yn brysur yn dathlu daucanmlwyddiant yr RNLI, ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi rhoi cyfle gwych i’r criw rannu eu profiadau a chofnodi rhai o’u straeon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymweld â’r arddangosfa, ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yng Nghymru.”

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o barhau ei phartneriaeth ag Oriel y Parc, a fydd yn cynnal arddangosfa Calon a Chymuned. Wedi’i hysbrydoli gan straeon lleol o bobl leol yn gwneud pethau arbennig, mae’n dathlu dewrder y chwe gorsaf bad achub ar hyd arfordir Penfro ac yn agor ar 29 Mehefin.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn cynnal arddangosfa Calon a Chymuned yn Oriel y Parc a hithau’n flwyddyn hanesyddol ar gyfer yr RNLI.

“Mae’r cydweithrediad unigryw hwn rhwng yr Awdurdod, Amgueddfa Cymru a’r RNLI yn amlygu’r traddodiad cryf o achub bywydau yn Sir Benfro ac yn dathlu’r gwirfoddolwyr a’r cymunedau ar hyd ein harfordir enwog, sy’n dod at ei gilydd i achub bywydau ar y môr. 

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn Oriel y Parc, ynghyd ag arddangosfa Ar Frig y Don yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn rhoi cipolwg ar ymdrechion a gwaith amhrisiadwy gwirfoddolwyr yr RNLI ledled y wlad i gadw pawb yn ddiogel ar y môr, yn ogystal ag amlygu diogelwch yn y dŵr yn ehangach.”

Dywedodd Denys Bassett-Jones, aelod o’r criw gwirfoddol yng Ngorsaf RNLI Little Haven ac Aberllydan

“Roedd yn bleser gweithio gyda’r tîm yn Oriel y Parc yn trefnu arteffactau, straeon a lluniau ar gyfer yr arddangosfa RNLI 200. Dylai hon fod yn arddangosfa ddiddorol i ddathlu daucanmlwyddiant yr RNLI, ac mae criw bad achub Little Haven ac Aberllydan yn falch o fod yn rhan ohoni.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa ryngweithiol yn ennyn diddordeb pobl yn y gwaith mae’r RNLI yn ei wneud ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr a gwirfoddolwyr.”

Mae gwaith Amgueddfa Cymru ar arddangosfa Ar Frig y Don wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery. 

Mae mynediad am ddim i’r ddwy arddangosfa a byddan nhw’n rhedeg nes 16 Mawrth 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a 1 Mehefin 2025 yn Oriel y Parc. 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Dafydd Llyr Newton-Evans

Swyddog Marchnata a Chynnwys, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

029 2057 3637

dafydd.newton-evans@amgueddfacymru.ac.uk 

Dilynwch y ddolen i weld detholiad o luniau o’r arddangosfa:  https://we.tl/t-fhQtCv6MNX 



Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. 

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

Dilynwch y saith aelod o deulu Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru 

Mae elusen yr RNLI yn achub bywydau ar y môr. Mae ei gwirfoddolwyr yn cynnal gwasanaeth chwilio ac achub 24 awr o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan yr RNLI dros 238 o orsafoedd bad achub yn y DU ac Iwerddon, ac mewn blwyddyn arferol, dros 240 o unedau achubwyr bywydau ar draethau ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel. Mae’r RNLI yn annibynnol ar Wylwyr y Glannau a’r Llywodraeth ac yn dibynnu ar gyfraniadau a chymynroddion gwirfoddol i gynnal ei gwasanaeth achub.

Mae Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, wedi’i lleoli yn Nhyddewi ac yn berchen i, ac yn cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Mae ganddi oriel o safon fyd-eang sy’n arddangos celf, arteffactau a sbesimenau o gasgliadau eang Amgueddfa Cymru, ac mae mynediad am ddim.

Mae gan Oriel y Parc hefyd Ganolfan Ymwelwyr, Ystafell Ddarganfod sy’n cynnal gweithgareddau celf a natur i’r teulu, Ystafell Dewi Sant a Thŵr sy’n cynnal arddangosfeydd celf lleol a dosbarthiadau cymunedol, a chaffi.

www.orielyparc.co.uk