Datganiadau i'r Wasg
Galwad Agored i artist sy'n byw yng Nghymru - Cyfle cyffrous yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dyddiad:
2025-08-14Mae Amgueddfa Cymru am gomisiynu darn o gelf fydd yn cael ei hongian o'r pileri ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Bydd y gwaith yn ymateb i'n gweledigaeth newydd ar gyfer yr Amgueddfa o fod yn lle sy'n dathlu straeon unigryw ac amrywiol Cymru o fyw gyda'r môr, o hen hanes hyd heddiw ac i'r dyfodol pell.
Rydyn ni am weithio gydag unigolion a chymunedau i adrodd eu straeon nhw mewn ffyrdd sy'n ysbrydoli ein hymwelwyr ac yn eu helpu i gysylltu â'n cenedl.
Bydd gwireddu'r weledigaeth newydd yn broses ailddatblygu aml-gymalog, a'r gwaith comisiwn yn allweddol wrth ddechrau newid y syniad o pwy yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae'r alwad hon yn agored i unrhyw artist sy'n byw yng Nghymru.
Rydyn ni'n cynnig tâl comisiwn o £15,000.00 (heb gynnwys costau gosod).
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos am o leiaf un flwyddyn.
Mae croeso i artistiaid sydd â diddordeb i fynychu sesiwn gwestiwn ac ateb gyda Phennaeth yr Amgueddfa a'r curaduron am 1pm ar 29 Awst 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd hwn yn gyfle hefyd i weld y lleoliad. Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn gwestiynau drwy e-bostio glannau@amgueddfacymru.ac.uk.
Canllawiau
Rydyn ni'n croesawu cynigion all gynnwys cyfuniad o gyfryngau celf weledol a deunyddiau.
Byddwn ni'n disgwyl i ddyluniad y gwaith ystyried y lleoliad penodol, a'r gofynion a amlinellir isod.
Oherwydd natur y lleoliad, ni fydd gwaith sain yn addas.
Yn eich cyflwyniad, rydyn ni am weld amlinelliad o natur gynaliadwy'r deunyddiau. Ydyn nhw’n gallu cael eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio ar ôl eu tynnu?
Ni fydd gweithiau wedi'u cynhyrchu gydag AI yn dderbyniol.
Rhaid i'r gwaith gydymffurfio ag unrhyw ofynion Iechyd a Diogelwch a godir gan Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i), ddiogelwch tân a'r dull gosod. Dylai eich cyflwyniad gynnwys ystyriaeth o faterion iechyd a diogelwch posib.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu trafod yn ddiweddarach yn y broses.
Bydd cyfyngiad pwysau yn berthnasol.
Mae croeso i chi gyflwyno'r cysyniad a'r dyluniad mewn unrhyw gyfrwng.
Rydyn ni'n annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Dyddiad cau cyflwyno cynigion yw 26 Medi 2025.
Anfonwch eich cynigion at Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Galwad Agored Neuadd Weston Ffordd Ystumllwynarth Abertawe SA13RD neu glannau@amgueddfacymru.ac.uk
Proses Ddethol
Bydd y beirniaid yn dewis rhestr fer o artistaid i'w cyfweld.
Bydd y cynnig llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Meini Prawf Allweddol
• Perthnasol i weledigaeth yr Amgueddfa
• Defnydd o'r lleoliad • Dathlu Cymreictod
• Cynaliadwyedd
Mae’r panel beirniaid yn cynnwys
• Dr Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
• Rhian Evans, Uwch Guradur yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
• Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian
• Yr Athro Sue Williams, Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
• NN, Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru
Y bwriad yw i'r gwaith gael ei arddangos o fis Chwefror 2026 fan bellaf.