Datganiadau i'r Wasg
Lansio llyfrgell o ddelweddau digidol er mwyn ehangu mynediad at y casgliad cenedlaethol
Dyddiad:
2025-10-03Mae Amgueddfa Cymru wedi gosod dros 2000 o ddelweddau yn y parth cyhoeddus gan eu rhyddhau am ddim ar lwyfan newydd sbon, sef Delweddau Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn golygu bod Cymru ar flaen y gad o ran ei chynnig mynediad agored ac mae’n ei gosod ar yr un gwastad ag amgueddfeydd byd-eang fel yr Amgueddfa Bywyd Gwyllt, y Smithsonian, yr Rijksmuseum, a’r Amgueddfa Gelf Fetropolitan.
Streic y Glowyr. Glowyr yn trafod y sefyllfa tra'n yfed cwrw yn Cwmbach.
Mae’r delweddau sydd ar gael i’w pori ar y llwyfan newydd yn cynnwys orielau o weithiau celf gan Van Gogh, Monet a Renoir, ffotograffau hanesyddol o bobl a llefydd, a delweddau o wrthrychau o’r casgliad cenedlaethol, sydd i gyd yn arbennig o berthnasol i Gymru. Mae delweddau ar y llwyfan yn cynrychioli byd natur, yn ogystal â hanes archaeolegol, cymdeithasol a diwydiannol. Mae’r ystod eang o ddelweddau yn adlewyrchu ehangder yr eitemau sy’n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru.
Mae Polisi Mynediad Agored yr amgueddfa yn golygu y gall unrhyw un lawrlwytho delweddau cydraniad canolig o’r wefan am ddim, at ddefnydd masnachol ac anfasnachol. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael eu defnyddio’n rhydd, boed hynny ar gyfer ymchwil ysgolheigaidd, gwefan ar gyfer tafarn leol, neu raglenni teledu a ffilm, a hynny i gyd heb dalu ffi na chael cymeradwyaeth ychwanegol.
Mae rhai o’r delweddau sydd ar gael drwy’r llyfrgell ddigidol yn cynnwys casgliad yr amgueddfa o fodelau gwydr Blaschka o greaduriaid y môr, delweddau hanesyddol o dirwedd y gogledd, a chasgliad Les Nymphéas neu lili a adawyd i’r amgueddfa gan y Chwiorydd Davies. Mae yna hefyd gannoedd o ddelweddau o eitemau sy’n adlewyrchu hanes a bywyd Cymru gan gynnwys llwyau caru, dillad a chwiltiau, a llawer o ddelweddau hanesyddol o Gymru a dynnwyd gan rai o’r ffotograffwyr cynharaf. a adawyd i’r amgueddfa gan y Chwiorydd Davies. Mae yna hefyd gannoedd o ddelweddau o eitemau sy’n adlewyrchu hanes a bywyd Cymru gan gynnwys llwyau caru, dillad a chwiltiau, a llawer o ddelweddau hanesyddol o Gymru a dynnwyd gan rai o’r ffotograffwyr cynharaf.
Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:
“Mae’r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn lansio Delweddau Amgueddfa Cymru sy’n cynnig ffordd arall i ni rannu’r casgliad cenedlaethol a straeon Cymru. Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd ysgolion a sefydliadau addysg sy’n dilyn y Cwricwlwm i Gymru yn defnyddio’r offeryn rhad ac am ddim yma i gefnogi eu gwaith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld sut y caiff ei ddefnyddio.
“Megis dechrau ydyn ni. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn lansio gyda dros 2000 o ddelweddau, a byddwn yn parhau i ychwanegu delweddau at y llwyfan ac i ddigideiddio cynnwys newydd. Rydyn ni hefyd yn awyddus i gydweithio â sefydliadau eraill i gyrraedd cymaint o bobl ag y gallwn ni a pharhau i rannu ac annog dysgu a mwynhad drwy ein casgliad cenedlaethol.”
Mae modd gweld Delweddau Amgueddfa Cymru yma
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Gall unrhyw un lawrlwytho delweddau cydraniad canolig sydd wedi’u nodi â CC0 neu CC BY-SA o wefan Delweddau Amgueddfa Cymru am ddim, at ddefnydd masnachol ac anfasnachol.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda GLAM-E i ehangu cwmpas eu darpariaeth Mynediad Agored. Wrth fabwysiadu Polisi Mynediad Agored, mae Amgueddfa Cymru wedi penderfynu gwneud delweddau o’i chasgliadau sydd allan o hawlfraint ar gael am ddim o dan gynllun Comin Creu CC0 Cyflwyno i’r Parth Cyhoeddus Cyffredinol. Mae’r amgueddfa hefyd yn rhyddhau rhai o’r casgliadau maen nhw’n dal yr hawlfraint ar eu cyfer, o dan CC BY-SA 4.0, gan eu gwneud ar gael am ddim i’w hailddefnyddio gyda chydnabyddiaeth.
Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn ymuno â grŵp o amgueddfeydd eraill sydd â pholisi sefydliad cyfan ar ddelweddau yn y parth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys Oriel Gelf ac Amgueddfeydd Archifau Aberdeen, Amgueddfeydd Birmingham, Amgueddfa Goffa ac Oriel Gelf Frenhinol Albert, Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd Brighton a Hove, ac Amgueddfeydd Efrog.
I gael rhagor o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Rachel Bowyer
Arweinydd Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
029 2057 3614
Carwyn Evans
Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
029 2057 3460
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae yma i bawb ei defnyddio.
Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, wedi ein lleoli ledled y wlad. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy rannu stori Cymru, yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ymestyn i bobl o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Gallwch chi chwarae eich rhan yn stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno, cyfrannu.