Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar restr fer Gwobr Amgueddfa Groesawgar i’r Teulu

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Amgueddfa Groesawgar i’r Teulu Kids in Museums. Cafodd y rhestr ei chyhoeddi heddiw.   Mae elusen Kids in Museums wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 2004, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Dyma’r unig wobr i amgueddfa sy’n cael ei beirniadu gan deuluoedd. 

O fis Chwefror tan ddiwedd Ebrill, bu teuluoedd o bob cwr o’r DU yn pleidleisio dros eu hoff atyniad treftadaeth ar wefan Kids in Museums. Wedyn bu panel o arbenigwyr amgueddfa, plant a phobl ifanc yn chwynnu’r cannoedd o enwebiadau i greu rhestr fer o 18 atyniad. 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cystadlu yn erbyn tair amgueddfa arall yn y categori Amgueddfa Ganolig Orau.  

Dr Nicole Deufel – Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:   

“Mae’n fraint cael ein henwebu, a bod mewn cwmni mor ardderchog o fewn ein categori. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wastad wedi bod yn lle i deuluoedd a phlant ddysgu, chwarae, archwilio a darganfod hanesion y bobl a greodd Gymru.”   

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i’r teulu ar hyd y flwyddyn. O weithdai crefft a sesiynau garddio wythnosol, i ddathliadau mawr fel Diwrnod Chwarae Cenedlaethol a Pride Teuluol. Rydyn ni hefyd yn cynnig Oriau Tawel wythnosol, ac mae gennym becynnau synhwyraidd i’w benthyg i ymwelwyr ac ystafell dawel i unrhyw un sydd angen seibiant.   

Dros wyliau’r haf, bydd teuluoedd yn ymweld fel beirniaid cudd, er mwyn asesu’r amgueddfa yn erbyn Maniffesto Kids in Museums, sef canllawiau ar beth sy’n gwneud amgueddfa wych i bawb o bob oed. Byddant wedyn yn penderfynu ar enillydd ym mhob categori a phrif enillydd Gwobr Amgueddfa Groesawgar i’r Teulu 2025. Bydd seremoni i gyhoeddi’r enillwyr ym mis Hydref.   

Gallwch ddilyn y cyfan ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn @kidsinmuseums a #FamilyFriendlyMuseum. 

Mae Gwobr Amgueddfa Groesawgar i Deuluoedd yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. 

 

Nodiadau i Olygyddion 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o saith amgueddfa sy’n dod dan faner Amgueddfa Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.  

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.  

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. 

Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.  

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru 

 

Kids in Museums 

Elusen sy’n ymdrechu i wneud amgueddfeydd yn hygyrch a chroesawgar i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Maen nhw’n cefnogi ac yn hyrwyddo sefydliadau croesawgar i deuluoedd drwy ystod eang o fentrau, gan gynnwys y Gwobrau Amgueddfeydd Croesawgar i Deuluoedd a’r Diwrnod Meddiannu. Maen nhw hefyd yn annog sefydliadau treftadaeth i ddilyn eu Maniffesto sy’n gosod canllawiau syml i wneud amgueddfeydd yn ddeniadol i bawb o bob oed. www.kidsinmuseums.org.uk 

Dilynwch ni ar Instagram, LinkedIn, FacebookBlueSky.  

Gwobr Amgueddfa Groesawgar i Deuluoedd 

Mae elusen Kids in Museums wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 2004, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar, difyr a hygyrch i deuluoedd yn y DU.  

Ymysg cyn-enillwyr y wobd mae’r Young V&A (2024), Craven Museum (2023), y National Emergency Services Museum yn Sheffield (2022), Bailiffgate Museum & Gallery, Alnwick (2021) ac Andrew Carnegie Birthplace Museum yn Dunfermline (2019).  

Y rhestr lawn o amgueddfeydd ar restr fer Gwobr Amgueddfa Groesawgar i Deuluoedd 2025:  
 

Amgueddfa Fwyaf Hygyrch  

The Beaney, Canterbury  

Eureka! The National Children’s Museum, Halifax  

Worsbrough Mill Museum and Country Park, Barnsley  

 

Amgueddfa Fach Orau  

Abbey House Museum, Leeds  

Canolfan Dylan Thomas, Abertawe   

Experience Barnsley Museum and Discovery Centre, Barnsley 

North Lincolnshire Museum, Scunthorpe   

Showtown Blackpool  

  

Amgueddfa Ganolig Orau  

The Amelia Scott, Tunbridge Wells   

Great North Museum: Hancock, Newcastle upon Tyne  

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe  

V&A Dundee   

  

Amgueddfa Fawr Orau  

The Burrell Collection, Glasgow  

Horniman Museum and Gardens, Llundain   

London Transport Museum, Llundain   

   

Project Ieuenctid Gorau: Cyfiawnder Cymdeithasol 

Black Cultural Archives, Llundain  

Glasgow Life Museums  

Wiltshire Museum   

 

Cyngor Celfyddydau Lloegr 

Cyngor Celfyddydau Lloegr yw’r corff datblygu cenedlaethol ar gyfer celf a diwylliant yn Lloegr. Eu gweledigaeth erbyn 2030 yw bod Lloegr yn wlad lle caiff creadigrwydd pawb ei werthfawrogi a chael cyfle i ffynnu, a lle mae gan bawb fynediad at amrediad o brofiadau diwylliannol o safon. Rhwng 2024 a 2026 mae’r Cyngor yn buddsoddi dros £440m o arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a tua £93m gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi’r sector a chyflawni’r amcan. www.artscouncil.org.uk