Datganiadau i'r Wasg
Heddlu De Cymru yn ymchwilio mewn i ladrad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dyddiad:
2025-10-06Oddeutu 12:30am bore ‘ma (Dydd Llun, Hydref 6) fe gafwyd adroddiad fod yna ladrad wedi bod yn yr amgueddfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn credu bod dau berson wedi torri ffordd mewn i’r prif adeilad lle cafodd nifer o eitemau gan gynnwys gemwaith aur o’r Oes Efydd ei dwyn o gasyn.
Mae’r ymchwiliad dal yn mynd yn ei flaen ac rydym yn apelio at unrhyw un sydd gydag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda ni.
Mi all unrhyw wybodaeth fod o fudd yn yr ymchwiliad.”
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru:
“Fel amgueddfa rydym wedi ein tristau yn fawr gan ddigwyddiadau oedd yn ymosodiad wedi ei dargedu tuag at Sain Ffagan Amgueddfa Hanes Cymru. Mae'r eitemau sydd yn debygol o fod wedi eu dwyn yn dod o oriel Cymru ... ac yn cynnwys enghreifftiau o emwaith aur o’r Oes Efydd.
Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am ei gwaith yn yr ymchwiliad a’i hymateb cyflym yn dilyn yr alwad yn oriau mân y bore. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i’r aelodau o staff oedd yn gweithio dros nos am ddilyn pob protocol ac rydym yn ddiolchgar bod dim aelodau o staff wedi cael ei hanafu yn ystod y digwyddiad.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth a fyddai modd cysylltu gyda Heddlu De Cymru gan nodi 2500319252.