Datganiadau i'r Wasg
Rhythmau Hip Hop: Stori Cymru
Dyddiad:
2025-07-14Dewch i brofi hanes Cymru gyda bît yn arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
DJ Jaffa wrth y decs yn Roxe Jam, Caerdydd, 2010. © Dan Green
Dyma'ch gwahodd i arddangosfa newydd sbon sy'n olrhain hanes Hip Hop, o'r dyddiau cynnar ddeugain mlynedd yn ôl hyd heddiw, a bwrw golwg ar ddyfodol Hip Hop yng Nghymru hefyd. O'r arloeswyr i sêr y dyfodol, yr artistiaid a'r dawnswyr, dyma straeon y bobl sydd wedi byw a bod Hip Hop. Roedden nhw yno ar yr adegau tyngedfennol, gan weld Hip Hop yn datblygu’n rhan allweddol o ddiwylliant Cymru.
Mae Hip Hop: Stori Cymru yn dilyn taith y genre yng Nghymru, trwy eiriau’r rheini a siapiodd y diwylliant ac sy’n dal i ddylanwadu arno hyd heddiw. Y DJ a chynghorydd Hip Hop uchel ei barch, Kaptin Barrett, yw curadur yr arddangosfa sy'n plethu hanes llafar, cerddoriaeth, dawns, ffasiwn a chelf diwylliant Hip Hop yng Nghymru.
Cewch gamu i fwrlwm y diwylliant, trwy greu eich rap eich hun, troi eich llaw at graffiti, tyrchu drwy'r feinyl yn ein profiad siop recordiau neu ddawnsio i Ladies of Rage, DJ Jaffa a Llwybr Llaethog.
Meddai Kaptin Barrett, Cydlynydd Casglu Hip Hop Amgueddfa Cymru:
“Mae yna lawer iawn o bobl sydd ddim yn gwybod cymaint mae Hip Hop wedi dod yn rhan o hanes a diwylliant Cymru. I lawer mae'n rhan annatod o'u hunaniaeth Gymreig, felly mae'r diwylliant yn llawn haeddu ei le yn amgueddfa genedlaethol Cymru. Dwi'n credu'n gryf y bydd yn helpu i chwalu llawer o'r rhagdybiaethau, a chreu lle mwy croesawgar i bobl sydd heb gael eu cynrychioli yno'n ddigonol cyn nawr. Gobeithio y bydd hefyd yn ysbrydoli pobl i dyrchu ymhellach i'r diwylliant, dysgu mwy amdano a gweld ei effaith ar fywyd yma yng Nghymru.”
Meddai Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:
“Rydyn ni mor gyffrous i Hip Hop: Stori Cymru agor yn Amgueddfa Cymru. Bydd yn gyfle i ddathlu dros ddeugain mlynedd o Hip Hop yng Nghymru. Be sy'n gwneud yr arddangosfa hon yn arbennig yw'r ffaith mai'r rheini sy'n byw a bod Hop Hop sydd wedi ei siapio.
A ble arall gewch chi weld hanes Hip Hop yng Nghymru, sefyll o flaen mamoth o beiriant argraffu 3D a gweld La Parisienne o dan yr un to?”
Meddai John Griffiths, Llwybr Llaethog:
“Ers ffurfio Llwybr Llaethog yn 1985, mae Hip Hop Cymru wedi datblygu cymaint, gyda nifer o fandiau fel Tystion, Pep Le Pew a Mr Phormula yn gadael eu hôl ar y sîn. Ers ffurfio rydyn ni wedi rhyddhau 14 albwm a 7 sengl a hefyd wedi recordio pedair sesiwn ar gyfer sioe John Peel.
“Doedden ni ddim yn fand Hip Hop yn unig ond roedden ni'n arbrofi gyda rhywfaint o Dub, Reggae, Drum a Bass, Electronica a llawer mwy o genres eraill. Rydyn ni hefyd wedi bod mor ffodus â chydweithio gyda rhai o'r lleisiau Cymraeg enwocaf gan gynnwys Dafydd Iwan, Siân James, Geraint Jarman, Gwenno a Dyfrig Evans i enwi rhai.
“Mae'n wych cael ein cynnwys yn rhan o arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd er mwyn rhannu'r hanes anhygoel gyda chynulleidfaoedd ehangach.”
Mae ein harddangosfeydd a'n rhaglen ymgysylltu cyhoeddus yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Bydd Hip Hop: Stori Cymru i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 19 Gorffennaf 2025 a 22 Chwefror 2025. Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim a gallwch archebu eich tocynnau ymlaen llaw ar ein gwefan neu wrth y brif ddesg yn yr Amgueddfa.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â
Lowri Williams
Swyddog Cynnwys a Marchnata, Amgueddfa Genedlaethol Caerydd
lowri.williams1@amgueddfacymru.ac.uk
Carwyn Evans
Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
carwyn.evans@amgueddfacymru.ac.uk
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae gennym deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook.