Datganiadau i'r Wasg

Gallwch chi greu hanes a helpu i enwi ein mamoth newydd

Cyhoeddi rhestr fer o enwau wedi'u cynnig gan y cyhoedd 

Mae'r mamoth i'w weld yn y Brif Neuadd

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros hanner tymor yr hydref bleidleisio ar enw i atyniad mwyaf newydd yr Amgueddfa – y replica o sgerbwd mamoth gafodd ei brintio mewn 3D sydd nawr yn y Brif Neuadd. 
 

Ers lansio'r gystadleuaeth ddechrau gwyliau'r haf mae ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a gwefan Amgueddfa Cymru wedi gallu cynnig enw i'r mamoth newydd. Ar ôl derbyn 1400 a mwy o gynigion, mae ein panel wedi creu rhestr fer o dri enw sef:   
 

⁠1)  Morus 
 

2)  Macsen 
 

3) Tom Bones 
 

Nawr rydyn ni'n gwahodd y cyhoedd i ymweld â'r Amgueddfa i fwrw eu pleidlais a helpu i enwi ein mamoth blewog.   
 

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: 
 

"Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan yr ymateb rhyfeddol i'r ymgyrch enwi, ac rydyn ni wedi derbyn dros 1,400 o enwau. Diolch o galon i bawb wnaeth gyfrannu – roedd torri'r rhestr lawr i dri yn famoth o dasg! 

Dros hanner tymor, rydyn ni'n gwahodd ein hymwelwyr a thrigolion Caerdydd i alw draw i'r Amgueddfa i ymuno yn yr hwyl. Dewch i fwrw pleidlais a helpu'r mamoth blewog i ymgartrefu yng Nghaerdydd drwy ddewis enw perffaith." 
 

Bydd y bleidlais derfynol yn agor ar ddydd Sadwrn 25 Hydref ac ar agor drwy hanner tymor yr hydref tan ddydd Sul 2 Tachwedd. Dim ond drwy ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a rhoi tocyn yn y bwced priodol all pobl bleidleisio.  
 

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y People's Postcode Lottery. Yn ogystal â'r mamoth, mae hyn yn cynnwys arddangosfeydd Picture Post: Eicon o'r Ugeinfed Ganrif a Hip Hop: Stori Cymru sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyn o bryd. ⁠  
 

Dywedodd Laura Chow, Pennaeth elusennau yn People’s Postcode Lottery:
 

“Mae’n wych gweld gymaint o bobl yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Enwi’r Mamoth’ ar greadigrwydd mae wedi’i ysbrydoli. Mae sgerbwd y mamoth yn anhygoel ac yn amlwg wedi dal dychymyg y cyhoedd. Rydw i’n falch bod cefnogaeth wrth ein chwaraewyr wedi helpu gallu gwneud hyn yn bosib ac y byddem yn annog pawb i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros hanner tymor i daro’i phleidlais." 
 

Bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi gan Amgueddfa Cymru ym mis Tachwedd. 
 

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â:  

Carwyn Evans, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru carwyn.evans@amgueddfacymru.ac.uk 

 

 

NODIADAU I OLYGYDDION: 

  • - Roedd y mamothiaid yn byw ochr yn ochr â phobl (Homo sapiens a Neanderthal), ac roedd pobl yn eu hela er mwyn bwyta'r cig a defnyddio'r ffwr ar gyfer dillad, cytiau ac ati.


  • - Ym Mhrydain adeg y mamothiaid, roedd yna hefyd rinoseros blewog, cawrgeirw, udfilod, eirth ogof a cheffylau.   
  •  
  • Roedd y mamoth blewog yn un o nifer o wahanol fathau o famoth oedd yn fyw yn y gorffennol, ac roedd rhywogaeth wahanol yn byw yng Ngogledd America.  
  •  
  • Roedd mamothiaid blewog tua 3.5m o daldra.  

  • Roedd ysgithrau'r mamoth blewog yn troelli ac yn crymu ychydig. 
  •  
  • Roedd rhaid i famothiaid blewog fwyta hyd at 180kg o blanhigion y dydd, gan dreulio hyd at 20 awr y dydd yn pori. 
  •  
  • Cafodd y mamoth ei wneud drwy greu sgan 3D o'r sgerbwd sydd i'w weld yn y Ganolfan Ddarganfod yn Craven Arms, Swydd Amwythig. 
  •  
  • Cafodd yr esgyrn a'r ysgrithrau eu printio mewn 3D a'u paentio i edrych fel esgyrn.   
  •  

 Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. ⁠  

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.   

Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.    

Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

 

www.amgueddfa.cymru