Datganiadau i'r Wasg
Datganiad Amgueddfa Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ar Gau Dros Dro
Dyddiad:
2025-02-02Oherwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar unwaith, mae Amgueddfa Cymru wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros dro i’r cyhoedd am gyfnod byr.
Mae diogelwch a lles ein hymwelwyr, staff, a chadwraeth ein casgliadau bob amser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni a dyna pam yr ydym wedi cymryd y mesur tymor byr hwn i gau’r amgueddfa.
Er bod y cau’r amgueddfa yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn bodloni’r holl safonau diogelwch, rydym yn cydnabod yr effaith y gallai hyn ei gael ar ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned. Mae ein tîm yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ac i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol i warantu diogelwch pawb sy'n rhyngweithio â'r amgueddfa.
Byddwn yn parhau i asesu’r sefyllfa a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ond rydym yn obeithiol y bydd y materion hyn yn cael sylw dros y dyddiau nesaf.
Gwerthfawrogwn yn fawr ddealltwriaeth a chefnogaeth ein hymwelwyr ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl yn fuan.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n gwefan neu dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Diolch i chi am eich cydweithrediad ac amynedd.
Amgueddfa Cymru
DIWEDDARIAD - 3ydd Chwefror 2025
Ar ddydd Sul 2 Chwefror, bu'n rhaid i Amgueddfa Cymru gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i'r cyhoedd am gyfnod byr er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar unwaith.
Roedd hyn oherwydd problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran, a hynny mewn ardal benodol o fewn yr adeilad. Mae ein timoedd yn gweithio'n ddyfal i ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithiol yn ogystal â sicrhau'r effaith lleiaf posibl ar ein hymwelwyr.
Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag arbenigwyr er mwyn asesu'r sefyllfa a thrwsio'r mecanwaith. Diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, a diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth, a dyma'r rheswm dros gymryd y camau priodol a chau'r amgueddfa dros dro.
Byddwn ni'n parhau i asesu'r sefyllfa gan gyhoeddi'r diweddaraf am y cynnydd, ond rydym yn gobeithio y caiff y materion hyn eu datrys dros y dyddiau nesaf.
Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chefnogaeth ein hymwelwyr ac yn edrych ymlaen at eich croesawu'n ôl yn fuan.
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Ar gyfer ymwelwyr sydd wedi archebu tocynnau i ymweld a’n harddangosfa Streic!, byddwn yn hapus i gyfnewid eich tocynnau ar gyfer dyddiad yn y dyfodol unwaith y bydd yr amgueddfa yn ailagor neu ddarparu ad-daliad llawn. Am ragor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk
Diolch am eich cydweithrediad a'ch amynedd.
Amgueddfa Cymru