Datganiadau i'r Wasg
Arddangosfa fawr o waith Gwen John i agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2025-06-20Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi'r arddangosfa gyntaf ers dros 40 mlynedd yn canolbwyntio ar yrfa un o artistiaid mwyaf Cymru, Gwen John.
Bydd Gwen John: Hardd a Hynod yn agor ar 7 Chwefror 2026, gan roi llwyfan arbennig i waith yr artist 150 o flynyddoedd wedi ei geni. Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, the Yale Center for British Art a National Museum of Women in the Arts, UDA.
Diolch i gymorth hael y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, bydd yr arddangosfa yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cyn mynd ar daith ryngwladol i'r orielau partner yn ystod 2026 a 2027.
Ganwyd Gwen John yn Hwlffordd, Sir Benfro yn 1876. Fe astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, yn un o'r genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn addysg gelfyddydol ffurfiol, cyn symud i Baris ac ymgartrefu yno. Bydd yr arddangosfa yn rhychwantu ei gyrfa gyfan, o'r darluniau cynnar yng Nghymru i'r paentiadau diweddarach a ysbrydolwyd gan ei ffydd, moderniaeth Ffrengig, a chymuned Meudon; y cwr o Baris ddaeth yn gartref iddi.
Bydd Gwen John: Hardd a Hynod yn taflu goleuni newydd ar ei gwaith a’i gwaddol artistig. Diolch i gyfoeth o ddarluniau a gweithiau dyfrlliw fydd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf, bydd y gynulleidfa'n cael cip ar ei gweledigaeth dawel, benderfynol.
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
'Fel menyw annibynnol yn byw a gweithio fel artist ar ddechrau'r 20fed ganrif, fe dorrodd Gwen John gŵys newydd. Dyma fydd y tro cyntaf i nifer o'i darluniau a'i gweithiau stiwdio gael eu harddangos, a bydd yr arddangosfa fawr hon yn gyfle i werthfawrogi ei phrosesau a'i thechneg, a'r themâu wnaeth ddylanwadu arni a'i hysbrydoli. Yn fwy na dim, bydd yn gyfle i gydnabod a dathlu ei chyfraniad fel artist arloesol.
'Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf o waith Gwen John, felly mae'n bleser gallu llwyfannu'r arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ogystal â gweithio gydag Orielau Cenedlaethol yr Alban, the Yale Center for British Art a National Museum of Women in the Arts er mwyn dangos gwaith un o hoff artistiaid Cymru i gynulleidfa fyd-eang. '
Bydd tocynnau ar gyfer Gwen John: Hardd a Hynod ar gael i'w harchebu yn ddiweddarach eleni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.amgueddfa.cymru/GwenJohn
Mae Gwen John: Hardd a Hynod yn derbyn cefnogaeth hael y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Diolch hefyd am gefnogaeth Ffrindiau Amgueddfa Cymru, y Gronfa Gelf, Sefydliad Finnis Scott ac Ymddiriedolaeth Gibbs.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Rachel Bowyer, Arweinydd Cyfathrebu
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Dyddiadau’r arddangosfa:
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Cymru: 7 Chwefror - 28 Mehefin 2026
- Orielau Cenedlaethol yr Alban: Modern Two, Caeredin: 1 Awst 2026 - 4 Ionawr 2027
- Yale Center for British Art, Connecticut: 18 Chwefror - 20 Mehefin 2027
- National Museum of Women in the Arts, Washington D.C: 20 Gorffennaf - 28 Tachwedd 2027
Dyfyniadau ychwanegol:
Dywedodd Vee Pollock, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Orielau Cenedlaethol yr Alban:
'Hardd a Hynod yw'r arddangosfa fyfyriol gyntaf o waith Gwen John i ddod i'r Alban, ar achlysur ei phen-blwydd yn 150 ac i ddathlu ei dylanwad barhaus. Bydd yr ardangosfa yn llenwi Modern Two yn Orielau Cenedlaethol yr Alban, gan roi cyfle i ymwelwyr ymgolli ac ymlacio yn lliwiau cynnil ei gweithiau. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyflwyno'r Alban i waith yr artist gwych o Gymru yn 2026.'
Dywedodd Martina Droth, Cyfarwyddwr Paul Mellon, Yale Centre for British Art:
'Mae'r Yale Centre for British Art yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r arddangosfa flaengar hon, sy'n cyflwyno proses greadigol Gwen John i gynulleidfa gyfoes am y tro cyntaf mewn pedair degawd a mwy. Mae'r arddangosfa arloesol yn gyfle amserol i'r YCBA rannu'r paentiadau a'r darluniau hynod gan Gwen John sydd yn eu casgliad. Cafodd sylfaenydd yr YCBA, Paul Mellon, ei ysbrydoli gan weithiau myfyriol Gwen i adeiladu'r casgliad cyhoeddus mwyaf o'i phaentiadau a'i darluniau y tu allan i'r DU. Mae'n fraint taw yma fydd yr arddangosfa gyntaf yn yr Unol Daleithiau o waith Gwen John, a hynny ar achlysur dathlu pen-blwydd yr amgueddfa yn hanner cant.'
Dywedodd Susan Fisher Sterlin, National Museum of Women in the Arts:
'Mae'n bleser gallu cydweithio ag Amgueddfa Cymru i godi'r llen ar waith Gwen John. Rydyn ni wedi edmygu dawn dawel Gwen erioed, ac fel yr amgueddfa fawr gyntaf yn canolbwyntio'n llwyr ar fenywod yn y celfyddydau, rydyn ni'n edrych ymlaen at roi llwyfan amlwg i'w gwaith pan fydd yr arddangosfa'n teithio i Washington D.C.'
Mae Gwen John: Hardd a Hynod yn derbyn cefnogaeth hael y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Diolch hefyd am gefnogaeth Ffrindiau Amgueddfa Cymru, y Gronfa Gelf, Sefydliad Finnis Scott ac Ymddiriedolaeth Gibbs.