Datganiadau i'r Wasg

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu £12m i Amgueddfa Lechi i ailddatblygu

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu £12m i Amgueddfa Lechi Cymru i ailddatblygu calon Tirwedd Llechi Treftadeth y Byd UNESCO

Diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £12m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fydd yn gweddnewid project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac yn diogelu'r Amgueddfa am genedlaethau i ddod.

Wrth sicrhau'r grant, mae project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig, yn galluogi i'r gwaith symud ymlaen i'r cam nesaf ac yn diogelu dyfodol yr Amgueddfa sy'n adrodd hanes rhyngwladol bwysig diwydiant llechi gogledd Cymru.

Daeth yr adeilad rhestredig Gradd 1 yn Llanberis yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru yn 1972, pan agorodd i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn dilyn cau chwarel Dinorwig yn 1969. Bydd y gwaith yn gweddnewid profiad yr ymwelydd ac yn creu dyfodol cynaliadwy i'r safle hwn o bwys rhyngwladol, drwy gadw naws y gweithdai diwydiannol sy'n ganolbwynt i dirlun Treftadaeth y Byd UNESCO a galluogi'r Amgueddfa i rannu a dathlu sut y daeth llechi o'r cornel bach hwn o ogledd Cymru i 'doi tai'r byd'. ⁠

Bydd y gwaith ailddatblygu yn creu canolfan addysg newydd, ardal chwarae, siop a chaffi, yn gwella hygyrchedd ar draws y safle, ac yn creu mwy o gyfleon i ddarganfod mwy a mwynhau hanes y diwydiant llechi mewn arddangosfeydd a dehongliadau newydd. Ac wrth galon y project bydd y gymuned leol, yn helpu i lywio'r hanes a phrofiad yr ymwelydd. Hefyd yn greiddiol i bob agwedd o'r project fydd yr iaith Gymraeg – sy'n cael ei siarad gan 100% o staff yr Amgueddfa Lechi – gan barhau i ddathlu sut oedd y diwydiant llechi yn fodd i'r Gymraeg barhau, a ffynnu, yn y Gogledd.

Bydd gofodau arddangos pwrpasol yn galluogi Amgueddfa Cymru i rannu mwy o eitemau o'r casgliad, gan ddod ag arddangosfeydd cyffrous i'r Gogledd am y tro cyntaf a galluogi mwy o bobl Cymru i weld a mwynhau eu casgliad cenedlaethol. 

Yn ogystal â diogelu'r adeiladau hanesyddol a'r casgliadau, ac adrodd yr hanes, bydd y gwaith ailddatblygu yn cyfrannu at yr economi leol, gan gynnig swyddi, lleoliadau i fyfyrwyr, a phrentisiaethau. Bydd y nawdd hefyd yn galluogi Llanberis i barhau i fod yn amgueddfa fyw sy'n cynnig hyfforddiant a chyfleon i bobl o bobl o bob cefndir fwynhau, dysgu, a datblygu sgiliau traddodiadol sydd mewn perygl o ddiflannu. 

Yn ogystal â chadw'r sgiliau hyn yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, bydd yn gwella lles ymwelwyr ac yn help i gysylltu pobl a'u cymunedau i'r chwareli o'u cwmpas.

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:

"Mae'n bleser cadarnhau ein bod ni wedi derbyn y grant sylweddol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy'n rhoi'r sicrwydd i ni barhau â'r gwaith ailddatblygu. Mae hon yn garreg filltir allweddol i broject ailddatblygu Llanberis, ac yn newyddion cyffrous i ni, i'r gymuned, ac i bawb yng Nghymru. 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gallwn ni nawr ddiogelu hanes Amgueddfa Lechi Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i'r Amgueddfa fydd yn fwy cynhwysol a hygyrch, ac yn sbarduno datblygiad a dysgu. Bydd hyn yn golygu y gall mwy o bobl weld a mwynhau stori llwyddiant rhyngwladol llechi gogledd Cymru." 

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: 

"Bydd y buddsoddiad chwyldroadol hwn o £12m yn sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru fel y porth i Dirlun Treftadaeth y Byd UNESCO ac yn allweddol wrth ddatgloi cyfleon i cymunedau ar draws gogledd Cymru. Bydd yn diogelu dyfodol yr adeiladau rhestredig Gradd 1, gan sicrhau y bydd hanes grymus y diwydiant llechi a'r bobl a'i naddodd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r project hwn yn fuddsoddiad hyderus yn nhreftadaeth ddiwydiannol rhyngwladol bwysig Cymru – yn darparu sgiliau, prentisiaethau a swyddi, ac yn cryfhau'r economi leol a'r tirwedd diwylliannol."

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru: 

"Fel canolbwynt Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru mae gan yr Amgueddfa Lechi rôl allweddol wrth rannu'r dreftadaeth bwysig hon i'r cyhoedd – o'r gymuned leol i bedwar ban. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn helpu i ddatblygu'r Amgueddfa fel porth i'n hanes a'n diwylliant fydd yn denu ac ysbrydoli cenedlaethau heddiw, ac i'r dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd R.Medwyr Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd: 

"Rydw i wrth fy modd yn gweld swm mor sylweddol yn cael ei ddyfarnu i'r lleoliad treftadaeth hwn sydd mor bwysig i Wynedd, Cymru a'r Byd. Mae'n cydnabod hanes pwysig a chyfoethog yr ardal hon wnaeth doi toeon y byd, yn creu adnodd clodwiw, ac yn hwb i'r gymuned leol."

Yn ogystal â'r nawdd sylweddol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Amgueddfa Cymru hefyd yn hynod ddiolchgar am nawdd partneriaethau gyda Chyngor Gwynedd (drwy Lywodraeth y DU) fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, a chefnogaeth hael cyllidwyr eraill. 

Gyda'r adeilad ar gau i'r cyhoedd, mae gwrthrychau wedi’u symud o'r Amgueddfa i leoliadau dros dro yn barod ar gyfer y gwaith adeiladu. Tra bod yr adeilad ar gau, gall y cyhoedd barhau i fwynhau'r casgliad a mwy mewn cyfres o fflach-arddangosfeydd a digwyddiadau ar draws Safle Treftadaeth y Byd diolch i fenter Amgueddfa ar y Lôn. I ddysgu mwy am y project ewch i https://amgueddfa.cymru/llechi/.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rachel Bowyer, Arweinydd Cyfatherbu rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk

Julie Williams, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu  julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk