Datganiadau i'r Wasg
Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn dod yn fwy cynaliadwy
Dyddiad:
2025-09-12Ers 2009, mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi croesawu ymwelwyr a stondinwyr i’w Gŵyl Fwyd flynyddol.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar ddeg, disgwylir i hyd at 15,000 o ymwelwyr ddod i fwynhau dros 80 o stondinau bwyd o amgylch yr adeiladau hanesyddol yn yr ŵyl eleni. Gyda chynnydd mawr yn nifer y gwerthwyr bwyd sydd eisiau mynychu’r ŵyl, mae Amgueddfa Cymru wedi cyflwyno meini prawf cynaliadwyedd i stondinwyr, yn ogystal â chynnig hyfforddiant a gweithdai i sicrhau bod pawb yn bodloni’r meini prawf.
Yn ogystal â chynnig hyfforddiant i werthwyr bwyd, mae’r Amgueddfa wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid o wahanol sectorau i sicrhau bod yr Ŵyl Fwyd yn gynaliadwy. Yn dilyn trafodaethau gyda Bws Caerdydd, bydd gwasanaeth bws ar gael i ymwelwyr ddydd Sul yn ogystal â’r gwasanaeth arferol ddydd Sadwrn. Am y tro cyntaf, bydd generaduron batri yn cael eu treialu i bweru’r Ŵyl Fwyd.
Fe gynigwyd hyfforddiant i stondinwyr ar sut i greu polisi cynaliadwy ar gyfer ei busnes, a chynorthwyo nhw i archwilio a hyrwyddo tarddiad Cymreig eu cynnyrch. Fe wnaeth yr hyfforddiant rhoi mwy o sgiliau i’r gwerthwyr bwyd gan alluogi nhw i gyrraedd gofynion meini prawf ffurflen gais yr ŵyl sy’n mesur y cais yn erbyn cyfres o ymrwymiadau gan gynnwys ymrwymiad i fod yn gynaliadwy, hyrwyddo cynnyrch o Gymru ac ymrwymiad i ddwyieithrwydd.
Meddai Ffion Rhisiart, Swyddog Digwyddiadau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:
“Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn uchafbwynt yn ein calendr digwyddiadau ac mae ein hymwelwyr yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Un o brif amcanion yr Ŵyl Fwyd yw dathlu bwyd a diod o Gymru, ac rydyn ni’n gwybod bod ein stondinwyr i gyd yn frwd ac yn falch o ddathlu cynnyrch Cymreig.
“Rydyn ni hefyd wrth ein bodd i gydweithio â Bws Caerdydd eleni, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r Ŵyl Fwyd ddydd Sadwrn a dydd Sul.”
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, bydd yr ymgynghorwyr cynaliadwyedd Sustainable Sidekicks yn gweithio gyda’r ŵyl i sicrhau ei bod yn bodloni ei hymrwymiadau i leihau gwastraff a chasglu data ôl troed carbon. Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys dim nwyddau untro i weini bwyd a diod ar y safle, felly dewch â photel dŵr a defnyddio’r tapiau ar y safle.
Meddai Livvy Drake, sylfaenydd Sustainable Sidekicks: “Mae wastad yn hyfryd gweithio gyda thîm Sain Ffagan a gweld eu hymrwymiadau i leihau effaith y digwyddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen at siarad â’r gwerthwyr bwyd eto i glywed sut maen nhw’n mynd i’r afael â chynaliadwyedd yn eu busnesau. Rhoddodd llawer ohonyn nhw arian neu gynnyrch i elusen, a phrynodd eu cynhwysion o ffynonellau cynaliadwy lleol. Wnaeth nifer redeg eu busnesau ar dariff ynni adnewyddadwy tra bod eraill wedi tyfu eu cynhwysion eu hun.”
Bydd Livvy a’i thîm hefyd yn asesu’r stondinau bwyd ar gyfer Gwobrau Cynaliadwyedd Stondinwyr yr Ŵyl Fwyd, sy’n cydnabod y rheiny sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol drwy eu harferion busnes. Llynedd, enillydd Gwobr Cynaliadwyedd y categori Bwyd Stryd oedd Conscious Coffee. Sefydlwyd y stondin coffi i godi arian ar gyfer gwaith y Safe Foundation, elusen sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl a chymunedau sydd wedi’u hymyleiddio ledled y byd. Enillydd Gwobr Cynaliadwyedd y categori Marchnad Fwyd y llynedd oedd The Welsh Saucery am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad wrth ystyried pob agwedd o gynaliadwyedd a bioamrywiaeth yn eu cynnyrch bwyd ac wrth weithredu’r busnes.
Cynhelir Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Medi, ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
DIWEDD
Gwybodaeth Gyswllt
Carwyn Evans
carwyn.evans@museumwales.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.