Datganiadau i'r Wasg
Ymunwch â’r Mamoth am Haf o Hwyl
Dyddiad:
2025-07-19Ers pedwar mis bellach mae prif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi bod yn gartref i brint 3D o Famoth. Mae’r creadur cynhanesyddol yn dair medr o daldra, ac wedi bod yn atyniad poblogaidd iawn – ond mae angen enw arno i ddod yn rhan go iawn o deulu Amgueddfa Cymru.
Heddiw [dydd Sadwrn 19 Gorffennaf] mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn galw ar y cyhoedd i ymuno â’r ymgyrch i enwi ein hen ffrind newydd.
Mae ymgyrch “Rhowch enw i’r Mamoth” yn lansio ar ddechrau gwyliau’r haf, a bydd yn parhau nes Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ym mis Medi. Rydym yn gwahodd teuluoedd, ysgolion ac ymwelwyr yr amgueddfa i gynnig enw i’r mamoth, sydd i’w weld yn y Brif Neuadd ers mis Mawrth.
I helpu pobl i feddwl am syniadau, dyma ambell ffaith am ei hanes:
Mae’n un o blant yr 80au, wedi cael ei ddarganfod ym mis Medi 1986 gan ddynes yn mynd â’i chi am dro.
Er ei fod wedi’i ddarganfod ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig, mae’n ddigon agos i ni ei hawlio fel Cymro!
Ar ôl cael eu cloddio gan dîm o wyddonwyr a gwirfoddolwyr, daeth i’r amlwg fod yr esgyrn rhwng 14,000 a 14,500 mlwydd oed – felly dyma’r esgyrn mamoth olaf i gael eu cofnodi ym Mhrydain, a rhai o’r olaf yn Ewrop.
Rydyn ni’n gwybod, oherwydd maint yr esgyrn, mai mamoth gwrywaidd oedd hwn.
Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:
“Wedi gweld miloedd o ymwelwyr yn rhyfeddu at y mamoth ers iddo gyrraedd y Brif Neuadd ym mis Mawrth, roedden ni’n teimlo y dylai pawb gael cyfle i awgrymu enw iddo.
“Os nad ydych chi wedi cael cyfle i’w weld eto, yna dewch draw i gael eich ysbrydoli – pwy â wŷr, efallai mai eich cynnig chi fydd yr un buddugol!”
Mae digon o hwyl i’w gael gyda’r mamoth dros yr wythnosau nesaf. Drwy gydol ein Haf o Hwyl, bydd digwyddiadau gyda’r mamoth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys sesiwn baentio i’r teulu, sgyrsiau, a phrofiad realiti estynedig (AR) fydd yn mynd â chi nôl i Oes yr Iâ. Mae gwledd o fwyd mamothaidd ar gael yn y caffi hefyd – rhywbeth i’r teulu cyfan.
Mae ein harddangosfeydd a’n rhaglen ymgysylltu cyhoeddus yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Mae ein hymgyrch “Rhowch enw i’r Mamoth” ar agor yn swyddogol, ac mae croeso i unrhyw un o bedwar ban byd roi cynnig arni. Mae modd cynnig enw drwy ymweld â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu ar ein gwefan: Rhowch enw i’r Mamoth.
Bydd yr ymgyrch yn cau ar ddiwedd Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar 14 Medi, ac wedi hynny bydd panel yn creu rhestr fer er mwyn i’r cyhoedd gael pleidleisio dros eu ffefryn.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o newyddion am y mamoth.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch ag
Lowri Williams, Swyddog Cynnwys a Marchnata,
lowri.williams1@amgueddfacymru.ac.uk
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae gennym deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: @museumcardiff
Instagram: @museumwales
Linkedin: Amgueddfa Cymru – Museum Wales