Datganiadau i'r Wasg

⁠Amgueddfa Cymru yn gweithio ar ddod yn fwy dementia-gyfeillgar⁠

Gall Amgueddfeydd chwarae rhan bwysig yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol. ⁠Rydyn ni wedi cydweithio â'r gymuned i ddatblygu dulliau gwahanol o wella lles pawb sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.

Nod Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – project partneriaeth tair blynedd gan nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – yw datblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia ac i wella'u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau'r amgueddfa.⁠ ⁠ 


Ar y cyd â'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth – sy'n llywio gwaith y project – mae tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi datblygu a lansio tri pheth ar draws saith safle Amgueddfa Cymru a'r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol:
• Rhaglen weithgareddau ⁠ sy'n cael ei rhoi ar waith yn ein hamgueddfeydd. ⁠O ddefnyddio casgliadau fel ysbrydoliaeth, gweithgareddau crefft, sesiynau creadigol fel drymio neu ymweld â chychod gwenyn yr amgueddfa, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang. Bydd y gweithgareddau'n amrywio o un amgueddfa i'r llall, ac yn cael eu hychwanegu i adran 'Digwyddiadau Lles' y wefan pan fyddan nhw'n barod: Digwyddiadau Lles.


• Lansiwyd y Pecyn Hyfforddi Cefnogi Pobl Wedi'u Heffeithio gan Ddementia ddechrau Mai 2024 yn Sain Ffagan, er mwyn magu sgiliau a hyder staff a gwirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru i gefnogi ymwelwyr sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. Datblygwyd y pecyn mewn partneriaeth â'r gymuned a sefydliadau partner, gan ystyried y sector treftadaeth ehangach, ac mae pob adnodd ar gael i unrhyw sefydliad treftadaeth sydd am ddatblygu yn y maes, boed yn gam cyntaf neu'n adeiladu ar eu gwaith presennol. 


• Mae'r Pecyn Cefnogwyr yn sesiwn i bawb sy'n cefnogi person sy'n byw gyda dementia, boed wedi'u cyflogi neu beidio, gyda'r bwriad o annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o leoliadau treftadaeth a diwylliant. Cynhelir pob sesiwn yn un o'n hamgueddfeydd, gan gynnwys teithiau drwy'r adeiladau i drafod y cyfleusterau, y gofodau eu hunain, a beth i'w ystyried wrth ymweld. Yn ogystal ag edrych ar y cyfleusterau yn yr amgueddfa, bydd pob sesiwn hefyd yn edrych ar yr adnoddau treftadaeth all gael eu mwynhau adref yn rhad ac am ddim.

Dywedodd gweithiwr sector gofal wnaeth fynychu sesiwn:


"Fe ges i fy ysbrydoli i ddefnyddio llawer mwy o dreftadaeth er lles yr unigolion rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Roedd hefyd yn dangos bod mynediad i'r cyfleusterau hyn yn llesol i'r gofalwyr hefyd."

 

Dywedodd Richie Maiorano, Arweinydd Cymunedau Lleol a Gworfoddoli Cymdeithas Alzheimer Cymru:


"Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hanner y bobl yng Nghymru sy'n byw gyda dementia heb dderbyn diagnosis. Yn y Gymdeithas Alzheimer rydyn ni'n helpu pobl i fyw bywyd llawn gyda dementia, a'u cefnogi drwy eu cyfnodau mwyaf anodd a brawychus. 


I rai pobl mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth yn hynod bwysig, ac yn bresennol drwy gydol ein bywydau.  


Mae'n bleser gallu cydweithio ag Amgueddfa Cymru ar broject Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion. Rydyn ni'n falch iawn o'r bartneriaeth ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Cymru."

 

Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i roi llais dementia wrth galon ei gwaith, ac mae cynnwys y pecynnau wedi'u llywio drwy siarad ac ymgynghori â'r gymuned dementia. 


Gyda rhagor o ymchwil a drwy gydweithio'n agos gyda'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth, mae Amgueddfa Cymru yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r adnoddau hyn i wneud newid gwirioneddol.

 

Yn ogystal â'r gwaith hwn mae'r tîm, ac amgueddfeydd eraill yng Nghymru, wedi cyfrannu at greu app arbennig i gefnogi pobl LHDTQ+ ar draws Cymru sy'n byw gyda dementia.


Cynhyrchwyd y pecyn ar y cyd â rhaglen ddementia Clytwaith o Atgofion National Museums Liverpool, a bydd LHDTQ yng Nghymru yn ychwanegu atgofion hanes cwiar Cymru at y clytwaith atgofion.


Dywedodd Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru: 


"Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn creu casgliad LHDTQ+ ers rhai blynyddoedd, ac mae'n wych gweld y casgliad yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd newydd a diddorol. ⁠Ym mis Chwefror 2025, yn ystod Mis Hanes LHDTQ+, dadorchuddiodd Amgueddfa Cymru ei harddangosfa hanes LHDTQ+ barhaol gyntaf yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Yn ogystal â hyn, mae nifer o eitemau hanes LHDTQ+ i'w gweld ar draws casgliadau Sain Ffagan."

Dywedodd Cyfarwyddwr Profiad, Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru, Nia Williams: 


"Gall Amgueddfeydd sbarduno atgofion ac emosiynau pobl. Rydw i am ddiolch i'r ⁠Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth, y Gymdeithas Alzheimer, yr holl unigolion sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, a'r sefydliadau partner sydd wedi cydweithio â ni. ⁠Gyda'n gilydd rydyn ni wedi creu profiadau a gweithgareddau gwerth chweil fydd yn gwella lles pawb sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. 


Mae hefyd yn fraint cyfrannu at app Clytwaith o Atgofion Cymru a'i becyn LHDTQ+. Bydd yr adnodd hwn yn cefnogi'r cyfleoedd sydd ar gael yn ein hamgueddfeydd, yn ogystal â rhoi mynediad i'r casgliad i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia ac sy'n methu cyrraedd ein hamgueddfeydd. 


Diolch hefyd i'n noddwyr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd wedi galluogi'r gwaith hwn ac sy'n sylweddoli'r effaith y gall ymwneud â threftadaeth ei gael ar les unigolion."


⁠Y gobaith yw rhoi cyfle i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia i gadw cysylltiad â'n casgliadau cenedlaethol a'r straeon maen nhw'n eu hadrodd, a darparu cyfleon dysgu gydol oes i gymunedau er mwyn darganfod a rhannu eu hatgofion eu hunain.


- Diwedd -

Gwybodaeth bellach
Sharon Ford
Rheolwr Rhaglen Iechyd a Lles Amgueddfa Cymru. 
sharon.ford@amgueddfacymru.ac.uk 
(029) 2057 3681

Gareth Rees
Arweinydd Llais Dementia Amgueddfa Cymru
gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk⁠
(029) 2057 3418

Nodiadau i’r Golygydd

Amgueddfa Cymru


Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Mae ein safleoedd yn ofodau cymunedol hanfodol sy'n llawer mwy na lle ar fap. Ein nod yw defnyddio stori Cymru i ysbrydoli pawb fyddwn ni'n eu cyffwrdd, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu drwy ein casgliadau a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o'n saith amgueddfa.


Mae dros 500 o staff yn gweithio yma ac rydyn ni'n croesawu tua 1.8 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, sy’n cynnwys celf a dylunio, hanes ac archaeoleg a’r gwyddorau naturiol. 
Ein hamgueddfeydd yw Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. ⁠

 ⁠ 
Amgueddfa Cymru

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion


Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi'i arwain ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru, gyda nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y project ym mis Ebrill 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol o ddigwyddiadau dementia-gyfeillgar, gyda'r nod o  weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, staff y sector treftadaeth, a phartneriaid ledled Cymrui ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia ac i wella'u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau'r amgueddfa.


Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion


Clytwaith o Atgofion   


Clytwaith o Atgofion yw rhaglen hyfforddi ymwybyddiaeth dementia National Museums Liverpool. Mae'n darparu hyfforddiant, adnoddau a gweithgareddau i helpu darparwyr gofal i roi gofal sy'n canolbwyntio ar y person er mwyn rhoi gwell bywyd i bobl sy'n byw gyda dementia.   
Lansiodd National Museums Liverpool Clytwaith o Atgofion yn Museum of Liverpool yn 2012, gan gydweithio â phobl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac erbyn heddiw mae'r rhaglen wedi hyfforddi 12,500 a mwy o ofalwyr yn y DU a thu hwnt. Elfen o'r rhaglen yw Clytwaith o Atgofion – app gwobrwyog a ddyluniwyd ar y cyd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Hwn oedd yr app cyntaf o'i fath yn y byd, a chafodd ei lansio yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2014.   
houseofmemories.co.uk  

Mae pecyn LHDTQ+ yng Nghymru ar gael nawr drwy app Clytwaith o Atgofion. Am fwy o wybodaeth am y project, gweithdai, a sut i lawrlwytho'r app, ewch i: www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories.