Datganiadau i'r Wasg

Datgan naw canfyddiad o Ogledd Ddwyrain Cymru yn Drysor

Cafodd naw canfyddiad, o’r Oes Efydd Ddiweddar hyd at yr ail ganrif ar bymtheg, eu datgan yn drysor ddydd Mawrth 30 Ebrill 2024 gan Grwner Cynorthwyol Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Ms Kate Robertson. 

Cafodd celc o ddeugain ac un o geiniogau arian (Achos Trysor 21.42) o gyfnod William III (1694-1702) eu darganfod gan David Moss, David Chennell a Michael Bradley ar 16 ac 17 Hydref 2021, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llanfair Talhaearn, Conwy. Mae’r celc gwasgaredig yn cynnwys wyth swllt arian a dau grŵp cysylltiedig o un ar hugain a deuddeg darn chwe cheiniog. Roedd y ddau grŵp o geiniogau cysylltiedig wedi’u gwresogi a’u hasio’n rhannol gyda’i gilydd, fwy na thebyg yn ystod gweithgaredd llosgi bonion gwellt ar y tir.

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy wedi mynegi diddordeb caffael y celc hwn ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Dywedodd Michael Bradley, a wnaeth ddarganfod y pentwr cyntaf o geiniogau a asiwyd at ei gilydd:
 
“Roeddwn i'n crynu gyda chyffro pan sylweddolais i beth roeddwn i wedi'i ddarganfod. Yna fe wnes i gloddio pentwr arall o 12 o geiniogau, a oedd yn ffitio'n berffaith ar y pentwr cyntaf. Roeddwn i wrth fy modd. Roedd ceiniogau Dave [Moss] yn anhygoel. Roedd yn parhau i’w cloddio nhw signal ar ôl signal. Yna daeth David [Chennell] draw gyda’i bentwr e, ac roedden ni i gyd yn dathlu.”

Cafodd celc o’r Oes Efydd Ddiweddar hyd at yr Oes Haearn cynharaf (Achos Trysor 23.43) ei ddarganfod gan Ronan Dyke ar 1 ac 17 Awst 2023, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned  Llandegla, Sir Dinbych. Yn rhan o’r celc, mae dau gŷn seidiog efydd a phin cylchog efydd. Bu gan y cŷn unwaith ddolenni pren, asgwrn neu gyrn carw ac roeddent yn declynnau gwaith coed. Bu’r pin tenau gyda phen crwn unwaith yn diogelu eitem o ddillad, fel clogyn neu diwnig. Cafodd y celc ei gladdu, fwy na thebyg fel offrwm bach, tua 900-600 CC. 

Mae gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych ddiddordeb caffael y celc ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Dywedodd Adam Gwilt, Uwch Guradur Cynhanes yn Amgueddfa Cymru: 

“Mae’r darganfyddiad hwn yn gelc bach diddorol iawn sy’n cynnwys offer arbenigol ac addurn gwisg personol, sydd dros 2,600 o flynyddoedd oed. Cafodd ei gladdu fwy na thebyg fel rhan o offrwm crefyddol neu rodd i’r duwiau neu dduwiesau. Y lle priodol a ddewiswyd oedd ar fryncyn creigiog bach ar lan Afon Alun. Mae nifer o gelciau eraill a darganfyddiadau arwyddocaol o’r Oes Efydd wedi’u canfod ar hyd cwrs yr afon hon.”

Cafodd grŵp o un ar ddeg o geiniogau arian o gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid (Achos Trysor 21.50) eu darganfod gan Robert Barratt ar 21ain Tachwedd 2021 a 5 Ebrill 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Llangynhafal, Sir Ddinbych. Mae’r ceiniogau yn amrywio o 1553-1636, gan gynnwys pum ceiniog arian Mary (1553-1554), ceiniog arian Philip a Mary (1554-1558), tair ceiniog arian Elizabeth I (1558-1603) a cheiniog arian Charles I (1625-1649). Fwy na thebyg, roedd y grŵp hwn o geiniogau mewn pwrs a gollwyd tua 1636.

Mae gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych ddiddordeb caffael y grŵp hwn o geiniogau ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd modrwy arysgrif aur ac enamel o’r unfed ganrif ar bymtheg i’r ail ganrif ar bymtheg (Achos Trysor 22.08) ei darganfod gan Eric Becker ar 20fed Ionawr 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae gan y fodrwy batrwm ailadroddus o flodau a dail, wedi'i mewnosod ag enamel du. Mae arwyddair ar wyneb mewnol y cylch If worthy none So happy mewn sgript italig, sef mynegiant personol o gariad.

Mae gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych ddiddordeb caffael y fodrwy hon ar gyfer eu casgliad ar ôl iddi gael ei phrisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd tlws modrwyol arian canoloesol (Achos Trysor 22.09) ei ddarganfod gan Graham Allinson ar 29ain Ionawr 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Mae gan y tlws ffrâm arian gul gyda rhigolau wedi'u mewnosod gyda niello du ac mae gan y pin groestoriad ffurf losen. Efallai bod y math arbennig hwn o dlws yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg i’r bedwaredd ganrif ar ddeg OC. 

Mae gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych ddiddordeb caffael y tlws hwn ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd modrwy aur ac enamel canoloesol (Achos Trysor 22.14) ei darganfod gan Malcolm Shepherd ar 13eg Chwefror 2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Llanynys, Sir Ddinbych. Mae’r fodrwy wedi’i haddurno gyda pentaffoil enamlog gwyn a sbrigau enamel gwyrdd wedi’i fewnosod. Mae arysgrif rhannol ddarllenadwy mewn Ffrangeg ac mewn sgript Llythyren Ddu hefyd i'w weld ar wyneb allanol y band sy'n cynrychioli mynegiant o gariad a dyweddïad. Mae’r arddull, y testun a’r arwyddair yn dyddio’r fodrwy hon i’r bymthegfed ganrif.

Mae gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych ddiddordeb caffael y fodrwy aur hon ar gyfer eu casgliad ar ôl iddi gael ei phrisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd gwniadur arian o’r ail ganrif ar bymtheg (Achos Trysor 21.52) ei ddarganfod gan Wayne Jones ar 16eg Chwefror 2020, wrth ddefnyddio datgelydd metel mewn cae yng Nghymuned Helygain, Sir y Fflint. Mae gan y gwniadur arwyddair Harber the harmless ac yna blaenlythrennau'r perchennog EI wedi'i arysgrifio ar fand plaen o amgylch y cylchedd gwaelod. Mae gan y gwniadur ddau banel hirgrwn croes, un wedi'i arysgrifio â phortread o ddyn â gwallt sy’n llifo, mwstas a barf, nodwedd anarferol. Bwriadwyd y llall, gyda phenglog ac awrwydr uwch ei ben, fel atgof o ba mor anochel yw marwolaeth.

Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegi diddordeb caffael y gwniadur hwn ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd plac arian goreurog canoloesol (Achos Trysor 22.50) ei ddarganfod gan Lee Sanson ar 1 Hydref  2022, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Kinnerton Uchaf, Sir y Fflint. Mae’r plac, sydd mewn pum rhan, yn portreadu ffigwr gwrywaidd mewn arddull naturiolaidd, gyda theyrnwialen yn ei law dde, yn gorffwys ar ei ysgwydd. Mae'r addurn wedi’i greu yn yr arddull repoussé ac mae’r dyn, fwy na thebyg, yn cynrychioli ffigwr crefyddol neu frenhinol. Efallai y byddai’r plac addurnol hwn wedi ffitio ar greirgell neu wedi’i wnïo ar gefnlen o ddefnydd. Mae elfennau tebyg o ran arddull yn awgrymu bod y plac hwn yn un canoloesol, yn dyddio o ganol y ddeuddegfed ganrif i ganol y drydedd ganrif ar ddeg OC.

Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegi diddordeb caffael y plac addurnol hwn ar gyfer eu casgliad ar ôl iddo gael ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Cafodd modrwy arian goreurog canoloesol siâp gwarthol (Achos Trysor 23.47) ei darganfod gan Ronan Dyke ar 30 Awst 2023, wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Llandegla, Sir y Fflint. Mae gan y fodrwy ysgwyddau addurnedig a gwefl gilannog ar gyfer gem, sydd bellach ar goll.

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, wedi’u lleoli ledled Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol.

Mae ein croeso am ddim diolch i gyllid Llywodraeth Cymru ac mae’n ymestyn i bobl o bob cymuned.

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – drwy ymweld â ni, drwy wirfoddoli neu drwy gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru