Datganiadau i'r Wasg
Safbwynt(iau)
Dyddiad:
2025-09-11Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter yn croesawu ail ran arddangosfa Sophie Mak-Schram ac artistiaid eraill
Sgrin Safbwynt(iau)
Bydd dau waith celf newydd yn cael eu dadorchuddio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn rhan o Safbwynt(iau), rhaglen gelfyddydau feiddgar sy'n ail-ddychmygu hanes Cymru, yn herio naratifau hanesyddol ac yn creu lle i leisiau sydd heb gael sylw digonol.
Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 12 Medi 2025, mae'r darnau newydd yn rhan o Dyfal Droi y Garreg, arddangosfa sydd ar agor yn yr amgueddfa ers mis Mehefin. Mae'r ddau ddarn newydd yn cyd-fynd ag ail ran yr arddangosfa sy'n agor yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Mae'r arddangosfa ddwyran yn trafod beth yw grym, a phwy sy'n cadw'r grym hwnnw yng nghyd-destun Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, y ddau gorff sydd wedi gweithio gyda'r artistiaid.
Yn ystod 2023–2025, gwahoddwyd staff o'r ddau gorff i weithio gyda'r artistiaid (trefnwyr cymunedol, artistiaid, gweithwyr cymdeithasol, ymgyrchwyr) mewn gweithdai a thrafodaethau a gefnogwyd gan Sophie Mak-Schram er mwyn adnabod pŵer yng nghyd-destun gofodau diwylliannol, ac ymateb i hynny. Mae'r ddau waith celf ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn myfyrio ar sut mae'r amgueddfa'n croesawu pobl, a phwy maen nhw'n eu croesawu.
Mae Neuadd (Di-)Groeso, a ysgrifennwyd gan Bianca Ali mewn ymateb i gwestiwn gan Sophie Mak-Schram, yn cynnwys naratif disgrifiadol o fynedfa'r amgueddfa yn 2024 ac, o ailfeddwl, sut y gall edrych yn y flwyddyn 3024. Bydd y straeon, sy'n seiliedig ar brofiad bywyd pobl ifanc ddu yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth iddynt dyfu’n hŷn, yn cael eu harddangos ar ffurf dwy faner fawr ym Mhrif Neuadd yr amgueddfa. Mae'r ail waith newydd, Croes Awgar / Hwyl a Sbri, yn ymateb i gynhwysiant ieithyddol a phwy sy'n cael eu croesawu, trwy ddarluniau a thestun Cymraeg wedi'i argraffu ar sgrin a'i arddangos mewn rhannwr ystafell a adeiladwyd â llaw.
Meddai Sophie Mak-Schram:
'Mae pobl yn teimlo croeso mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mae'r ddau waith celf newydd, oedd yn deillio o broses hir o sgwrsio a chydweithio, yn cyfeirio at beth mae'r bobl yn gobeithio'i gael gan yr amgueddfa. Rwy'n gobeithio y bydd y gweithiau celf hefyd yn creu deialog bellach am wahanol brofiadau pobl â diwylliant, yn ogystal â'r hyn y mae llawer mwy o bobl yn dal i obeithio ei brofi mewn mannau cyhoeddus a rennir, fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.’
Trwy weithdai Sophie, mae sgwrs wedi cychwyn am newidiadau y mae ymwelwyr eisiau eu gweld yn yr amgueddfa, ac ochr yn ochr â'r gweithiau celf bydd cyfle rhyngweithiol i ymwelwyr rannu eu profiadau a'u hawgrymiadau eu hunain. Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i barhau â'r sgwrs hon a bydd yr ymatebion yn rhan o sesiwn fyfyrio yn ystod Gwanwyn 2026 rhwng Sophie, ei chyd-artistiaid a staff yr amgueddfa.
Meddai Steph Burge, Pennaeth Ymgysylltu Amgueddfa Cymru:
‘Y gweithiau celf hyn yw darn olaf jig-so Safbwynt(iau), ac rydym wrth ein bodd bod yr holl ymyriadau bellach ar agor ar draws ein saith amgueddfa a'r sefydliadau celfyddydol partner.
Diben Safbwynt(iau) yw ceisio gwella'r ffordd mae'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Er bod llawer o'n hymwelwyr eisoes yn teimlo cynhesrwydd ein croeso, rydym hefyd yn gwybod y gall y fynedfa fod yn heriol i rai. Rydym ar daith er mwyn newid ein mannau cyhoeddus a sicrhau eu bod hyd yn oed yn fwy cynhwysol a chroesawgar i bawb. Rydym eisoes yn rhoi cynnig ar bethau newydd er mwyn creu teimlad o hwyl a rhyfeddod, ond rydym yn gwybod bod mwy y gallwn ei wneud. Hoffem glywed lleisiau a phrofiadau rhagor o'n hymwelwyr wrth iddynt weld a rhyngweithio â'r arddangosfa newydd hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hyn yn helpu i lywio ein ffyrdd presennol o feddwl.'
Mae'r arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyd-fynd â'r arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter sy'n agor ar ddydd Sadwrn 13 Medi, ac rydym yn annog ymwelwyr i weld a phrofi'r ddwy. Yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, bydd arddangosfa newydd a gwaith celf yn y fynedfa a'r caffi yn annog ymwelwyr i feddwl am sut a ble y gall pobl gwrdd, â phwy y cânt gwrdd, a beth sy'n eu helpu i wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Safbwynt(iau) yn cydweithredu rheng Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a saith sefydliad celfyddydol gweledol sy'n rhoi llwyfan i saith artist o ddiwylliannau amrywiol drafod hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o 'webs', sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a'u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy'n cydnabod y cyfraniadau a phrofiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a'r byd.
Mae ymyraethau Safbwynt(iau) wedi cael eu cynnal ym mhob un o'n saith amgueddfa, a phob artist yn codi'r llen ar elfen gudd o'r casgliad cenedlaethol. Mae gosodwaith Sophie yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gwahodd cynulleidfaoedd i herio ac ailddychmygu strwythurau pŵer, gan feithrin deialog am gynrychiolaeth, pŵer a hunaniaeth.
Mae Safbwynt(iau) ar agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda'r gweithiau celf newydd yn y brif neuadd yn cael eu harddangos tan 11 Ionawr 2026 a'r sioe oriel ar agor tan 15 Chwefror 2026.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau'r wasg, cysylltwch â:
Swyddog Cynnwys Marchnata, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
laura.osborne@amgueddfacymru.ac.uk
Safbwynt(iau):
Mae Safbwynt(iau) yn broject cydweithredol cyffrous rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio newid yn y ffordd mae'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Caiff y project ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.