Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae dau ddyn wedi'u harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.Cafodd y dynion, 43 a 50 oed o Northampton, eu harestio'r prynhawn yma ac maent yn y ddalfa yn Swydd Northampton.Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r fwrgleriaeth y rhoddwyd gwybod amdani tua 12.30am fore ddoe (dydd Llun, 6 Hydref).Cafodd sawl eitem, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gwpwrdd arddangos yn y prif adeilad.Mae chwiliadau'n parhau am yr eitemau a gafodd eu dwyn.Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru: “Mae'r ddau arestiad hwn yn ddatblygiad hynod arwyddocaol yn yr ymchwiliad.“Hoffem ddiolch i'r amgueddfa am eu cymorth parhaus, i Heddlu Swydd Northampton, ac aelodau o'r cyhoedd a wnaeth ymateb i'n hapêl am wybodaeth.”
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch o glywed am y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Heddlu De Cymru am ymateb mor gyflym i'r digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw gyda'u hymholiadau parhaus. Unwaith eto, diolch i'n staff, y gymuned leol ac i'r cyhoedd ehangach am eu cymorth wrth i ni ymateb i'r digwyddiad hwn.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500319180.
.🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.